Y Pwyllgor Materion Allanol yn ymweld ag Iwerddon i ofyn beth y mae gadael yr UE yn ei olygu i borthladdoedd Cymru.

Cyhoeddwyd 03/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Aeth tri aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ymweliad i Ddulyn, ddydd Llun 19 Mehefin. Y tri aelod oedd Mark Isherwood, Eluned Morgan a Chadeirydd y Pwyllgor, David Rees, a'r rheswm dros fynd ar ymweliad oedd er mwyn clywed rhai safbwyntiau Gwyddelig i lywio ymchwiliad y Pwyllgor i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru.

Nod yr ymchwiliad yw cynnig atebion i ddau gwestiwn:

  • Pa risgiau a chyfleoedd y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn eu cyflwyno i borthladdoedd Cymru?
  • Pa gamau y dylid eu cymryd i liniaru unrhyw risgiau a sicrhau unrhyw fuddion, a phwy ddylai gymryd y camau hynny?

Roedd yr ymweliad yn dilyn sesiwn dystiolaeth ym Mae Caerdydd ar 12 Mehefin, gyda chynrychiolwyr o Ysgol Fusnes Caerdydd, cyrff masnach o'r sector cludo nwyddau, porthladdoedd Cymru a gweithredwyr fferïau.

Defnyddiodd y pwyllgor y wybodaeth a gasglwyd hyd yma wrth iddo holi Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ddydd Llun 3 Gorffennaf – sef y sesiwn olaf a drefnwyd fel rhan o'r ymchwiliad.

Pam porthladdoedd a pham Iwerddon?

Mae pwysigrwydd porthladdoedd i economi Cymru yn ddigon clir. Yn ôl astudiaeth gan DTZ, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2011, amcangyfrifir bod porthladdoedd Cymru yn cefnogi 18,400 o swyddi yn uniongyrchol. Mae astudiaeth gan Arup, a gomisiynwyd gan Associated British Ports (ABP) yn 2014, yn awgrymu bod pum porthladd ABP yn ne Cymru yn cyfrannu £1.4 biliwn y flwyddyn i economi'r DU, gan gynnwys bron £1 biliwn yng Nghymru, ac yn cefnogi 15,000 o swyddi yng Nghymru. Mae tri o wyth Ardal Fenter Llywodraeth Cymru (Ynys Môn, Aberdaugleddau a Glannau Port Talbot) yn cynnwys porthladdoedd, gan adlewyrchu eu pwysigrwydd economaidd.

Mae llawer o draffig ar y môr rhwng Cymru ac Iwerddon ac mae'r llwybr rhwng Iwerddon a chyfandir Ewrop (‘UK landbridge’) yn hanfodol ar gyfer masnach Wyddelig. Mae datganiad ystadegol gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod 72 y cant o'r lorïau nwyddau a deithiodd rhwng Gweriniaeth Iwerddon a chyfandir Ewrop yn 2015 wedi pasio drwy borthladdoedd Cymru. Hefyd, er i nifer y teithwyr sy'n defnyddio fferïau ostwng ers ei hanterth ym 1998, teithiodd dros 2.6 miliwn o bobl o borthladdoedd Iwerddon i Gaergybi, Abergwaun ac Aberdaugleddau yn 2015.

Pwy wnaethant gyfarfod yn Nulyn?

Cafodd aelodau'r Pwyllgor ddiwrnod prysur yn Nulyn, gan adael Maes Awyr Caerdydd am 7.00 a dychwelyd y noson honno tua 22.00. Roedd y cyfarfod cyntaf â Gweinidog Llywodraeth Iwerddon, Shane Ross TD, a'i swyddogion, yn yr Adran Drafnidiaeth, Twristiaeth a Chwaraeon (yn y llun uchod). Mae'r Gweinidog Ross yn gyfrifol am borthladdoedd Iwerddon, y mae llawer ohonynt yn eiddo i'r cyhoedd. Ar ôl hynny, aethant am dro byr i Merrion Square i gwrdd â chynrychiolwyr o Gymdeithas Allforwyr Iwerddon (IEA), gan gynnwys Howard Knott, sef Cyfarwyddwr Hwyluso Masnach IEA ar gyfer Iwerddon.

Yma, cafodd yr Aelodau gyfle i drafod barn a chynlluniau allforwyr Gwyddelig. Ni chafwyd egwyl ginio gan fod angen teithio i Dai'r Oireachtas am frechdan gyda'r Seneddwr Neale Richmond, Cadeirydd Pwyllgor Dethol Arbennig Senedd Iwerddon ar ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd ac aelod o'r Cydbwyllgor ar Faterion yr Undeb Ewropeaidd. Tafodwyd mwy na phorthladdoedd, gan fod Pwyllgor Dethol y Seneddwr wrthi'n cwblhau adroddiad sylweddol yn nodi atebion posibl i'r materion arwyddocaol a fydd yn wynebu Iwerddon ar ôl i'r DU adael yr UE.

Ddechrau'r prynhawn, cafwyd cyfarfod â Liam Lacey, Cyfarwyddwr y Swyddfa Datblygu Forol Wyddelig (IMDO). Mae rôl IMDO yn cynnwys cefnogi a marchnata'r sector llongau, a chynghori'r Gweinidog Trafnidiaeth ar faterion yn ymwneud â phorthladd a llongau. Roedd cyfarfod olaf y diwrnod â swyddogion yn gweithio ar ymadawiad y DU â'r UE a pholisi'r UE yn Adran Materion Tramor a Masnach Iwerddon. Unwaith eto, trafodwyd mwy na phorthladdoedd yn unig yn y sesiwn hon. Trafodwyd paratoadau Iwerddon ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE, yr hyn y mae'n ei olygu ar gyfer y wlad, meysydd o ddiddordeb cyffredin, yn ogystal â'r broses drafod a safbwynt Iwerddon ar farn Aelod-wladwriaethau eraill yr UE a fydd gyferbyn â'r DU ar ochr arall y bwrdd trafod.

Beth oedd y prif negeseuon ar gyfer porthladdoedd Cymru?

Llwyddwyd i drafod llawer o faterion amrywiol. Fodd bynnag, dyma rai o'r materion allweddol:

  • Beth y mae ymadawiad y DU â'r UE yn ei olygu i Iwerddon a sut y mae Llywodraeth a busnesau Iwerddon yn paratoi;
  • Pa mor bwysig ydyw i Gymru ymgysylltu â Llywodraeth a rhanddeiliaid Iwerddon, yn ogystal â’r Aelod-wladwriaethau eraill;
  • Goblygiadau tollau a gwiriadau eraill ar y ffin ar gyfer yr economi, yn ogystal â phorthladdoedd a'u cwsmeriaid, os bydd y DU yn gadael Undeb Tollau'r UE yn ôl y disgwyl. Roedd hyn yn cynnwys ystyried a oes gan borthladdoedd Cymru ac Iwerddon y gallu ffisegol i gynnal gwiriadau;
  • Y risgiau i Gymru os bydd ffin 'feddal' ar y tir rhwng Gweriniaeth Iwerddon yn y de a Gogledd Iwerddon, ond ffin 'galed' rhwng y gorllewin a Phrydain i'r dwyrain;
  • A oes perygl y gallai’r traffig i borthladdoedd Cymru ddargyfeirio i borthladdoedd eraill ym Mhrydain, neu hyd yn oed fynd yn uniongyrchol i gyfandir Ewrop, os bydd 'rhwystrau' sylweddol ar y ffin forol rhwng Cymru ac Iwerddon;
  • Beth y mae ymadawiad y DU â'r UE yn ei olygu ar gyfer dyfodol y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) o gysylltiadau trafnidiaeth a seilwaith allweddol; a
  • Beth y mae gadael yr UE yn ei olygu i'r Ardal Deithio Gyffredin (CTA), sef y parth teithio arbennig rhwng y DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel, sy'n caniatáu i bobl deithio'n ddirwystr, ac a allai ymadawiad y DU olygu y bydd Iwerddon yn ymuno ag Ardal Schengen.

Ar y cyfan roedd yn ddiwrnod prysur a chynhyrchiol, a hoffai'r Pwyllgor ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser er mwyn cynnal cyfarfodydd a helpu gyda threfniadau'r daith. Mae'r Aelodau a fu ar y daith yn paratoi adroddiad byr o'u canfyddiadau ar gyfer eu cyd-aelodau ar y Pwyllgor. Bydd y ddogfen hon, ynghyd â'r dystiolaeth ehangach a glywyd ac a ddarllenwyd, yn sail i adroddiad y Pwyllgor.


Erthygl gan Andrew Minnis, y Gwasanaeth Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llun gan Gomisiwn y Cynulliad

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Y Pwyllgor Materion Allanol yn ymweld ag Iwerddon i ofyn beth y mae gadael yr UE yn ei olygu i borthladdoedd Cymru.(PDF, 178KB)