Gwiriad iechyd ariannol - a yw byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru wedi bodloni eu dyletswyddau ariannol?

Cyhoeddwyd 15/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/11/2022   |   Amser darllen munudau

Cyfrifon blynyddol cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru ar gyfer 2016-17 yw'r adroddiadau cyntaf ar berfformiad yn erbyn y ddyletswydd ariannol statudol gyntaf a gyflwynwyd yn sgil Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014.

Cafodd cyfrifon blynyddol ar gyfer 2016-17 y saith bwrdd iechyd lleol a'r tair Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru eu gosod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 9 Mehefin 2017.

Beth yw'r dyletswyddau ariannol statudol?

O dan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, roedd yn ofynnol i bob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru sicrhau nad yw'r defnydd o'i adnoddau mewn blwyddyn ariannol yn rhagori ar y terfynau gwariant a osodwyd gan Weinidogion Cymru ar ei gyfer mewn perthynas â'r flwyddyn honno.

Ar 1 Ebrill 2014, roedd Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 yn diwygio Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, gan ddisodli'r ddyletswydd i fantoli'r cyfrifon bob blwyddyn â gofyniad ar fyrddau iechyd lleol i reoli eu hadnoddau o fewn terfynau a gymeradwywyd dros gyfnod treigl o dair blynedd. Gelwir hon y ddyletswydd ariannol statudol gyntaf. Rhagwelwyd y byddai'r newid hwn yn y gofyniad yn rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen ar fyrddau iechyd lleol yng Nghymru i alluogi gwasanaeth mwy hirdymor, i gynllunio'r gweithlu a'r sefyllfa ariannol a helpu i sicrhau bod y broses o drawsnewid gwasanaethau gofal iechyd yn un gynaliadwy.

Caiff gwaith cynllunio ariannol mewn ymateb i Ddeddf 2014 ei ategu gan yr ail ddyletswydd statudol, sy'n ei gwneud yn ofynnol bod pob bwrdd iechyd lleol yn paratoi Cynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd dreigl a gaiff ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

Roedd Cylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2016/054 yn egluro'r dyletswyddau ariannol statudol ar gyrff y GIG yng Nghymru ac yn cadarnhau, er bod newid y ddeddfwriaeth yn sgil Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 yn ymwneud â byrddau iechyd lleol, roedd y ddwy ddyletswydd ariannol hefyd yn berthnasol i Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru.

Sut y caiff y perfformiad yn erbyn y ddyletswydd ariannol gyntaf ei fesur?

Mae Atodlen 9 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG baratoi cyfrifon blynyddol. Mae Adran 61 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn ei gwneud yn ofynnol bod y cyfrifon blynyddol hyn yn cael eu harchwilio a'u hardystio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sydd hefyd yn gyfrifol am osod copi o'r cyfrifon ardystiedig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae cyfrifon blynyddol byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG yn adrodd ar eu perfformiad yn erbyn y ddwy ddyletswydd ariannol.

A yw byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG wedi bodloni'r ddyletswydd ariannol gyntaf?

Roedd y cyfnod cyntaf o dair blynedd o dan y ddyletswydd ariannol gyntaf yn rhedeg o 2014-15 i 2016-17. Cafodd perfformiad yn erbyn y ddyletswydd hon ei asesu am y tro cyntaf yn 2016-17 ac adroddir yn ei gylch yn y cyfrifon blynyddol ar gyfer 2016-17.

Mae pob ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru wedi bodloni'r ddyletswydd statudol gyntaf drwy fantoli eu cyfrifon. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn wir ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol. Dim ond tri bwrdd iechyd lleol sydd wedi nodi eu bod wedi bodloni'r ddyletswydd ariannol statudol gyntaf drwy weithredu o fewn eu terfyn gwario refeniw dros y cyfnod o dair blynedd o 2014-15 i 2016-17. Nid oedd y pedwar bwrdd iechyd lleol arall wedi bodloni'r ddyletswydd gyntaf, ac roeddent yn nodi gorwariant dros y tair blynedd o 2014-15 i 2016-17. Roedd y sefyllfa gyfanredol ar gyfer yr holl fyrddau iechyd lleol am y cyfnod o dair blynedd hyd at 2016-17 yn orwariant net o £253 miliwn. Dangosir y sefyllfa a nodwyd yn erbyn y terfyn gwario refeniw ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol isod:

Mae pob un o'r saith bwrdd iechyd lleol wedi aros o fewn eu terfynau ar gyfer gwariant cyfalaf dros y cyfnod o dair blynedd o 2014-15 i 2016-17.

A yw byrddau iechyd lleol wedi bodloni'r ail ddyletswydd ariannol?

Mae'r cyfrifon blynyddol ar gyfer cyrff y GIG yng Nghymru o 2014-15 ymlaen yn nodi a yw byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG wedi cyflawni'r ail ddyletswydd ariannol. Ceir crynodeb o'r perfformiad isod: Mae nifer o gyrff y GIG wedi cyflwyno cynllun un-flwyddyn, am nad yw eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig wedi cael eu cymeradwyo.

Beth yw effaith y diffygion a nodwyd?

Mae Paragraff 22, Amgaead 1 o Gylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2016/054 yn nodi fel a ganlyn:

Failure to achieve the first financial duty is viewed as a serious matter by the Welsh Government and will be considered in accordance with the NHS Wales Delivery Framework included annually in the IMTP guidance and the escalation and intervention arrangements in the NHS in Wales.

Mewn datganiad ysgrifenedig ar 9 Mehefin 2017, nododd Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r pryderon o ran perfformiad ariannol yn y pedwar bwrdd iechyd lleol a nododd orwariant yn y cyfnod o dair blynedd o 2014-15 i 2016-17. Roedd hyn yn cynnwys monitro eu perfformiad ariannol a chynnal adolygiadau llywodraethu ariannol. Nododd Ysgrifennydd y Cabinet y “daeth yr adolygiadau hyn i ben yn ddiweddar, a byddwn yn ystyried y gwersi i'w dysgu ac unrhyw gamau gweithredu dilynol sydd eu hangen ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd hon”.

Nododd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd fel a ganlyn:

Mae cymorth ariannol ychwanegol yn parhau i gael ei roi yn ôl yr angen i'r holl fyrddau sydd mewn diffyg ariannol i'w galluogi i gyflawni eu hymrwymiadau arian cyffredinol gan gynnwys gwariant y gyflogres. Mae modd ad-dalu'r cymorth ariannol hwn yn ystod blynyddoedd ariannol y dyfodol pan fo'n briodol, a chaiff cynlluniau gwell eu datblygu a'u cymeradwyo o dan y Ddeddf er mwyn ad-dalu'r diffygion ariannol.

Bydd y gofyniad i ad-dalu'r cymorth ariannol a'r gorwariant yn ychwanegu at y pwysau ariannol cyfredol ar fyrddau iechyd lleol yn y byrdymor a'r hirdymor. Caiff y ddyletswydd ariannol gyntaf ei hasesu ar sail cyfnod treigl o dair blynedd. Felly, caiff unrhyw orwariant ar gyfer 2015-16 a 2016-17 ei asesu y flwyddyn nesaf yn erbyn perfformiad ariannol byrddau iechyd lleol yn 2017-18. Mae gwerth cyfanswm y gorwariant a nodwyd gan bedwar bwrdd iechyd lleol ar gyfer 2015-16 a 2016-17 yn £198 miliwn.

Mae GIG Cymru yn wynebu pwysau o ran cynaliadwyedd a chyllid yn yr hirdymor, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio fwyfwy gyda mwy o afiachusrwydd, cyfradd gynyddol uwch o ordewdra a chyflyrau sy'n gysylltiedig â hynny a datblygiadau o ran technoleg sy'n arwain at gyflwyno triniaethau mwy cymhleth.

Mae nifer o adroddiadau diweddar wedi tynnu sylw at y pwysau sy'n wynebu gofal iechyd yng Nghymru. Roedd adroddiad y Sefydliad Iechyd The path to sustainability: Funding projections for the NHS in Wales to 2019/20 and 2030/31 (Hydref 2016) yn nodi bod y GIG yng Nghymru yn wynebu'r cyfnod mwyaf heriol yn ei hanes o safbwynt ariannol, a bod y symiau y mae angen eu harbed yn hynod heriol. Mae'r adroddiad yn nodi bod angen arian ychwanegol ar GIG Cymru, ond hefyd bod angen gwella effeithlonrwydd a chyflwyno gwasanaethau wedi'u haddasu i ddiwallu anghenion newidiol cleifion.

Yn yr un modd, mae adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru Efficiency and the NHS Wales Funding Gap (Hydref 2016) yn nodi bod angen gwella effeithlonrwydd a newid gwasanaethau, ond hefyd bod angen dull cenedlaethol mwy strategol a chyson i wella effeithlonrwydd ac i gefnogi newid. Mae Conffederasiwn GIG Cymru hefyd wedi tynnu sylw at y pwysau ariannol sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru ac wedi dadlau y bydd angen gwneud rhai dewisiadau anodd mewn perthynas â gwasanaethau a blaenoriaethau yn y dyfodol mewn amgylchedd lle bydd cyllid yn parhau i fod yn eithriadol o dynn.

Mae datganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet ar 9 Mehefin 2017 yn nodi ei fod yn hyderus bod y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi adennill ei chostau yn gyffredinol yn 2016-17. Ar yr un pryd, mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod heriau ariannol parhaus ac yn y dyfodol yn parhau i fod.


Erthygl gan Dr Paul Worthington a Joanne McCarthy, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Gwiriad iechyd ariannol - a yw byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru wedi bodloni eu dyletswyddau ariannol? (PDF, 427KB)