Gadael yr Undeb Ewropeaidd, amaethyddiaeth a bywyd gwledig yng Nghymru: Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar 28 Mawrth 2017 yn wreiddiol. Mae’n cael ei phostio eto cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mehefin 2017.

Yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE, lansiodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymchwiliad i Ddyfodol Polisïau Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yng Nghymru.

Casglodd y Pwyllgor gyfoeth o dystiolaeth dros chwe mis yr ymchwiliad, gan glywed gan, ymysg eraill, undebau ffermio, academyddion, amgylcheddwyr, coedwigwyr, cynrychiolwyr LEADER, y diwydiant twristiaeth ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Roedd yn cynnwys gweithdy i randdeiliaid, sesiynau tystiolaeth llafar, tystiolaeth ysgrifenedig a sgwrs ar-lein.

Ymwelodd y Pwyllgor â ffermydd yng Ngheredigion ac Eryri i ddysgu mwy am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ffermwyr a’r rhai sy’n gweithio yn yr economi wledig. Bu dirprwyaeth yn ymweld ag Iwerddon hefyd i glywed o lygad y ffynnon am raglen Burren i ddysgu am gynlluniau amaethyddol yn seiliedig ar ganlyniadau sy’n ffafrio adfer cynefinoedd.

Mae’r Pwyllgor bellach wedi cyhoeddi ei adroddiad, Dyfodol Rheoli Tir yng Nghymru  (PDF, 2.27MB) sy’n nodi argymhellion i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy’n seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad.

Mae’r adroddiad wedi’i rannu’n ddwy rhan.

Mae rhan 1 yn trafod yr heriau uniongyrchol sy’n wynebu sector amaethyddol Cymru o ganlyniad i’r penderfyniad i adael yr UE. Dyma rai o gasgliadau allweddol yr adroddiad:

Mynediad i Farchnad Sengl yr UE:

Mae’r risgiau o fethu â chael cytundeb masnach gyda’r UE yn ddifrifol – bydd masnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd yn hynod niweidiol i’r sector amaethyddol yng Nghymru. Rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau na fydd cynhyrchwyr Cymreig, gan gynnwys cynhyrchwyr cig oen Cymru, yn agored i’r risgiau difrifol sy’n deillio o gyfyngiadau ar fynediad i farchnadoedd y DU a gosod tariffau.

Lefel briodol o gyllid:

Rhaid i Lywodraeth y DU barhau i ddarparu cyllid ar gyfer datblygiad amaethyddol a gwledig yng Nghymru ar lefel bresennol cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) tan o leiaf 2020/21. Ar ôl hynny, y meincnod pwysicaf fydd cylch nesaf PAC, o 2021-2027. Yn ei dro, rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i wario’r cyllid hwnnw ar amaethyddiaeth a datblygu gwledig. Mae’n rhaid i wledydd cyfansoddol y DU gytuno gyda’i gilydd ar ddull i bennu cyllid yn y tymor hwy.

Fframwaith rheoleiddio sy’n cefnogi’r sector amaethyddol:

Mae’r fframwaith rheoleiddio presennol yn cynnal safonau cynhyrchu sy’n caniatáu mynediad i Farchnad Sengl yr UE a thu hwnt. Dylai’r cyfle i ddiwygio rheoliadau ystyried safbwyntiau cynhyrchwyr bwyd. Dylai unrhyw reoliadau yn y dyfodol gefnogi cynhyrchu bwyd o safon uchel a sicrhau’r mynediad ehangaf posibl i farchnadoedd.

Mynediad i lafur:

Mae pryder dealladwy yng Nghymru y gallai gostyngiad mewn llafur mudol gael effaith negyddol ar y sector amaethyddol a’r sector prosesu bwyd. Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ystyried anghenion llafur Cymru wrth bennu polisi mewnfudo yn y dyfodol.

Dylai Llywodraeth Cymru achub ar y cyfle hwn i ystyried ei gwaith cynllunio gweithlu ar gyfer y sector amaethyddol a’r sector prosesu bwyd.

Trefniadau pontio:

Mae angen trefniadau pontio cynhwysfawr er mwyn lleihau unrhyw effaith negyddol sy’n deillio o’r DU yn gadael yr UE ac i roi cymaint o sicrwydd â phosibl i’r sector yng Nghymru. Dylai pob gweinyddiaeth ddatganoledig gytuno ar unrhyw drefniant ariannu sy’n cwmpasu’r cyfnod interim hwn.

Rydym yn credu y bydd angen cyfnod pontio sy’n cyfateb i hyd y cylchoedd PAC presennol a nesaf ar unrhyw newidiadau i drefniadau ariannu sy’n sylweddol wahanol i’r model ariannu PAC presennol.

Mae rhan 2 yn edrych ar y potensial o fodel talu a chymorth ar gyfer rheoli tir sy’n seiliedig ar ganlyniadau cynaliadwy. Mae’n galw am gyflawni canlyniadau yn y meysydd canlynol:

  • Trechu newid hinsawdd, gan gynnwys atal llifogydd a gwella ansawdd dŵr;
  • Cefnogi sector cynhyrchu bwyd gwydn ac sy’n fwy hunan-ddibynnol, gan gynhyrchu bwyd o’r safon uchaf;
  • Cynnal coedwigaeth a choetiroedd cynaliadwy;
  • Diogelu a gwella bioamrywiaeth;
  • Rheoli’r dirwedd er budd twristiaeth, hamdden a chymunedau lleol; a
  • Meithrin y Gymraeg a chymunedau gwledig ffyniannus.

Mae’r Pwyllgor o’r farn bod yr adroddiad yn gyfraniad pwysig wrth lywio’r ddadl ar oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd o ran rheoli’r tir yng Nghymru.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a’r gwaith sydd ar y gweill ar ei wefan.


Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun: o Flickr gan Andrew. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu:  Gadael yr Undeb Ewropeaidd, amaethyddiaeth a bywyd gwledig yng Nghymru: Pwyllgor Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad (PDF, 158KB)