Cyhoeddiad Newydd: Creu coetir yn y gwledydd Ewropeaidd

Cyhoeddwyd 06/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r gorchudd coetir yn Ewrop yn amrywio o 1 y cant ym Malta i 75 y cant yn y Ffindir, gyda chyfartaledd y coetir yn gorchuddio 44 y cant o’r tir (neu 37 y cant o fewn yr Undeb Ewropeaidd). Mae’r papur briffio hwn yn rhoi gwybodaeth am bolisïau creu coetiroedd yn y gwledydd Ewropeaidd sydd ag ychydig o goetir, ac yn canolbwyntio’n benodol ar y DU a’r gwledydd agosaf ati.

Creu coetir yn y gwledydd Ewropeaidd (PDF, 1MB)


Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.