Blaenoriaeth addysgol sy’n dod i’r amlwg – ymestyn cyflawnwyr uchel potensial Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ddoe, postiwyd erthygl am ganlyniadau Cymru yn PISA a thargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer cylchoedd yn y dyfodol. Roedd yn cyfeirio at ddatganiadau diweddar gan y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch targedau ar gyfer PISA, a oedd yn rhoi sylw i’r her benodol o wella safonau cyflawnwyr uchaf Cymru.

Beth mae data TGAU a PISA yn ei ddweud wrthym?

Dyma lun o gyfrifiannell.Mae data cyrhaeddiad TGAU a PISA yn dangos nad oes digon o ddisgyblion yng Nghymru yn cyflawni’r graddau uchaf, sydd yn ei dro yn awgrymu nad oes digon yn cael ei wneud i ymestyn disgyblion mwy abl a thalentog. Mae Estyn wedi tynnu sylw at dangyflawniad dysgwyr mwy abl, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig. Yn ei adroddiad blynyddol 2015/16, nododd Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd addysg a hyfforddiant yng Nghymru:

Mewn rhyw draean o ysgolion cynradd, nid yw disgyblion mwy abl yn gwneud digon o gynnydd am nad yw’r gwaith sy’n cael ei osod iddynt yn ddigon heriol. Mewn ysgolion uwchradd, dylai canlyniadau TGAU a Safon Uwch fod yn well ar raddau uwch. Nid yw consortia rhanbarthol yn dadansoddi cynnydd grwpiau o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai mwy abl, yn ddigon manwl.

Mae’r tabl canlynol yn dangos er bod cyfran y disgyblion sy’n cyflawni 5 TGAU gradd A*-C neu fwy (trothwy Lefel 2 yn gynwysedig) wedi cynyddu, mae cyfran y disgyblion sy’n cyflawni 5 gradd A*-A neu fwy wedi gostwng.

Tabl 1: Cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4

Mae data o gylch PISA 2015 yn rhoi darlun tebyg. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 14 Mehefin 2017 (PDF 353KB):

We have raised the performance of our children at the lowest level; they are performing above OECD. What is heart breaking for me is to find Wales so woefully underrepresented in the highest categories of performance, in level 6 and level 5 in particular—50 per cent below, in some cases, the OECD average for Welsh children not performing at that highest level. So, it’s clear to me that we need to look at how our reforms can impact upon that.

Mae gwerth 90fed canradd sgorau PISA Cymru (h.y. y sgôr a gafodd y 10% o’r disgyblion 15 oed a berfformiodd orau) yn is ar gyfer pob maes, sef Mathemateg, Darllen a Gwyddoniaeth, na’r tair gwlad arall yn y DU a chyfartaledd OECD. Dangosir hyn yn y tabl canlynol.

Tabl 2: Canradd 90fed sgorau PISA 2015

Yn ei ddadansoddiad o ganlyniadau PISA, Cyflawniad Pobl Ifanc 15 Oed yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol PISA 2015 (PDF 2.44MB), nododd Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain dri ‘phwynt allweddol’ ynghylch sgorau disgyblion sy’n cyflawni uchaf yng Nghymru:

  • Ychydig iawn o welliant a fu yn sgorau PISA y disgyblion sy’n cyflawni uchaf mewn mathemateg yng Nghymru er 2006.
  • Nid oes gan 21 y cant o bobl ifanc 15 oed yng Nghymru sgiliau darllen sylfaenol; mae hyn yn debyg i’r cyfartaledd ar draws aelodau o’r OECD. Ar y llaw arall, mae gan Gymru gyfran gymharol fychan o ddisgyblion â sgiliau darllen lefel uchel.
  • Mae meithrin disgyblion 15 oed â sgiliau gwyddoniaeth lefel uchel yn her benodol sy’n wynebu Cymru. Ffactor allweddol sy’n gyrru’r gostyngiad mewn sgorau gwyddoniaeth cymedrig yng Nghymru dros y degawd diwethaf yw gostyngiad ym mherfformiad y disgyblion sy’n cyflawni uchaf.
  • Fodd bynnag, fel y nodwyd gan yr OECD yn ei adolygiadau 2014 (PDF 3.57MB) a 2016 (PDF 2.91MB), mae gan Gymru ganlyniadau cymharol gyfartal ymysg dysgwyr, yn enwedig o ganlyniad i’w system ysgolion cyfun cynhwysol. Mae’r gwahaniaeth rhwng gwerthoedd canraddol 10fed a 90fed yn sgorau PISA 2015 Cymru yn llai na phob un o wledydd eraill y DU, yn enwedig Lloegr.

Tabl 3: Y gwahaniaeth rhwng y 10fed a’r 90fed canradd yn sgorau PISA 2015

Mesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cyrhaeddiad cymharol isel o gyflawnwyr uchaf Cymru yn ganlyniad anfwriadol yn sgil mesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 a ddefnyddiwyd i ddwyn ysgolion i gyfrif. Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar 15 Mai 2017 (PDF 350KB):

Six to nine years ago, we did badly with the low-ability pupils, as well as the high-ability pupils. We’ve closed that gap in terms of low-ability pupils, but we are significantly underperforming with our, I would say, top 20 per cent of pupils. That’s a consequence of the performance measures that we’ve had in Wales.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 14 Mehefin 2017 (PDF 353KB)

One of the consequences of relying solely on the level 2 plus, of course, is that once a student’s got a C, that was regarded as a success. Now, of course that is a success if, for that individual child, the best result they could have got was a C. But if that child came into your school and was destined to get an A* but only ends up with a C in maths, that is not a success. But under the level 2 plus measure, that’s regarded as a success. So, we need a much more intelligent way of looking at school performance, and one that doesn’t drive behaviours or end up in unintended consequences.

Fodd bynnag, pan bwyswyd arni i ddweud pryd y bydd mesurau perfformiad mwy ‘deallus’ ar waith yng Nghyfnod Allweddol 4, datgelodd Kirsty Williams nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i’r ateb eto:

If it was easy, we would have done it. Somebody would have come up with a system before now if it was such an easy thing to do. We are in discussions at the moment to look at what a dashboard kind of progress measure could look like. So, we’re actively working on a new set of accountability and assessment regimes at present, but it’s challenging work and we have to think always: if we introduce this, what are the behaviours that will happen in school, and what, potentially, might be the unintended consequences of that?

Yn y Siambr ar 21 Mehefin, yn ogystal â chadarnhau bod 500 pwynt ym mhob maes erbyn 2021 yn parhau i fod yn darged i Lywodraeth Cymru, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet yn glir bod codi cyrhaeddiad cyflawnwyr uchel potensial Cymru yn flaenoriaeth iddi.

Gan ddefnyddio data PISA, mae’n amlwg i mi mai’r hyn sydd angen i ni wneud mwy ohono yw cefnogi’r hyn y mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi’i ddisgrifio fel y 75ain canradd. Rwyf wrthi’n ystyried ac yn cwmpasu’r gwaith o gyflwyno cynllun wedi’i dargedu i roi cefnogaeth well i’n disgyblion mwy galluog a thalentog a fydd yn cysylltu â’r rhwydwaith Seren llwyddiannus. (…)

Yn y prawf PISA diwethaf, 3 y cant oedd gan Gymru yn y ddwy lefel uchaf, a byddwn yn hynod o siomedig pe na bai’r ffigur hwnnw’n cynyddu y tro nesaf.

Byddwn yn cyhoeddi erthygl blog arall yn fuan, a fydd yn canolbwyntio ar rwydwaith Seren, sef menter Llywodraeth Cymru i gefnogi disgyblion mwy abl a thalentog i gyflawni eu potensial llawn a chael mynediad i brifysgolion blaenllaw.


Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Llun: o Flickr gan blairwang. Dan drwydded Creative Commons.
Tabl 1: Estyn, Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2015/16 Ffigur 3.4, t127 (Ionawr 2017)

Tabl 2: Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain, Cyflawniad Pobl Ifanc 15 Oed yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol PISA 2015, tudalennau 46-47, 79-80, 92-93 (Rhagfyr 2016);
Tabl 3: Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain, Cyflawniad Pobl Ifanc 15 Oed yng Nghymru: Adroddiad Cenedlaethol PISA 2015, tudalennau 51, 84, 99 (Rhagfyr 2016);

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Blaenoriaeth addysgol sy’n dod i’r amlwg – ymestyn cyflawnwyr uchel potensial Cymru (PDF 377 KB)