Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfau newydd

Cyhoeddwyd 23/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei Rhaglen Ddeddfwriaethol am y 12 mis nesaf. Bydd y Rhaglen yn nodi'r rhestrau o filiau neu gyfreithiau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gosod gerbron y Cynulliad i'w hystyried. Mae'n nodi blaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer deddfwriaeth ac yn dangos sut mae'n bwriadu cyflawni'r ymrwymiadau yn ei Rhaglen Lywodraethu.

Y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru nodi ei chynlluniau deddfwriaethol (PDF 135KB) oedd 28 Mehefin 2016. Roedd y datganiad hwnnw yn cynnwys cynigion ar gyfer chwe bil, dau ar drethi datganoledig, undebau llafur, anghenion dysgu ychwanegol a diddymu'r Hawl i Brynu. Mae'r biliau hyn wedi mynd drwy broses ddeddfu'r Cynulliad neu wrthi'n mynd drwy'r broses honno.

Disgwylir i'r ffaith bod angen cyflwyno deddfwriaeth yn ymwneud â'r DU yn gadael yr UE effeithio ar y Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ddydd Mawrth. Gallai gynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru weithio ar ddeddfwriaeth sylfaenol y DU fel y biliau amaethyddiaeth a physgodfeydd a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines, yr angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei deddfwriaeth sylfaenol ei hun i'r Cynulliad yn ymwneud â gadael yr UE a'r angen i basio is-ddeddfwriaeth i wneud y corff o gyfraith yr UE a fydd yn cael ei drosglwyddo i gyfraith y DU gan Fil Diddymu neu Fil Parhad a fydd yn gweithio ar y diwrnod y bydd y DU yn gadael yr UE.

Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Allanol ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC, wrth y Pwyllgor:

I think what we envisage is that we will have to reprioritise the resources that we have, rather than assuming that we will just need more. We’re going to have to redirect some resources from elsewhere to be able to deal with this job of work, because this job of work has to be done, and it has to be done relatively urgently, and it may well have some knock-on effects for the Government’s legislative programme.
Things that we’ve got planned, we may have to adjust in order to be able to release resources to cope with this. Just as, it may well be—as I’m sure you’ll have heard—that the Assembly itself will have to think about how its time may have to be renegotiated in order to be able to carry out the scrutiny functions that the Assembly will have.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am oblygiadau posibl Bil Diddymu yn ein herthyglau blog ar Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ar Ddeddfu ar gyfer Brexit ac adroddiad Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad ar y Papur Gwyn.


Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfau newydd (PDF, 113KB)