Y trydydd sector yng Nghymru: a yw’n annibynnol ar y Llywodraeth ynteu a yw’n gangen arall ohoni?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r pos jig-so o ran sefyllfa ariannu’r trydydd sector yng Nghymru yn gymhleth: mae tua 31 y cant o incwm y sector yn deillio o arian cyhoeddus, 21% o roddion cyhoeddus, a 39% o fasnachu a buddsoddiadau. Golyga hyn fod cyrff y trydydd sector yng Nghymru yn dibynnu ar amrediad o gysylltiadau gyda’r cyhoedd, gyda busnesau a chyda Llywodraethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol i gynnal eu gweithgareddau—gweithgareddau sy’n aml yn darparu gwasanaethau ar ran y sector cyhoeddus, neu yn ei absenoldeb.

Bydd y sector yn wynebu nifer o heriau yn y blynyddoedd nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys cyllidebau cyhoeddus sy’n crebachu (gan gynnwys ansicrwydd ynghylch cyllid gan yr UE), camau i amrywio ei sylfaen gyllido, ymdrechion i ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd yn sgil sgandalau proffil uchel, a’r dasg o reoli cysylltiadau effeithiol gyda gwahanol Lywodraethau sy’n arddel dulliau gweithredu gwahanol o ran rheoleiddio, lobïo a rhoi grantiau.

Sut y mae’r cyfnod o gynni yn y sector cyhoeddus a’r rheolaeth gynyddol o arian cyhoeddus wedi effeithio ar y sector? A yw dibyniaeth ariannol y sector yn rhwystr i graffu cyhoeddus? Yn ogystal, sut y bydd y sector yn gynaliadwy yn ariannol yn y blynyddoedd i ddod?

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘cymdeithas sifil’ a’r ‘trydydd sector’?

graff yn dangos y cyfrannau o gyllid y mae'r trydydd sector yn eu cael o wahanol ffynonellauMae’r rhyddid i ymgysylltu yn hawl dynol sylfaenol. Mae’r term hwn yn cyfeirio at y rhyddid i ffurfio neu ymuno â grwpiau er mwyn gwarchod buddiannau, hyrwyddo credoau, a gwella cymunedau.

Mae’r term ‘cymdeithas sifil’ yn cyfeirio at bron pob math o weithgaredd cymdeithasol sy’n cael ei drefnu’n annibynnol ar y Llywodraeth: gan elusennau, undebau llafur, pleidiau gwleidyddol a sefydliadau proffesiynol, ymhlith eraill. Fodd bynnag, y term culach a ddefnyddir yn gyffredin yw ‘trydydd sector’, sy’n cynnwys elusennau a mentrau cymdeithasol, ond sy’n hepgor mudiadau eraill sy’n rhan o’r gymdeithas sifil, fel undebau llafur.

Mae’r gymdeithas sifil a’r trydydd sector yn darparu:

  • gwasanaethau i bobl (sydd naill ai’n ategu gwaith Llywodraethau, neu’n llenwi bwlch lle nad oes gwasanaethau ar gael);
  • cyngor i Lywodraethau, a
  • chymorth o ran sicrhau bod Llywodraethau’n atebol i’w dinasyddion drwy ddatgelu problemau a hyrwyddo camau cywiro.

Cyllid

Cafodd y trydydd sector yng Nghymru gyllid gwerth tua £290 miliwn (PDF 1.57MB) yn 2015-16 gan Lywodraeth Cymru. Cafwyd tua £250 miliwn o gyllid gan awdurdodau lleol (PDF 601KB) – cynnydd o 165% ers 2001-02. Golyga hyn fod tua thraean o gyfanswm incwm y sector yn deillio o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ym mis Ebrill 2016 (PDF 278KB) fod “rhai sefydliadau…yn dibynnu mwy nag eraill ar gymorth gan y Llywodraeth” a bod y “lefel bresennol o gyllido yn annhebygol o fod yn gynaliadwy yn y dyfodol”. Er mwyn helpu sefydliadau ddod o hyd i gyllid yn lle’r arian hwn, dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith i wella sgiliau codi arian yn y sector.

Yn 2014, adnewyddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun trydydd sector a’i chod ymarfer ar gyfer ariannu. Mae’r Llywodraeth yn gwneud defnydd cynyddol o gontractau caffael er mwyn dyrannu cyllid, yn hytrach na defnyddio grantiau.

Mae’r cyllid y mae llywodraeth leol yn ei ddarparu i’r trydydd sector yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y degawd diwethaf. Fodd bynnag, yn ddiweddar, daeth Swyddfa Archwilio Cymru  i’r casgliad (PDF 1.57MB) nad oes gan y mwyafrif o awdurdodau lleol “ddull strategol effeithiol o weithio gyda’r trydydd sector”, a bod “anghysondebau o ran trefniadau awdurdodau lleol ar gyfer ariannu’r trydydd sector yn golygu ei bod yn anodd dangos gwerth am arian”.

Mae tua 67% o incwm y trydydd sector yng Nghymru yn deillio o ffynonellau nad ydynt yn rhai cyhoeddus, fel rhoddion cyhoeddus, masnachu a buddsoddi, y Loteri Genedlaethol a chefnogaeth gan fusnesau. Yn dilyn nifer o ddigwyddiadau proffil uchel yn 2015 (gan gynnwys achosion o gwmnïau codi arian preifat yn targedu pobl a oedd yn agored i niwed), comisiynodd Llywodraeth y DU adolygiad ffurfiol o’r drefn codi arian. Yn sgil yr adolygiad (PDF 620KB), argymhellwyd nifer o newidiadau i’r drefn reoleiddio ar gyfer codi arian yng Nghymru a Lloegr (a gafodd eu derbyn gan Lywodraeth y DU ar y pryd), gan gynnwys: cyflwyno rheoleiddiwr newydd, creu cyfundrefn sancsiynau fwy effeithiol a chreu gwasanaeth dewis codi arian. Mewn ymateb, pasiwyd Deddf Elusennau (Gwarchod a Buddsoddi Cymdeithasol) 2016 ym mis Mawrth 2016. Disgrifiwyd y Ddeddf hon fel a ganlyn: “…one last chance at making self-regulation work, [by introducing a] ‘statutory backstop’”.

Bu nifer o achosion proffil uchel o gamreoli ariannol mewn perthynas ag elusennau yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys:

  • Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA), a gafodd ei ddirwyn i ben yn dilyn datgeliadau bod staff wedi defnyddio arian cyhoeddus ar gyfer ymaelodi â chanolfannau ffitrwydd, talu biliau cerdyn credyd a thalu am docynnau i ddigwyddiadau chwaraeon. Yn 2015, canfu Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad nad oedd Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i adennill tua £300,000 mewn arian cyhoeddus a ddyrannwyd i AWEMA.
  • Cyfaddefodd cyfarwyddwr cyllid sefydliad y Cyrenians, elusen i’r digartref yn Abertawe, ei fod wedi ffugio anfonebau gwerth £1.3 miliwn i’w gyfrif banc ei hun. Roedd y sefydliad wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Abertawe a’r Loteri.
  • Cafodd pennaeth Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc ei charcharu am ddwyn £51,000 mewn arian cyhoeddus.

Craffu a lobïo

Mynegwyd pryderon bod sefydliadau cymdeithas sifil yng Nghymru yn amharod i feirniadu Llywodraeth Cymru rhag ofn iddynt golli cyllid. Dyma farn Sefydliad Bevan ar y pwnc:

Some charities are little more than arm’s-length bodies of the Welsh Government – Ministers’ remit letters to bodies such as the Arts Council of Wales pretty well tell them what to do. Other Welsh charities are substantially funded by the Welsh Government too, and the cash inevitably comes with strings.

Fodd bynnag, yn adroddiad blynyddol diweddaraf Llywodraeth Cymru ar y trydydd sector (PDF 601KB) (2015-16), dywedodd Ruth Marks, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ei bod yn cydnabod y pryder hwn, gan nodi:

Ni [fydd y trydydd sector a Llywodraeth Cymru] yn cytuno bob amser ac nid ydym yn bwriadu ffurfio perthynas sy’n ymddangos yn ‘glyd’, ond yn hytrach un lle mae’r ddau bartner yn herio, sy’n iach mewn cymdeithas agored a thryloyw.

Ysgrifennodd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn y Pedwerydd Cynulliad at y Prif Weinidog ym mis Mawrth 2016, gan ddatgan ei fod yn credu ei bod yn “eithriadol o bwysig y dylai cyrff trydydd sector deimlo’n rhydd i weithredu fel lleisiau beirniadol annibynnol mewn cymdeithas ddinesig.” Lleisiodd bryderon ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu’r trydydd sector yng Nghymru i amrywio ei sylfaen gyllid. Ym mis Mawrth 2014, gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd nad cangen arall o’r Llywodraeth oedd y trydydd sector.

Yn ystod yr ymchwiliad i dlodi a gynhaliwyd gan Bwyllgor Cymunedau’r Pedwerydd Cynulliad,  gofynnodd Jocelyn Davies, un o gyn-Aelodau Plaid Cymru, i sefydliad Chwarae Teg ddatgan ar goedd ei fod yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru (Senedd TV).

Gan gyfeirio at y foment honno, gwnaeth y lobïwr Daran Hill y sylwadau a ganlyn: “…there is a relationship of co-dependency between many parts of the third sector and the Welsh Government. It sometimes feels that whole swathes of the sector have been almost nationalised and therefore, in effect, muzzled.”

Ategwyd y farn hon mewn erthygl arall gan y Sefydliad Materion Cymreig, pan wnaeth Dr Rebecca Rumbul y sylwadau a ganlyn: “…civil society in Wales has undergone a contraction in its plurality [..] exacerbated by the funding regimes put in place by the Welsh Government and its EU funding body WEFO, in which high value and high volume requirements for service providers squeeze out smaller organisations from receiving a share of the funding.” Gellir dadlau bod y wasgfa hon ar sefydliadau llai yn cyd-fynd â threfniadau contractio.

Mae dull gweithredu Llywodraeth y DU yn wahanol. Ym mis Chwefror 2016, cynigiodd y dylid cyflwyno cymal newydd yn yr holl gytundebau grant a oedd yn newydd neu’n cael eu hadnewyddu, a fyddai wedi atal sefydliadau a oedd yn cael grantiau gan Lywodraeth y DU rhag defnyddio’r arian hwn i lobïo Llywodraeth neu Senedd y DU. Fodd bynnag, ym mis Ebrill 2016, yn dilyn beirniadaeth y byddai’r cymal yn bygwth annibyniaeth y sefydliadau hynny, penderfynodd y Llywodraeth oedi mewn perthynas â’r cynnig hwnnw.

Ar y llaw arall, dyma oedd ymateb Llywodraeth Cymru i’r cynnig hwn:  “Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiogelu gallu sefydliadau’r Trydydd Sector yng Nghymru i gymryd rhan mewn deialog adeiladol drwy gefnogi llunio polisïau. Rydym yn credu bod y termau a’r amodau safonol presennol yn effeithiol ac yn gynhwysfawr o ran sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cymeradwy.”

Yn ogystal, cafwyd galwadau i sefydlu cofrestr o lobïwyr yng Nghymru, yn debyg i Seneddau eraill, a hynny er mwyn cynyddu tryloywder. Yn 2013, dywedodd Pwyllgor Safonau’r Cynulliad y dylai’r diwydiant lobïo fod yn destun craffu tynnach ond na ddylid cyflwyno cofrestr lawn. Mae Pwyllgor Safonau cyfredol y Cynulliad hefyd yn cynnal ymchwiliad i lobïo yng Nghymru.

Prosiectau ymchwil

Mae dyfodol cymdeithas sifil Cymru yn cael ei archwilio’n fanwl gan Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) mewn rhaglen bum mlynedd o waith ymchwil. Mae Sefydliad Bevan hefyd yn gwneud darn o waith ar ddyfodol ‘gwneud da’ yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth


Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell: Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Adnodd ystadegol y trydydd sector (PDF 843KB), 2016

 

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu:
Y trydydd sector yng Nghymru: a yw’n annibynnol ar y Llywodraeth ynteu a yw’n gangen arall ohoni? (PDF, 293KB)