Dull newydd o reoleiddio'r gwaith o reoli adnoddau naturiol? Llywodraeth Cymru yn gofyn am sylwadau.

Cyhoeddwyd 07/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 21 Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad: Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, sy'n cynnig newidiadau sylweddol i nifer o fframweithiau rheoli amgylcheddol. Daw hyn ar adeg pan fo rhanddeiliaid amgylcheddol yn disgwyl yn eiddgar am Bolisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru, sydd wedi methu â chwrdd â'r terfyn amser 31 Mawrth o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Disgwylir i'r Polisi Adnoddau Naturiol nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae hyn yn esgor ar y cwestiwn - sut y mae'r ymgynghoriad newydd hwn, a oedd yn annisgwyl gan nifer, am ffitio â'r Polisi Adnoddau Naturiol?

Tirwedd arfordirol Cymru.Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am sylwadau ar 56 o gynigion sy'n cwmpasu ystod eang o feysydd polisi, gan gynnwys coedwigaeth, tirweddau dynodedig, mynediad i'r awyr agored gan gynnwys yr arfordir a dyfroedd mewndirol, y môr a physgodfeydd, dŵr, gwastraff, rheoli tir, amaethyddiaeth a rheoli maglau. Disgwylir i'r ymgynghoriad fod o gymorth wrth benderfynu a oes angen deddfwriaeth newydd yng Nghymru ai peidio.

Nod trosfwaol datganedig y newidiadau arfaethedig yw darparu fframwaith rheoleiddio sy'n gwella'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn diffinio'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy fel defnyddio adnoddau naturiol mewn ffordd, ac ar raddfa, sy'n cadw ac sy'n gwella gwydnwch ecosystemau a'r buddion a ddaw yn eu sgil. Mae'r dull gweithredu hwn â'r amcan o gyflawni'r 7 nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae'r ymgynghoriad yn cael ei ystyried yng nghyd-destun canfyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei adroddiad cychwynnol ar gyflwr adnoddau naturiol. Mae'r asesiad hwn, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2016, yn pwysleisio nad oes un cynefin yng Nghymru yn gwbl wydn, ac nad yw gwerth llawn adnoddau naturiol ac ecosystemau yn cael eu hystyried yn iawn wrth wneud penderfyniadau.

 Brexit ar y gorwel, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn nodi yn ei rhagair i'r ymgynghoriad bod diwygio'r fframwaith rheoleiddio bresennol yn angenrheidiol i sicrhau y gall Cymru wynebu'r heriau a'r cyfleoedd wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, wrth ragweld nifer sylweddol o gyfreithiau ar y ffordd i'r Cynulliad wrth i broses Brexit fynd rhagddi, a fydd capasiti ac awydd am y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig a nodir yn ychwanegol yn yr ymgynghoriad hwn? At hynny, pa adnoddau a ddefnyddir ar gyfer y pwerau newydd?

Cynigion

Mae ystod eang o gynigion, â llawer ohonynt yn amcanu i alinio deddfwriaeth a pholisïau presennol â'r cysyniad o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Mae ambell enghraifft o'r newidiadau deddfwriaeth a chynigion polisi yn cynnwys:

  • Atebion yn seiliedig ar natur – datblygu a rheoli coedwigoedd a gorlifdiroedd Cymru er mwyn lleihau'r effeithiau gwael a ddaw yn sgil glaw trwm eithriadol, plannu coed i wella ansawdd yr aer a thoeau gwyrdd ar gyfer insiwleiddio. Archwilir y modd o gyflawni'r atebion hyn yn yr ymgynghoriad gan awgrymu dulliau'n seiliedig ar y farchnad, gan gynnwys taliadau ar gyfer gwasanaethau ecosystemau;
  • Coedwigaeth - ehangu pŵer Cyfoeth Naturiol Cymru i ddirprwyo ei swyddogaethau o ran rheoli coedwigoedd i eraill (e.e. cymunedau lleol). Cynigir dulliau newydd o reoleiddio trwyddedau cwympo coed ynghyd â mesurau diogelwch newydd ar gyfer coed hynafol;
  • Tirweddau dynodedig - sefydlu perthynas ffurfiol rhwng nodweddion arbennig ardal ddynodedig - megis bioamrywiaeth neu etifeddiaeth ddiwylliannol - ac unrhyw bartneriaethau, pwerau a pholisïau newydd. Mae'n cynnig dull wedi'i arwain gan gymunedau o ran dynodi ardaloedd;
  • Y môr a physgodfeydd - rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru i lunio cynlluniau morol rhanbarthol drwy ddiwygio Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Cyflwyno cyfundrefn drwyddedu dyframaeth. Ehangu'r cynllun Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr i gynnwys pysgod cregyn;
  • Mynediad i'r tu allan (cefn gwlad, dyfrffyrdd mewndirol ac arfordiroedd) - gwella gwerth atyniadol drwy gael ystod ehangach o weithgareddau ac ardaloedd y gellir cael mynediad atynt. Ehangu pwerau Cyfoeth Naturiol Cymru o ran mynediad at ddyfroedd mewndirol. Gofyniad i awdurdodau lleol ac awdurdodau'r Parc Cenedlaethol ddatblygu cynlluniau mynediad integredig. Datblygu cod statudol ar gyfer mynediad;
  • Dyfroedd - wrth dynnu dŵr, diwygio'r gyfundrefn drwyddedu bresennol i sefydlu sail gyffredin, deg ar gyfer yr holl dynnwyr dŵr a'i gynnwys yn fframwaith y rheoliadau trwyddedu amgylcheddol; a
  • Gwastraff - rhoi pwerau newydd i awdurdodau lleol i osod hysbysiadau cosb penodedig ar berchnogion tai sy'n methu â chydymffurfio â rheolau gwastraff, yn hytrach nag erlyn drwy'r llysoedd.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 13 Medi 2017. Mae'n debygol y bydd nifer o randdeiliaid yn gofyn sut y bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn berthnasol i'r Polisi Adnoddau Naturiol a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru, y Cynllun Adfer Natur, datblygiad Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol o ran Datganiadau Ardaloedd, yr adolygiad diweddar Tirweddau Dyfodol: Cyflawni dros Gymru, a nifer o bolisïau, cynlluniau a phwerau eraill.


Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llun gan Sean Evans

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Dull newydd o reoleiddio'r gwaith o reoli adnoddau naturiol? Llywodraeth Cymru yn gofyn am sylwadau. (PDF, 183KB)