Diogelu sefyllfa dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU a gwladolion y DU sy'n byw yn yr UE - beth mae'r DU yn ei gynnig?

Cyhoeddwyd 30/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cynhyrchir yr erthygl hon gan dîm Materion Ewropeaidd a Chyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o'i waith o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w randdeiliaid am y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Dyma ail ran blog mewn dwy ran ar bapur polisi Llywodraeth y DU - Diogelu sefyllfa dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU a gwladolion y DU sy'n byw yn yr UE. Cafodd y rhan gyntaf ei chyhoeddi ar 29 Mehefin gan ddarparu peth cefndir a chyd-destun i'r cam hwn o'r trafodaethau. Mae'r erthygl hon yn nodi rhai o'r agweddau allweddol ar bapur polisi diweddar Llywodraeth y DU.

Hawliau dinasyddiaeth y DU ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd

Mae rhai o'r cynigion allweddol o bapur polisi Llywodraeth y DU ar hawliau dinasyddion yr UE yn cynnwys:

  • Bydd dinasyddion yr UE sydd wedi preswylio yn y DU cyn dyddiad penodol (sydd heb ei bennu eto, ond na fydd yn gynharach na 29 Mawrth 2017, a heb fod yn hwyrach na 29 Mawrth 2019) am gyfnod o bum mlynedd yn gallu gwneud cais am 'statws preswylydd sefydlog'. Bydd dinasyddion yr UE sy'n ennill statws preswylydd sefydlog yn parhau i gael mynediad i fudd-daliadau yn y DU ar yr un sail â gwladolyn cyffelyb y DU o dan gyfraith ddomestig. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn nodi y bydd hawliau symud yn rhydd yn dod i ben ac felly ni ellir eu cario ymlaen, fel hawl gyfreithiol yr UE, i mewn i gyfundrefn gyfreithiol y DU ar ôl iddi adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn golygu y bydd hyd yn oed y dinasyddion yr UE hynny sydd ganddynt ar hyn o bryd statws 'preswylio parhaol' yn gorfod gwneud cais i gael 'statws preswylydd sefydlog' er mwyn aros yn y DU am gyfnod amhenodol.
  • Bydd dinasyddion yr UE yn cael 'cyfnod gras' yn dilyn y DU yn gadael yr UE i wneud cais am statws sefydlog. Nid yw'r 'cyfnod gras' hwn wedi'i bennu eto ond mae Llywodraeth y DU yn datgan ei bod yn disgwyl y bydd yn gyfnod o ddwy flynedd.
  • Bydd dinasyddion yr UE sydd wedi preswylio yn y DU cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer llai na phum mlynedd, ond y byddant wedi bod yn y DU am bum mlynedd erbyn diwedd y 'cyfnod gras' hefyd yn cael eu caniatáu i wneud cais am statws sefydlog.
  • Bydd gofyn i ddinasyddion yr UE sydd wedi byw yn y DU am lai na phum mlynedd cyn y dyddiad penodedig ac ar ôl i'r cyfnod gras ddod i ben wneud cais am ganiatâd dros dro i aros, ond byddant hefyd yn gallu gwneud cais am statws sefydlog unwaith y maent wedi bod yn breswylydd am bum mlynedd.
  • Bydd dinasyddion yr UE sy'n cyrraedd y DU, ar ôl y dyddiad penodedig sydd eto i'w gyhoeddi yn cael eu caniatáu i aros yn y DU am gyfnod dros dro o leiaf, ond ni ddylent ddisgwyl cael gwarant o statws preswylydd sefydlog. Bydd y rhai sy'n cyrraedd ar ôl y dyddiad penodedig yn cael mynediad cyfyngedig i wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys iechyd) a hawliau economaidd a pherthnasol eraill. Bydd eu hawliau yn dibynnu ar y trefniadau mewnfudo y mae Llywodraeth y DU yn penderfynu eu gosod unwaith y bydd yn gadael yr UE.
  • Bydd myfyrwyr o'r UE a'r rhai sy'n dechrau cyrsiau mewn prifysgol neu sefydliad AB yn y flwyddyn academaidd 2018/19, yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr a statws ffioedd cartref drwy gydol eu cwrs.
  • Bydd dibynyddion teuluol sy'n ymuno â dinesydd cymwys yr UE yn y DU cyn i'r DU ymadael yn gallu gwneud cais am statws sefydlog ar ôl pum mlynedd, waeth bynnag y dyddiad a nodir. Bydd y rhai sy'n ymuno ar ôl i'r DU adael y UE yn ddarostyngedig i'r trefniadau mewnfudo wedi'r gadael.
  • Bydd gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd hawliau sy'n gyfreithiol orfodadwy, fodd bynnag, bydd yr hawliau newydd hyn y mae Llywodraeth y DU yn eu cynnig yn cael eu cadarnhau gan system farnwrol y DU, yn hytrach na Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd.
  • Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu delio â Gwladwriaethau Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop ar sail gilyddol.

O ran yr 1 filiwn o ddinasyddion amcangyfrifedig y DU sy'n byw yng ngwledydd yr UE mae papur safbwynt Llywodraeth y DU yn datgan:

Firstly, UK nationals in the EU must be able to attain a right equivalent to settled status in the country in which they reside. Secondly, they must be able to continue to access benefits and services across the member states akin to the way in which they do now.

Ymateb yr Undeb Ewropeaidd

Mewn ymateb i bapur polisi Llywodraeth y DU, trydarodd Michel Barnier, trafodwr arweiniol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y cam hwn o'r trafodaethau

EU goal on #citizensrights: same level of protection as in EU law. More ambition, clarity and guarantees needed than in today's UK position.

Mae hefyd wedi yn ail-gyhoeddi Papur Safbwynt yr UE ar "Essential Principles on Citizens' Rights". Mae'r papur hwnnw yn nodi manylion ei ddymuniad i weld dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU yn cadw eu hawliau presennol ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'n argymell y dylai Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd barhau i fod y corff sy'n cynnal hawliau dinasyddion yr UE yn y DU.

Y camau nesaf

Bydd yn rhaid yn awr i'r DU a'r UE drafod a dod i gytundeb ynghylch sut y gall eu safbwyntiau dargyfeiriol gael eu halinio. Bydd y rownd nesaf o drafodaethau rhwng y DU a'r UE yn cael ei gynnal ar 17 Gorffennaf 2017. Mae rowndiau pellach ar y gweill ar gyfer mis Awst, Medi a Hydref. Cafodd y cylch gorchwyl ar gyfer cam cyntaf y trafodaethau, sut y byddant yn gweithredu a'r hyn y byddant yn ei gynnwys ei gytuno gan yr UE a'r DU ar 19 Mehefin.


Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Delwedd Wikimedia Commons. Licensed under Creative Commons

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Diogelu sefyllfa dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU a gwladolion y DU sy'n byw yn yr UE - beth mae'r DU yn ei gynnig?(PDF, 258KB)