Ail-lunio cymorth ynghylch cyflogadwyedd: cynllun cyflenwi newydd ynghylch cyflogadwyedd

Cyhoeddwyd 10/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ail-lunio cymorth cyflogadwyedd

Disgwylir i Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, wneud datganiad llafar ar gyflogadwyedd ddydd Mawrth 11 Gorffennaf 2017. Mae Symud Cymru Ymlaen, sef rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, yn cynnwys ymrwymiad i ail-lunio cymorth cyflogadwyedd ar gyfer yr unigolion sy’n barod am swyddi a’r rhai sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd ei chynlluniau i gyflawni’r ymrwymiad hwn yn cael eu hamlinellu yn y datganiad:

Bydd y datganiad hefyd yn nodi’r angen i weithio ar draws Llywodraeth Cymru i gyflawni hyn, gan gydnabod bod cyflogadwyedd yn golygu mwy na swyddi a sgiliau, a bod yn rhaid sicrhau bod pob agwedd ar bolisïau’r Llywodraeth – addysg, iechyd, tai a chymunedau – yn cydweithio i gynorthwyo pobl i gael swyddi cynaliadwy.

Cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oed

Mewn datganiad blaenorol ar gymorth cyflogadwyedd ddydd Mawrth 5 Gorffennaf 2016, cyhoeddodd Julie James AC y byddai rhaglen sgiliau cyflogadwyedd newydd i bob oed yn cael ei chyflwyno fis Ebrill 2018, gan ddwyn ynghyd waith rhaglen sgiliau cyflogadwyedd flaenorol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys: Twf Swyddi Cymru, ReAct, hyfforddeiaethau ac ati.

Gwnaethom amlinellu yn ein maniffesto y byddem yn creu rhaglen gyflogadwyedd newydd i gefnogi unigolion o bob oed i ddod o hyd i waith o ansawdd da. Rydym eisiau i’r gefnogaeth hon gael ei theilwra i anghenion unigol a, phan fo hynny’n briodol, ei chyfochri â chyfleoedd swyddi sy’n dod i’r amlwg mewn cymunedau lleol. Ein nod yw dwyn ynghyd y gweithgareddau o’n prif raglenni cyflogadwyedd, Twf Swyddi Cymru a ReAct, hyfforddeiaethau a’n rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd newydd mewn un rhaglen cymorth cyflogadwyedd a fydd yn diwallu yn well anghenion y rhai sydd angen cefnogaeth i gael, cadw a symud ymlaen mewn gwaith.

Yn ei datganiad, gwnaeth y Gweinidog gydnabod bod y gyfres bresennol o raglenni yn rhy gymhleth a thameidiog; bod llwybr cydlynol a chynnydd ar gyfer y dysgwr yn anodd weithiau; ac y gall cymorth fod yn anhyblyg, heb fod yn ymatebol i anghenion yr unigolyn.

Mae newidiadau ehangach i bolisi ar lefel y DU hefyd wedi digwydd, a fydd yn cael effaith sylweddol ar ddarparu hyfforddiant sgiliau i bobl ddi-waith yng Nghymru. Dywedodd y Gweinidog fod cyflwyno Rhaglen Waith ac Iechyd newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn 2017:

yn gyfle i gyfochri ehangder y cymorth cyflogaeth sydd ar gael i unigolion ledled Cymru yn fwy effeithiol. Bydd ein cyfranogiad gweithredol yn y gwaith o gomisiynu’r contract newydd hwn yn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu o’r Rhaglen Waith a ddarperir ar hyn o bryd a bod anghenion y farchnad lafur yng Nghymru yn ei chyfanrwydd yn cael eu hymgorffori wrth gynllunio rhaglenni yn y dyfodol. Bydd y rhaglen newydd hon gryn dipyn yn llai na Rhaglen Waith bresennol yr Adran Gwaith a Phensiynau a bydd hyn yn golygu y bydd mwy o unigolion yn ceisio cael gafael ar gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog y bydd y rhaglen newydd yn cael ei llywio gan werthusiadau o’r rhaglenni Barod am Waith, Twf Swyddi Cymru a ReAct, y cynlluniau arbrofol Amodoldeb Sgiliau, a gynhaliwyd gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, a’r gwaith o werthuso ac adolygu hyfforddeiaethau.

Ymhelaethodd y Gweinidog ar rychwant y gefnogaeth mewn Datganiad Llafar ar 15 Tachwedd 2016:

Fodd bynnag, gwyddom nad yw’n ddigon i ganolbwyntio ar gael pobl i mewn i waith. Mae angen sicrhau bod unigolion yn cael gwaith gweddus a chynaliadwy a’u bod yn symud ymlaen i, ac o fewn, swyddi diogel. Er bod mynd i mewn i gyflogaeth yn ffactor allweddol o ran lleihau tlodi, mae hefyd yn bwysig cydnabod y mater cynyddol o dlodi mewn gwaith yng Nghymru. Erbyn hyn mae mwy o aelwydydd sy’n byw mewn tlodi lle mae rhywun yn gweithio, nag sydd ddim.

Amlinellodd y Gweinidog rai blaenoriaethau allweddol eraill ar gyfer y cynllun newydd, gan gynnwys:

  • Dull pob oedran a hollgynhwysol, gan gynnwys cymorth pwrpasol a chymorth dwys sydd wedi’i deilwra at anghenion unigolion er mwyn cynyddu cyflogadwyedd ac ymdrin â rhwystrau;
  • creu continwwm o gymorth i unigolion ar ôl iddynt gael mynediad i’r gweithle, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o roi’r gorau i gyflogaeth;
  • dull cyflogadwyedd integredig, sy’n cysylltu mentrau sgiliau â gwasanaethau cyflogaeth ac â gwasanaethau cyhoeddus eraill, er enghraifft y gwasanaethau iechyd, i gefnogi pobl â chyflyrau iechyd ar y cyfle cyntaf posibl i gael mynediad at neu i aros mewn gwaith;
  • cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda chyflogwyr i integreiddio cymorth busnes a sbardunau caffael Llywodraeth Cymru yn llwyr o fewn ei dull cyflogadwyedd ehangach;
  • datblygu dull systematig o nodi angen ac o atgyfeirio at gymorth cyflogadwyedd drwy wasanaeth cyngor ar gyflogaeth newydd, a chyflwyno ac ehangu gwasanaethau cyflogadwyedd digidol;
  • cymell creu cyfleoedd swyddi wedi’u targedu yn fwy ar gyfer unigolion dan anfantais ac yn gosod premiymau ar gymorth mewn ardaloedd dan anfantais arbennig;
  • cydweithio â’r Adran Gwaith a Phensiynau i ymgorffori eu rhaglenni o fewn agenda gyflogadwyedd ehangach Cymru a hefyd cyd-gynllunio rhaglen gwaith ac iechyd yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru i wella integreiddiad y rhaglenni.

Yn fwyaf diweddar, ar 28 Mehefin 2017, dywedodd Julie James wrth Aelodau:

Felly, rydym yn datblygu cynllun cyflenwi cyflogadwyedd ar gyfer Cymru, a byddaf yn dweud rhagor am hyn yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy’n mynd i wrthsefyll y demtasiwn i achub y blaen ar fy nghyhoeddiad. Ond, byddwn yn dwyn ynghyd y wybodaeth sydd gennym am raglenni cyflogadwyedd presennol a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ystyried beth sydd angen ei newid er mwyn diwallu anghenion pobl sy’n ddi-waith, yn economaidd anweithgar... neu rai mewn swyddi o ansawdd is sydd angen eu huwchsgilio.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wrthi’n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol wedi’i diwygio, sy’n cynnwys cynigion i greu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i Gymru. Gweler ein herthygl blog ar 16 Mehefin 2017 ar gyfer y wybodaeth gefndirol y tu ôl i’r ymgynghoriad hwn.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnig y dylai swyddogaethau allweddol y Comisiwn gynnwys cynllunio addysg a dysgu sgiliau mewn modd strategol ar draws yr holl leoliadau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru, yn ogystal â chyfrifoldeb dros gyllid, contractau, ansawdd, monitro ariannol ac archwilio rhaglenni cyflogadwyedd a rhaglenni a arweinir gan gyflogwyr, ymhlith sectorau eraill.

Sut i gael mwy o wybodaeth

I gael gwybod yn union beth fydd dull newydd Llywodraeth Cymru ynghylch cyflogadwyedd a beth fydd ei chynllun gweithredu yn ei gynnwys, gwyliwch Senedd TV yn fyw brynhawn dydd Mawrth neu darllenwch Gofnod y Trafodion ddiwrnod neu ddau yn ddiweddarach.


Erthygl gan Anne Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun o Flickr gan World Skills UK. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Ail-lunio cymorth ynghylch cyflogadwyedd: cynllun cyflenwi newydd ynghylch cyflogadwyedd (PDF, 301KB)