A allai parthau rhydd roi hwb i borthladdoedd Cymru?

Cyhoeddwyd 17/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ardaloedd sydd wedi’u lleoli’n ddaearyddol o fewn ffiniau tir gwlad ond sydd y tu hwnt i reolaeth tollau yw parthau rhydd. Yn yr ardaloedd hyn, ni chodir tollau mewnforio na threth ar werth hyd nes y bydd nwyddau’n gadael y parth ac yn mynd i mewn i’r wlad y mae’r parth wedi’i lleoli ynddi. Pan fydd parthau rhydd wedi’u lleoli mewn porthladdoedd môr, maent yn aml yn cael eu galw’n borthladdoedd rhydd.

Ymddengys parthau rhydd ledled y byd, o Frasil i Fwlgaria, gan weithredu fel catalyddion ar gyfer masnach ryngwladol drwy ganiatáu i fasnachwyr a chwmnïau cludo ar longau storio nwyddau gydag ychydig iawn o gost a biwrocratiaeth.

Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar borthladdoedd Cymru, clywodd y pwyllgor dystiolaeth ar fanteision posibl sefydlu un neu fwy o barthau rhydd mewn porthladdoedd yng Nghymru (Saesneg yn unig). Cynhaliwyd y drafodaeth hon yng nghyd-destun pryder ynghylch effaith tollau ar borthladdoedd Cymru ar ôl gadael yr UE.

Roedd yr Athro Beresford, arbenigwr mewn cludiant rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd, yn un o’r rhai a roddodd dystiolaeth. Esboniodd pam y gallai cyflwyno parth rhydd gynyddu apêl porthladdoedd Cymru drwy ddarparu man glanio lle y gellid storio nwyddau yn ddi-dreth cyn eu hail-allforio. Hefyd, mae’n honni y gall parthau rhydd helpu busnesau i reoli eu costau mewnforio ac allforio:

There’s a cash-flow benefit, but also it allows importers […] to smooth their logistics so, if they have too much coming in for a while, goods could wait there […] until they’re actually required.

Parthau rhydd yn yr UE

Mae yna nifer o barthau rhydd leded Ewrop, gyda thua 80 ohonynt wedi’u lleoli yn 20 o wledydd yr UE. Yn ôl Comisiwn yr UE, ym mis Mehefin 2017, Lithwania oedd â’r nifer fwyaf o barthau rhydd, gan ddatgan bod ganddi 12 o barthau rhydd sylweddol, tra bod gan yr Almaen a Ffrainc ddau yr un.

Mae Cod Tollau yr Undeb Ewropeaidd yn caniatáu i unrhyw aelod-wladwriaeth ddatgan unrhyw ran o’u tiriogaeth yn barth rhydd. Mae’n rhaid i’r parthau hyn fod wedi’u hamgáu ac mae’n rhaid i’r mynedfeydd ac allanfeydd fod o dan oruchwyliaeth. Mae’r cod yn datgan bod pobl, nwyddau a chyfryngau cludo sy’n mynd i mewn i’r parthau hyn neu’n eu gadael yn ddarostyngedig i reolaeth o ran tollau.

Parthau rhydd yn y DU

Mae trefniadau ar gyfer sefydlu parthau rhydd yn y DU wedi’u nodi yn Neddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979. Yn y bôn, gall y Trysorlys sefydlu parthau rhydd drwy Orchymyn fel ardaloedd arbennig at ddibenion tollau.

Cyn 2012, roedd gan y DU bum parth rhydd yn Southampton, Sheerness, Tilbury, Lerpwl a Prestwick. Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r parthau hyn wedi’u fforffedu o blaid proses o ‘Warysu Tollau‘ (‘Customs Warehousing’ yn Saesneg).

Mae Warysu Tollau hefyd wedi’i ddiffinio o dan god tollau yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’n galluogi unrhyw aelod-wladwriaeth i ddatgan bod adeilad neu leoliad arall yn ardal ddi-doll. Yn y DU, caiff y rhain eu galw’n aml yn storfeydd tollau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ac er nad oes rhestr ddiffiniol ohonynt ar gael yn gyhoeddus, mae’n debyg bod storfeydd tollau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi’u lleoli mewn ardaloedd mewndirol yn ogystal ag ar yr arfordir.

Adroddir bod gan Gymru rai storfeydd tollau, gan gynnwys warws gwinoedd cain yng Nghaerdydd, ond nid yw’n bosibl cadarnhau yr union nifer.

Porthladdoedd posibl yng Nghymru

Yn y sesiwn dystiolaeth ar 12 Mehefin 2017, cafodd nifer o borthladdoedd eu crybwyll yn y drafodaeth fel lleoliadau posibl ar gyfer parthau rhydd, gan gynnwys Aberdaugleddau, Caerdydd a Chasnewydd.

Disgrifiodd Dr Andrew Potter, arbenigwr mewn cludiant a logisteg o Brifysgol Caerdydd, y rhesymau am grybwyll y porthladdoedd hyn (Saesneg yn unig):

Milford Haven could be one, on the basis that it’s a deep sea port, it would be able to potentially handle larger vessels and the goods that would go through them. There are small amounts of unitised cargo that come through the south Wales ports, so the likes of Cardiff, Newport […]. Those sites also have space to put warehousing and so on, so that may well be an opportunity there to look at setting up a small Free Port area.

Gallai sefydlu parth rhydd ddod â rhagor o lwythi llong i’r ardal, gan gynyddu cyflogaeth a thwf economaidd yn y porthladd a’r cyffiniau. Aeth yr Athro Beresford ymlaen i ddisgrifio pam ei bod yn amserol edrych ar y posibilrwydd o sefydlu porthladdoedd rhydd:

Now we’re in a new environment looking and Brexit and looking at the ports’ roles in that—it’s possible that, with the Free Port idea, a fresh look at distribution in this immediate area could be a good idea

Yn dilyn y dystiolaeth hon, cafodd porthladdoedd rhydd eu trafod mewn sesiwn dystiolaeth gyda Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, ar 3 Gorffennaf. Roedd Simon Jones, Cyfarwyddwr Cludiant a Seilwaith TGCh Llywodraeth Cymru, yn bresennol yn y sesiwn gyda’r Ysgrifennydd Cabinet.

Pan ofynnwyd a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi defnyddio porthladdoedd rhydd, atebodd Ken Skates (Saesneg yn unig):

If the UK Government determines that free ports can be rolled out, then we’d certainly want to get our fair share of them, but not just in terms of sea ports; I think there is huge potential for Cardiff [airport] in this regard.

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn credu ei bod hi’n fwy priodol bod y porthladdoedd eu hunain yn penderfynu yn unigol a chyda’i gilydd pa rai y dylid eu dynodi’n borthladdoedd rhydd, yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd Mr Jones yn ddiweddarach fod y Llywodraeth wedi nodi nifer o borthladdoedd môr a meysydd awyr yng Nghymru sydd â diddordeb mewn bwrw ymlaen â’r cysyniad o borthladdoedd rhydd.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Keri McNamara gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r post blog hwn gael ei gwblhau.


Erthygl gan Keri McNamara, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llun o Wikicommons gan Lewis Clark. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: A allai parthau rhydd roi hwb i borthladdoedd Cymru? (PDF, 201KB)