Rhoi sylw dyledus? I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei gyfrifoldebau o ddifrif o dan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC)

Cyhoeddwyd 18/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae gan blant a phobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed amrywiaeth o hawliau wedi’u nodi yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn), gan gynnwys hawliau i gael eu hamddiffyn, i iechyd, i deulu, i addysg, i ddiwylliant ac i hamdden (gweler crynodeb o erthyglau) (PDF 73.8KB)).

Mae'r Confensiwn yn nodi'r hyn y mae'n rhaid i lywodraethau, awdurdodau cyhoeddus ac oedolion ei wneud i alluogi plant i fwynhau eu holl hawliau. Cadarnhaodd y DU y Confensiwn ym 1991 a mabwysiadodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y Confensiwn yn unfrydol fel sail ar gyfer gwneud polisi ar gyfer plant ym mis Ionawr 2004.

Mewn datganiad ysgrifenedig ar 12 Gorffennaf 2017 ailbwysleisiodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i roi hawliau plant yn ganolog i’w pholisïau, mewn ymateb i Sylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig. Mae'r ymateb wedi cael ei groesawu gan Gomisiynydd Plant Cymru a Grŵp Monitro’r Confensiwn yng Nghymru, gan hefyd atgyfnerthu'r angen am fwy o frys os bydd argymhellion y Pwyllgor yn cael eu gweithredu'n llawn yn ôl y bwriad.

Sylw dyledus i’r Confensiwn

Nid yw'r DU wedi ymgorffori'r rhan fwyaf o ddarpariaethau'r Confensiwn yn y gyfraith ddomestig, ac ni all unigolion yn gyffredinol ddibynnu arno yn uniongyrchol yn y llysoedd yma. Rhoddodd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i'r hawliau yn y Confensiwn wrth wneud penderfyniadau, polisïau a chyfreithiau. Fodd bynnag, nid yw'r dyletswyddau hyn yn rhoi'r hawl i bob plentyn geisio cymorth uniongyrchol yn y llysoedd os yw eu hawliau unigol yn cael eu treisio gan y rhai sy'n darparu gwasanaethau iddynt.

Argymhellodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ddiweddar (PDF 1.86MB) y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys y Confensiwn yn uniongyrchol mewn cyfraith ddomestig trwy osod dyletswydd ar gyrff perthnasol i roi sylw dyledus i'r Confensiwn o dan y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Mae hyn eisoes yn wir gyda chyrff cyhoeddus perthnasol sy'n arfer swyddogaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Yn 2012, comisiynodd UNICEF UK Brifysgol y Frenhines yn Belfast (PDF 6.07MB) i astudio gwledydd lle cafodd y Confensiwn ei ymgorffori yn llawn (Gwlad Belg, Norwy, Sbaen). Er bod ymgorffori yn golygu bod y Confensiwn yn rhan lawn o'r system gyfreithiol ddomestig, ei brif werth oedd y neges glir yr oedd yn ei chyfleu ynghylch statws plant a hawliau plant, ac effeithiau cynyddol hyn ar wneud egwyddorion hawliau plant yn rhan o gyfraith a pholisi domestig.

Mae papur briffio Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin hwn o fis Tachwedd 2016 (PDF 639KB) yn cynnwys rhagor o fanylion am gydymffurfiaeth gyfreithiol â'r Confensiwn.

Barn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant yng Nghymru

Cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig, panel rhyngwladol o arbenigwyr a sefydlwyd ym 1991 i graffu ar gofnodion y llywodraeth ar hawliau plant, ei ganfyddiadau (PDF 286KB) o'i archwiliad diweddar o'r DU a llywodraethau datganoledig yn ystod mis Gorffennaf 2016. Mae'r Sylwadau Cloi hyn yn tynnu sylw at agweddau cadarnhaol a negyddol allweddol o ran y modd y mae'r DU yn rhoi'r Confensiwn ar waith a gwnaeth dros 150 o argymhellion ar gamau y dylai llywodraethau'r DU eu cymryd i hyrwyddo hawliau plant. Gweler ein blog yn 2016 i gael crynodeb o'r argymhellion fel y'u cymhwysir i Gymru.

Y broses adrodd yn 2016 oedd y tro cyntaf i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig gael y cyfle i werthuso cofnod Cymru ar ôl rhoi Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ar waith.

Er nad yw Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn gallu gorfodi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i newid eu cyfreithiau, eu polisïau a'u harferion, y disgwyliad yw y bydd y ddwy Lywodraeth yn cymryd canfyddiadau'r Pwyllgor o ddifrif ac yn ymateb iddynt yn gyflym ac mewn modd ystyrlon, yn enwedig o ystyried cyfraniad gwerthfawr plant a phobl ifanc at y broses adrodd.

Mae rhagor o wybodaeth am broses adrodd y Cenhedloedd Unedig ar gael yma.

Effaith Brexit ar Hawliau Plant yng Nghymru

Mae Eurochild a phum rhwydwaith partner cenedlaethol, yn cynnwys Plant yng Nghymru, yn cefnogi dull o wrando ar blant a phobl ifanc fel rhan o'r broses negodi ar gyfer Brexit; ac maent yn ceisio sicrwydd na fydd unrhyw gamu'n ôl o ran hawliau presennol plant a phobl ifanc yn y DU ac ledled yr UE.

Amlygodd y Cenhedloedd Unedig effaith bosibl gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ystod yr Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol, sef dull adolygu unigryw y Cenhedloedd Unedig sy'n craffu ar wladwriaethau o ran y cynnydd a wnaed wrth weithredu eu rhwymedigaethau o dan gytundebau hawliau dynol. Ar 8 Mai 2017, cyhoeddwyd yr adroddiad o'r adolygiad a gellir ei weld yma.

Roedd argymhellion yr Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol yn gofyn am sicrwydd y DU na fydd unrhyw ddeddfwriaeth genedlaethol yn y dyfodol yn gwanhau’r elfen amddiffyn hawliau dynol, a bod cyflawniadau hawliau dynol yn cael eu cadw yng nghyd-destun ymadael â'r UE.

Daw'r argymhellion hyn ar adeg pan fo'r DU wedi cael ei gynnwys ymhlith y 10 perfformiwr gwaethaf ym maes gwella hawliau'r plentyn, a hynny ar ôl iddo ennill y sgôr isaf posibl ar draws pob un o'r chwe dangosydd sydd ar gael yn y maes Amgylchedd Hawliau'r Plentyn, yn ôl y Mynegai KidsRights 2017[1].

Bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ddydd Iau 20 Gorffennaf 2017 i archwilio ymhellach yr ymrwymiad y nododd Llywodraeth Cymru i hawliau plant. Gwyliwch y trafodion yma ar Senedd TV.

[1]Mae'r Mynegai, sy'n casglu data gan UNICEF a Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i nodi tueddiadau cyffredinol yn y maes amddiffyn hawliau plant, yn nodi'r graddau y mae gwlad wedi gweithredu egwyddorion cyffredinol y Confensiwn ac y ceir seilwaith sylfaenol ar gyfer gwneud a gweithredu polisïau hawliau plant. Mae methodoleg y Mynegai yn golygu na ellir gwneud iawn am berfformiadau gwael iawn mewn un maes gan sgoriau uwch mewn meysydd eraill, oherwydd ystyrir bod holl hawliau plant yr un mor bwysig.


Erthygl gan Hywel Dafydd, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Delwedd o 'The Way Right' gan Huw Aaron. Hawlfraint: Comisiynydd Plant Cymru.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Rhoi sylw dyledus? I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei gyfrifoldebau o ddifrif o dan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) (PDF, 205KB)