Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru: Aelodau’r Cynulliad i drafod deiseb

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Llun aneglur o fand roc ar lwyfan

Ddydd Mercher 12 Gorffennaf, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod deiseb yn galw am ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw. Mae’r ddeiseb wedi dal dychymyg pobl sy’n caru cerddoriaeth fyw yng Nghymru a chasglodd dros 5,000 o lofnodion.

Dyma’r tro cyntaf i ddeiseb y Cynulliad gasglu dros 5,000 o lofnodion ers i’r broses ddeisebu newydd gael ei chyflwyno ym mis Mawrth. Mae’r newidiadau yn caniatáu i’r Pwyllgor Deisebau ofyn am ddadl y Cynulliad ar unrhyw ddeiseb sy’n casglu mwy na 5,000 o lofnodion.

Am beth y mae’r ddeiseb y gofyn?

Mae’r ddeiseb yn gofyn am newid y polisi cynllunio yng Nghymru er mwyn diogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw rhag cael eu gorfodi i gau oherwydd cwynion am sŵn yn hwyr y nos. Yn benodol, roedd yn galw am ddau beth:

  • i’r egwyddor ‘asiant dros newid’ gael ei chyflwyno i’r system cynllunio yng Nghymru; ac
  • i awdurdodau lleol fod â’r gallu i ddynodi ‘ardaloedd o arwyddocâd diwylliannol ar gyfer cerddoriaeth’ yn eu cynlluniau a’u polisïau lleol.

Beth yw ystyr ‘asiant dros newid’?

Mae ‘asiant dros newid’ yn gysyniad syml. Mae’n golygu bod yn rhaid i’r rhai sy’n gyfrifol am newid hefyd fod yn gyfrifol am reoli effaith y newid hwnnw.

Yn achos cerddoriaeth fyw, gallai hyn olygu y byddai angen i ddatblygwr adeilad preswyl newydd sydd ger lleoliad cerddoriaeth byw presennol gynnwys mesurau lliniaru sŵn fel rhan o’r datblygiad newydd.

Mae’r rhai sy’n cefnogi cyflwyno’r egwyddor asiant dros newid yn dweud bod awdurdodau lleol yn tueddu i ffafrio cwynion gan drigolion mewn datblygiadau newydd am lefelau sŵn o leoliadau cerddoriaeth sefydledig gerllaw.

Maent yn honni bod hyn yn wir waeth pa mor hir y mae’r sŵn ‘niwsans’ wedi bodoli – h.y. ar hyn o bryd nid oes gwahaniaeth rhwng achosion hanesyddol o’r un sŵn yn niwsans, neu a yw rhywun newydd symud i mewn i ardal y sŵn, gan wybod yn iawn amdano.

Mae hyn wedi cael ei nodi fel un o’r prif resymau pam mae lleoliadau cerddoriaeth fyw ar draws y DU wedi cau dros blynyddoedd diwethaf.

Pam mae hyn yn broblem yn awr?

Daeth y mater hwn i gryn amlygrwydd yng Nghymru yn ddiweddar oherwydd y ceisiadau cynllunio ar gyfer fflatiau newydd a gwesty yn Stryd Womanby, Caerdydd.

Stryd Womanby yw calon y sîn gerddoriaeth yng Nghaerdydd ac mae’n gartref i nifer o ganolfannau cerddoriaeth fyw. Mae ymgyrchwyr yn ofni, os caiff y datblygiadau eu cymeradwyo, y gallent beryglu dyfodol Stryd Womanby fel cyrchfan cerddoriaeth fyw. Arweiniodd y pryder hwn at ymgyrch broffil uchel, sef ‘Rhaid Arbed Stryd Womanby’. Mae’r ymgyrchwyr wedi cynhyrchu’r fideo hwn:

Nid problem yng Nghymru yn unig yw hon. Er enghraifft, mae Maer Llundain, Sadiq Kahn, wedi ymgynghori’n ddiweddar ar ganllawiau cynllunio newydd a fyddai’n cyflwyno’r egwyddor ‘asiant dros newid’ i helpu i amddiffyn lleoliadau diwylliannol ac i gefnogi economi gyda’r nos Llundain.

Sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb?

Ar 19 Mai, cyhoeddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig y byddai’n diweddaru polisi cynllunio cenedlaethol Cymru fel cam i ‘gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw’ o ganlyniad i ymgyrch Stryd Womanby.

Mae Polisi Cynllunio Cymru, sef polisi cynllunio cenedlaethol Cymru, eisoes yn galluogi awdurdodau lleol i ystyried sŵn wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, gan gynnwys ar gyfer cynigion ger ffynhonnell sŵn bresennol. Mae hefyd yn dweud na ddylai defnydd newydd gael ei gyflwyno i ardal heb ystyried natur y defnydd presennol ohoni.

Fodd bynnag, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn awr am i’r polisi gyfeirio’n benodol at yr egwyddor asiant dros newid.

Dywedodd hefyd y caiff Polisi Cynllunio Cymru ei ddiweddaru i ganiatáu i awdurdodau lleol ddynodi ardaloedd o arwyddocâd diwylliannol ar gyfer cerddoriaeth yn eu cynlluniau datblygu lleol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Er bod bywiogrwydd ardaloedd fel Stryd Womanby yn dibynnu ar nifer o wahanol garfanau, gan gynnwys awdurdodau lleol, y lleoliadau eu hunain a’u cwsmeriaid, rwyf wedi clywed y galwadau i ddiweddaru ein polisi cynllunio cenedlaethol er mwyn diogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw.

Dwi’n falch iawn, felly, o gadarnhau fy mod wedi gofyn i’m swyddogion ddechrau diwygio Polisi Cynllunio Cymru cyn gynted â phosib.

Dwi’n siŵr y bydd y newyddion hwn yn newyddion gwych i gefnogwyr cerddoriaeth fyw ac rwy’n gobeithio y bydd gan yr awdurdodau cynllunio lleol yr hyder i ddefnyddio’r mesurau hyn wrth ystyried ceisidadau cynllunio.

Ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru ar 26 Mai yn eu cyfarwyddo i arfer yr egwyddor asiant dros newid ar unwaith.


Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Delwedd o Flickr drwy Joe Diaz. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru: Aelodau’r Cynulliad i drafod deiseb (PDF, 203KB)