Darlledu yng Nghymru: y newyddion diweddaraf ers yr adroddiad y Darlun Mawr

Cyhoeddwyd 12/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ym mis Chwefror 2017, cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu 'Y Darlun Mawr', sef adroddiad yn nodi ei safbwyntiau cychwynnol ar ddarlledu yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn yn dilyn cyfarfodydd gyda'r BBC, ITV, S4C a'r diwydiant rheoleiddio - Ofcom - yn yr hydref 2016. Yr wythnos hon, sef dydd Mercher 14 Mehefin, bydd y Cynulliad yn trafod yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn.

Ers cyhoeddi'r adroddiad bu datblygiadau arwyddocaol yn ymwneud â'r BBC ac S4C, sianel Gymraeg S4C.

Y BBC: rheoleiddiwr a phecyn cyllid newydd

Yn Y Darlun Mawr, mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch lefel y cyllid ar gyfer teledu cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Rhwng 2006-7 a 2014-15, bu gostyngiad o rhwng £24.6 miliwn a £20.8 miliwn yng ngwariant BBC Cymru Wales ar raglenni teledu cyfrwng Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru, cyn codi i £22.5 miliwn yn 2015-16.

Mae'r Arglwydd Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, wedi cydnabod ers peth amser y broblem sy'n ymwneud â chyllid ar gyfer darlledu yn Saesneg yng Nghymru. Ym mis Mai 2016, dywedodd yr Arglwydd Hall fod y cyllid ar gyfer cynnwys Saesneg a wneir yng Nghymru ar gyfer cynulleidfa Cymru wedi gostwng yn anghynaliadwy o isel.

O ganlyniad, ategodd y Darlun Mawr alwad Llywodraeth Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig a Phwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad blaenorol am £30 miliwn ychwanegol bob blwyddyn i ddarlledu yn Saesneg yng Nghymru. Ym mis Chwefror 2017, cyhoeddodd y BBC £8.5 miliwn o gyllid ychwanegol bob blwyddyn ar gyfer rhaglenni Saesneg ar gyfer Cymru, gan haeru y byddai hynny’n sicrhau dros 130 o oriau o raglenni ychwanegol bob blwyddyn ar BBC One Wales, BBC Two Wales a BBC iPlayer.

Drannoeth y cyhoeddiad ynghylch y cyllid i Gymru, cyhoeddodd y BBC ei setliad ariannol ar gyfer y BBC yn yr Alban. Roedd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer sianel newydd, BBC Scotland, sef £19 miliwn y flwyddyn, ynghyd ag £20 miliwn ychwanegol i gynhyrchu rhaglenni rhwydwaith yn yr Alban. Cyfanswm y cyllid newydd ar gyfer yr Alban oedd £39 miliwn y flwyddyn. Mae'r BBC wedi egluro bod yr £20 miliwn ychwanegol ar gyfer creu rhaglenni rhwydwaith o ganlyniad i'r BBC yn methu â chyrraedd ei thargedau mewn perthynas â hyn yn yr Alban yn y gorffennol.BBC Logo

Roedd Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn credu y gallai’r cyllid a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru ym mis Chwefror “fod yn uwch” ond, er hynny, roedd yn ei “groesawu” a byddai’r arian newydd yn “caniatáu i’r BBC gomisiynu rhagor o raglenni sy’n creu darlun cywir o fywydau pobl Cymru”.

Meddai Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, "Wales is being treated disgracefully, as there are no apparent plans for a similar channel or investment here” and called on “BBC Cymru Wales to revisit the package announced yesterday and return with more imaginative and far-reaching proposals, similar to the ones being planned for Scotland"

Ers mis Ionawr 2017, mae gan Ofcom rôl newydd fel rheoleiddiwr allanol cyntaf y BBC ac, ar hyn o bryd, mae’n ymgynghori ynghylch sut y dylai gyflawni'r rôl hon. Mae'r Pwyllgor wedi trafod gydag Ofcom a Phwyllgor Ymgynghorol Ofcom i ba raddau y bydd y trefniadau hyn yn datrys yr hyn a ystyrir yn broblemau hirsefydlog, fel y portread o fywyd yng Nghymru ar raglenni rhwydwaith y BBC.

Mae rôl newydd Ofcom yn cynnwys sicrhau bod cynulleidfaoedd yng ngwledydd unigol y DU yn cael eu “gwasanaethu’n dda” a sicrhau cynnyrch a gwasanaethau pwrpasol ar gyfer y gwledydd hyn. Yn ogystal â phlismona cynnwys, bydd Ofcom yn gyfrifol am sicrhau bod cyfran briodol o raglenni rhwydwaith yn cael eu gwneud y tu allan i Lundain, gan gynnwys ym mhob un o wledydd y DU.

Mae Ofcom yn cynnig cysylltu gwariant sylfaenol a nifer y cynyrchiadau rhwydwaith â chyfran poblogaeth y DU a geir yn y gwledydd unigol a rhanbarthau Lloegr. Byddai hyn yn golygu y byddai angen i o leiaf 5% o’r hyn y mae’r BBC yn ei wario ar gynyrchiadau rhwydwaith y DU gael ei wario yng Nghymru: yn 2015-16 gwariodd y BBC 7.1% (neu £59.2 miliwn) o'i wariant ar rwydwaith y DU yng Nghymru.

Ar 28 Mehefin, bydd y Pwyllgor yn cyfarfod â'r Arglwydd Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC. Y materion sy’n sicr o fod yn flaenllaw yn y trafodaethau fydd yr £8.5 miliwn o gyllid ychwanegol y cytunwyd i’w ddyrannu bob blwyddyn, ymdrechion y BBC i wella’r modd y caiff bywyd yng Nghymru ei bortreadu ar raglenni’r rhwydwaith a’r modd y mae Ofcom yn bwriadu rheoleiddio'r sianel.

S4C: aros am adolygiad annibynnol

Ar 18 Mai, yn y sesiwn olaf gyda'r sianel, daeth ymchwiliad y Pwyllgor i Ddyfodol S4C i ben. Mae Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth y DU wedi comisiynu adolygiad annibynnol o S4C, ac mae'r Pwyllgor yn awyddus i gynhyrchu darn o waith i gyfrannu at yr adolygiad hwn. Mae'r sianel wedi gosod allan ei gweledigaeth ei hun ar gyfer ei dyfodol yn y ddogfen S4C: Gwthio’r ffiniau.

S4 logo

Soniodd y tystion a gyfrannodd at ymchwiliad y Pwyllgor am effaith negyddol y toriadau parhaus i gyllideb S4C. Yn 2011-12, cafodd S4C £101 miliwn gan adran DCMS Llywodraeth y DU. Yn 2016-17 cafodd y sianel £81.3 miliwn o arian cyhoeddus (£74.5 miliwn gan ffi'r drwydded deledu a £6.8 miliwn gan DCMS). Mae S4C wedi galw am adolygiad "agored a thryloyw" o drefniadau ariannu’r sianel i benderfynu "faint o gyllid sy’n ddigonol ar gyfer S4C yn awr ac yn y tymor hir". Mae’n galw ar Lywodraeth y DU i:

  • greu sefydlogrwydd drwy ddarparu cyllid digonol dros gyfnod penodol a sylweddol
  • parhau i ddefnyddio ffynonellau amrywiol i ariannu’r sianel
  • buddsoddi mwy.

Un thema allweddol arall a ddaeth i’r amlwg yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor oedd nad yw cylch gwaith statudol S4C - sy'n egluro’r hyn y gall y sianel yn ei wneud, ac nad yw wedi newid yn y bôn ers lansio’r sianel yn 1982 - yn addas i ddarlledwr modern yn yr oes ddigidol . Dyma’r ddwy brif feirniadaeth:

  • Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn cyfeirio at y ffaith bod S4C yn darparu rhaglenni i’w "darlledu ar y teledu": nid yw hyn yn ddigon eang i gynnwys holl weithgarwch darlledwyr modern a chorff sy’n darparu cynnwys ar gyfer y cyfryngau.
  • Mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn cyfeirio at y ffaith bod gwasanaethau teledu S4C “ar gael i’w derbyn yn gyfan gwbl neu’n bennaf gan aelodau’r cyhoedd yng Nghymru”. Nid yw hyn yn cyd-fynd â rôl darlledwr modern: mae 45% o wylwyr wythnosol S4C yn byw y tu allan i Gymru.

Bydd y Pwyllgor yn awr yn ystyried y dystiolaeth a gafodd tra bydd yn drafftio’i adroddiad. Bydd pawb sydd â diddordeb yn nyfodol y sianel wedyn yn troi eu golygon at DCMS, a manylion yr adolygiad annibynnol hirddisgwyliedig.


Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llun o Flickr gan Dailinvention. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Darlledu yng Nghymru: y newyddion diweddaraf ers yr adroddiad y Darlun Mawr (PDF, 210KB)