Cam yn nes at ddiwygio cyllid myfyrwyr? Cymorth ariannol i fyfyrwyr o 2018/19 ymlaen.

Cyhoeddwyd 07/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r modd y bydd myfyrwyr sy'n byw fel arfer yng Nghymru (Myfyrwyr Cymru) yn cael eu cynorthwyo’n ariannol tra byddant yn y brifysgol ar fin newid yn sylweddol. Rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Chwefror 2017, bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch ei chynigion i newid y system o gyllido myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru . Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw, yn ogystal â gwybodaeth am y cymorth ariannol a fydd ar gael i fyfyrwyr yn 2018/19, yn cael eu cyhoeddi yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Gorffennaf 2017. Ar ôl y cyhoeddiad hwn, bydd y camau yn y broses o ddiwygio cyllid myfyrwyr yn gliriach.

Roedd y newidiadau a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad yn seiliedig i raddau helaeth ar Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr (Adolygiad Diamond), a gyhoeddwyd ar 27 Medi 2016. Cyhoeddwyd Crynodeb Gweithredol (PDF 270KB) ochr yn ochr â'r adroddiad, yn crynhoi prif argymhellion Adolygiad Diamond . Bydd y newidiadau yn gymwys i bob myfyriwr yng Nghymru lle bynnag y byddant yn astudio yn y DU.

Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddodd Kirsty Wililams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion yr adolygiad (PDF 340KB) ynghyd â dogfen ymgynghori (PDF 445KB) yn egluro sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi’r argymhellion ar waith.

Cymorth i fyfyrwyr o 2018/19 ymlaen

Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth tystiolaeth gan Adolygiad Diamond, wedi dadlau bod pryderon ynghylch costau byw bob dydd, fel llety, bwyd, trafnidiaeth a llyfrau etc, yn fwy o rwystr i ddarpar fyfyrwyr na’u pryderon ynghylch dyledion ffioedd dysgu.

O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gael gwared ar y Grant Ffioedd Dysgu presennol i fyfyrwyr israddedig llawn amser (gwerth £ 4,954 yn 2017/18) a’i ddisodli â benthyciad i fyfyrwyr, hyd at uchafswm y ffi bresennol a fydd yn gymwys yn 2018/19, (sef £ 9,000 ar hyn o bryd yng Nghymru, a £9,250 yng ngweddill y DU) .

Yn lle’r Grant Ffioedd Dysgu, bydd grant cynhaliaeth cyffredinol gwerth £ 1,000, nad yw’n amodol ar brawf modd ar gael i holl fyfyrwyr Cymru. Hefyd, bydd grant ychwanegol, yn amodol ar brawf modd, ar gael i dalu costau byw. Dim ond y grant cyffredinol a’r Benthyciad Cynhaliaeth (a amlinellir isod) fydd ar gael i fyfyrwyr os yw eu teulu’n ennill incwm blynyddol o £59,200 neu ragor.

Y Grant Cynhaliaeth mwyaf, sy’n amodol ar brawf modd, i fyfyriwr sy'n byw oddi cartref y tu allan i Lundain, fydd £8,100 yn 2018/19. Bydd 25% ychwanegol ar gael i fyfyriwr sy'n byw oddi cartref yn Llundain (£10,125) a gostyngiad o 15% i fyfyrwyr sy'n byw gartref (£6,885).

Bydd Benthyciadau Cynhaliaeth, na fydd yn amodol ar brawf modd, ar gael i fyfyrwyr o Gymru nad ydynt yn gymwys i gael y grant llawn. Bydd swm y benthyciad a fydd ar gael yn cyfateb i uchafswm y cymorth cynhaliaeth, llai unrhyw grant sy’n seiliedig ar brawf modd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai’r system y bydd yn rhoi ar waith yn 2018/19 fydd y 'pecyn cymorth ariannol mwyaf hael i fyfyrwyr drwy’r DU gyfan '.

Cymorth i fyfyrwyr ôl-raddedig

O 2018/19 ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi cymorth o hyd at £ 17,000 i fyfyrwyr o Gymru sy’n dilyn cwrs meistr a addysgir. ‘Cyfraniad tuag at gostau’ fydd y £17,000 hwn, a bydd yn cynnwys grant cyfwerth â’r swm a gaiff myfyrwyr israddedig llawn amser sy'n byw gartref a benthyciad ychwanegol. Ni fydd yr arian hwn wedi’i neilltuo, felly gall myfyrwyr ddewis sut i’w wario.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru er mwyn ceisio barn am y modd y gallai:

  • symud y pwyslais i helpu gyda chostau cynhaliaeth myfyrwyr bob mis;
  • datblygu system a gaiff ei rheoleiddio’n llawn ar gyfer myfyrwyr rhan amser erbyn 2021, a sicrhau bod cyrsiau rhan amser yn cael eu cymeradwyo gan CCAUC cyn i’r myfyrwyr sy’n eu dilyn fedru hawlio cymorth cynhaliaeth gan Lywodraeth Cymru;
  • parhau i gefnogi ac ariannu myfyrwyr sy'n dymuno astudio cyrsiau â dwyster o lai na 25% a myfyrwyr sydd â chymhwyster cyfwerth â hwnnw y maent am ei astudio;
  • rhoi cymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd wedi bod mewn lleoliad gofal, gan fod y Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y myfyrwyr hyn yn cael uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael;
  • dewis at y ffordd orau o dreialu cynllun peilot i fyfyrwyr sy'n dymuno astudio y tu allan i'r DU a'r UE.

I gael gwybod rhagor, gwyliwch y cyhoeddiad yn fyw ar Senedd.tv ddydd Mawrth 11 Gorffennaf neu darllenwch Gofnod o Drafodion y Cynulliad ddiwrnod neu ddau’n ddiweddarach.


Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: o Flickr by Kevin Saff. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Cam yn nes at ddiwygio cyllid myfyrwyr? Cymorth ariannol i fyfyrwyr o 2018/19 ymlaen. (PDF, 203KB)