Diogelu sefyllfa dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU a gwladolion y DU sy'n byw yn yr UE - beth mae'n ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 29/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r erthygl hon yn cael ei chynhyrchu gan dîm Materion Ewropeaidd a Chyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o'i waith o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w randdeiliaid am y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Dyma'r rhan gyntaf o flog mewn dwy ran ar bapur polisi Llywodraeth y DU - Diogelu sefyllfa dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU a gwladolion y DU sy'n byw yn yr UE. Mae hyn yn nodi cyd-destun y papur, tra bod rhan dau yn nodi ei sylwedd.

Cefndir

Jac yr Undeb a baner Ewrop ar adeilad yn Llundain.Mae Llywodraeth y DU wedi rhyddhau'r papur polisi hwn ar hawliau dinasyddion yr UE fel rhan o'i thrafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd (UE) ynghylch y DU yn gadael yr UE. Mae diogelu ac egluro hawliau dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU a gwladolion y DU sy'n byw yn yr UE wedi bod yn flaenoriaeth trafod a nodwyd ar gyfer yr UE a Llywodraeth y DU.

Ar 12 Ionawr roedd diogelu hawliau ar gyfer dinasyddion yr UE a gwladolion y DU yn yr UE yn un o'r 12 blaenoriaeth trafod a nodwyd gan Lywodraeth y DU. Ym mis Chwefror 2017, rhyddhaodd Adran y DU dros adael yr Undeb Ewropeaidd ei Bapur Gwyn ar y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a'i pherthynas newydd â hi, oedd yn darparu mwy o fanylion am bob un o'r blaenoriaethau hyn.

Mewn ymateb i lythyr y DU yn sbarduno Erthygl 50, nododd y Cyngor Ewropeaidd ei ganllawiau ar gyfer trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Ebrill 2017. Rhan greiddiol o'r canllawiau hyn oedd y byddai dull fesul cam ar gyfer y trafodaethau, lle byddai tynnu'n ôl yn drefnus a datglymu'r Deyrnas Unedig o'r Undeb yn cael ei setlo cyn y gallai unrhyw drafodaethau eraill ddechrau.

Ym mis Mai 2017 dilynodd Cyngor yr UE y canllawiau hyn gyda chyfarwyddebau trafod, oedd yn egluro nodau'r UE ar gyfer cam cyntaf y trafodaethau. Nododd y cyfarwyddebau hyn mai diogelu hawliau dinasyddion yr UE yn y DU:

is the first priority for the negotiations because of the number of people directly affected and of the seriousness of the consequences of the withdrawal for them.

Barn Llywodraeth Cymru ar hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd

Ym mis Ionawr 2017 nododd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru eu barn ar hawliau dinasyddion yr UE ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn eu papur gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gyhoeddwyd. I grynhoi, maent yn credu:

Dylai hawliau i aros mudwyr yr UE sydd eisoes yn byw yng Nghymru gael eu gwarantu ar unwaith a rhaid i bawb sy'n byw yma gael eu trin â pharch cyfartal. Rydym yn galw ar yr UE i roi gwarant cilyddol i ddinasyddion Cymru a'r DU sy'n byw yn yr UE. Rydym yn credu y bydd Cymru’n parhau i fod angen mudwyr o wledydd yr UE i helpu i gynnal ein heconomi sector preifat a’n gwasanaethau cyhoeddus. Yn ein barn ni, yr allwedd yw sicrhau, ar wahân i'r myfyrwyr a'r rhai sydd yn gallu cynnal eu hunain yn annibynnol, rhyddid i bobl symud.

Barn yr UE ar hawliau dinasyddion yr UE

Mae Cyngor yr UE wedi crynhoi ei gyfarwyddeb trafod ar hawliau dinasyddion yr UE ar-lein. Mae'r UE yn mynnu o ran unrhyw warantau hawliau dinasyddion yr UE:

dylent fod yn ddwyochrog ac yn seiliedig ar driniaeth gyfartal ymhlith dinasyddion UE27 ac o gymharu â dinasyddion y DU. Dylai hyn gynnwys, ymhlith pethau eraill, yr hawl i breswylio'n barhaol ar ôl pum mlynedd o breswylio cyfreithiol, gan gynnwys os yw'r cyfnod hwn yn anghyflawn ar y dyddiad tynnu'n ôl, ond yn cael ei gwblhau ar ôl hynny. Mae'r cyfarwyddebau trafod yn nodi y dylai gweithwyr, personau hunangyflogedig, myfyrwyr a phobl anweithgar eraill gael eu cynnwys, yn ogystal â gweithwyr rheng flaen ac aelodau'u teuluoedd. Dylai gwarantau ddiogelu hawliau preswylio a symud rhydd, yn ogystal â'r holl hawliau sydd ynghlwm wrthynt (megis gofal iechyd). Dylai pob hawl gael ei ddiogelu ar gyfer oes y personau dan sylw.

Pwy fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn?

Mae Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin wedi cynhyrchu papur briffio yn ddiweddar ar Ystadegau Mudo'r DU, yn seiliedig ar ystadegau a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r papur yn tynnu sylw at y canlynol:

Roedd tua 3.2 miliwn o bobl oedd yn byw yn y DU yn 2015 yn ddinasyddion gwledydd eraill yr UE. Mae hyn yn tua 5% o boblogaeth y DU. Cafodd cyfran debyg eu geni yng ngweddill yr UE. O'r 3.2 miliwn hynny, amcangyfrifir bod 916,000 yn wladolion Gwlad Pwyl, y cenedligrwydd unigol mwyaf o weddill yr UE. Yna daw tua 332,000 o ddinasyddion Gwyddelig a 233,000 o Romaniaid.

Mae papur gwyn Diogelu Dyfodol Cymru Llywodraeth Cymru/Plaid Cymru yn nodi mai nifer y mudwyr UE yng Nghymru yw 79,100 (2.6% o'r boblogaeth). Mae hyn yn golygu bod gan Gymru gyfran is o fudwyr na bron unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Roedd y papur yn tynnu sylw hefyd at y ffaith mai'r tair gwlad UE o lle y daeth y nifer uchaf o fewnfudwyr UE yw: Gwlad Pwyl (18,000), Iwerddon (12,000) a'r Almaen (11,000). Mae Diogelu Dyfodol Cymru yn awgrymu y gallai cyfyngiadau ar bobl yn symud yn rhydd gael llai o effaith o ran agregau bras (o ran cyfyngu ar gyflenwad y farchnad lafur neu ryddhau cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer gweithwyr a aned yn y DU) nag mewn rhannau eraill o'r DU. Fodd bynnag, mae'r papur yn datgan bod rhai sectorau o'r gwasanaethau cyhoeddus a sectorau economaidd yn agored i niwed. Yn benodol, dywedir y gallai twristiaeth a gweithgynhyrchu fod yn fwy agored na sectorau eraill. Awgrymwyd hefyd y gallai GIG Cymru fod yn agored i gyfyngiadau ar y nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol AEE sy'n gweithio yn y DU.

Dinasyddion Gwyddelig a'r Ardal Deithio Gyffredin

Amcangyfrifir bod tua 12,000 o ddinasyddion Gwyddelig yn byw yng Nghymru a llawer mwy yn y DU yn gyffredinol. Mae eu hawliau yn annhebygol o gael eu heffeithio gan y trafodaethau presennol gan eu bod yn cael eu diogelu o dan yr Ardal Deithio Gyffredin. Mae'r Ardal Deithio Gyffredin yn barth teithio arbennig rhwng Gweriniaeth Iwerddon a'r DU, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel. Gall dinasyddion Prydeinig a Gwyddelig deithio'n rhydd o fewn yr Ardal Deithio Gyffredin heb fod yn ddarostyngedig i reolaethau pasbort. Safbwynt presennol y DU yw i ddiogelu trefniadau'r Ardal Deithio Gyffredin, ac ni fydd angen i ddinasyddion Gwyddelig sy'n byw yn y DU wneud cais am statws sefydlog i ddiogelu eu hawliau. Dywedwyd bod y DU hefyd wedi bod yn glir na fydd gadael yr UE yn cael unrhyw effaith ar delerau Cytundeb Belfast. Bydd y DU yn parhau i gynnal yn y cyd-destun hwnnw hawliau pobl Gogledd Iwerddon i allu cael eu hadnabod fel Prydeinwyr Wyddelod, neu'r ddau, ac i ddal dinasyddiaeth yn unol â hynny.


Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Delwedd Wikimedia Commons. Licensed under Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Diogelu sefyllfa dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU a gwladolion y DU sy'n byw yn yr UE - beth mae'n ei olygu i Gymru? (PDF, 207KB)