Anweithgarwch corfforol - a yw’n amser i gael plant Cymru i symud?

Cyhoeddwyd 20/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae llawer ohonom yn ymwybodol o bwysigrwydd ymarfer corff ac annog ein plant i fod yn fwy egnïol hefyd. Ond beth yn union yw manteision posibl gweithgarwch corfforol yn ystod plentyndod? Faint o ymarfer corff y mae plant yn ei gael yng Nghymru heddiw, a pha mor gorfforol weithgar y dylent fod i aros yn iach?

Wrth i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad lansio ei ymgynghoriad ar weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc (0-18 mlwydd oed), mae’r erthygl hon yn amlinellu lefelau gweithgarwch corfforol mewn plant yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yn rhoi trosolwg o’r camau a roddwyd ar waith yng Nghymru i hybu rhagor o weithgarwch corfforol.

Pa mor egnïol yw plant Cymru heddiw?

Er bod y Gweinidog Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon wedi nodi yn 2006 (PDF, 572KB) ei bod yn ‘amser i ddringo o’r gwersyll cyntaf tuag at dir uwch er mwyn creu Cymru sy’n well, yn fwy ffit ac yn iachach’. Y gwir yw nad yw Cymru yn ei chyfanrwydd mor ffit ag y dylai fod.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio gweithgarwch corfforol fel "pob symudiad mewn bywyd bob dydd, gan gynnwys gwaith, hamdden, ymarfer corff a gweithgareddau chwaraeon." Mae hyn yn golygu bod teithio egnïol, fel cerdded neu feicio i’r ysgol, a chwarae bywiog i gyd yn cyfrannu at weithgarwch corfforol dyddiol plant, yn ogystal â gweithgareddau chwaraeon sydd wedi’u trefnu.

Canllawiau ac Ystadegau

Yn 2015, roedd Arolwg o Chwaraeon Ysgol (PDF, 280KB) a gyhoeddwyd gan Chwaraeon Cymru, yn dangos bod 93 y cant o blant yn mwynhau addysg gorfforol ac yn datgelu tuedd gadarnhaol o ran nifer y plant sy’n ‘gwirioni’ ar chwaraeon (h.y. yn ymarfer dair gwaith neu fwy yr wythnos y tu allan i wersi addysg gorfforol sy’n rhan o’r cwricwlwm) wedi cynyddu o 27 y cant yn 2011, i 40 y cant yn 2013, ac i 48 y cant yn 2015. Ar y llaw arall, roedd Arolwg Iechyd Cymru (PDF, 680KB) yn 2015 yn dangos bod dim ond 36 y cant o blant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol am o leiaf awr bob dydd yn ystod yr wythnos flaenorol. Oherwydd bod y ffigurau hyn wedi’u seilio ar ddata hunan-adrodd, efallai na cheir yma ddarlun cwbl gywir o lefelau gweithgarwch ymysg plant yng Nghymru. Un cwestiwn allweddol felly yw, sut y mae’r lefelau hyn yn cymharu â’r canllawiau cyfredol o ran faint o weithgarwch corfforol a argymhellir ar gyfer plant?

Mae’r adroddiad Dechrau egnïol, Dyfodol egnïol a gyhoeddwyd gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn darparu canllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar faint, amlder a math o weithgaredd corfforol sy’n ofynnol ar wahanol gyfnodau bywyd. Ar gyfer plant a phobl ifanc (5-18 mlwydd oed), argymhellir 60 munud a hyd at sawl awr y dydd o weithgarwch cymedrol i egnïol, gyda chymryd rhan mewn gweithgarwch egnïol (h.y. pan fydd rhywun yn methu cynnal sgwrs wrth ymarfer) o leiaf dair gwaith yr wythnos yn cael ei argymell, i hyrwyddo iechyd yr esgyrn a’r cyhyrau. Casgliad yr adroddiad oedd bod y rhan fwyaf o blant yng Nghymru yn cymryd rhan mewn llawer llai o weithgarwch corfforol na’r swm a argymhellir.

O ran plentyndod cynnar (o dan 5 mlwydd oed), mae’r canllawiau yn argymell o leiaf 3 awr o weithgarwch corfforol wedi’i ledaenu drwy gydol y dydd, gan gynnwys symudiadau ar y llawr a symudiadau ar ddŵr ar gyfer plant nad ydynt yn cerdded eto. Nid oes llawer o dystiolaeth i ddangos a yw plant bach Cymru yn ddigon egnïol, ac mae hyn yn fwy anodd ei fesur; eto adroddir nad yw 91 y cant o blant 2-4 oed yn y DU yn bodloni’r canllawiau o 3 awr o weithgaredd bob dydd.

Os nad yw plant yn ddigon egnïol heddiw, mae hefyd yn wir nad yw’r cenedlaethau sy’n dod o’u blaenau yn gosod esiampl o ran gweithgarwch corfforol. Yn wir, dangosodd Adroddiad arbennig Ewrofaromedr Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (PDF, 7.8MB) mai prin y mae 55 y cant o oedolion yn y DU yn ymarfer y corff neu nid ydynt byth yn gwneud hynny, nac yn cymryd rhan mewn dim chwaraeon, ac nid yw 9 y cant o oedolion ym Mhrydain wedi cerdded am 10 munud ar y tro yn ystod yr wythnos flaenorol. Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod cyfran sylweddol o’r boblogaeth nad ydynt yn ymwybodol o hyd o bwysigrwydd gweithgarwch corfforol i iechyd a lles. Yn unol â hynny, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru yn eu hadroddiad ar y cyd yn 2017, sef Cael Cymru i Symud , yn nodi bod angen newid agweddau:

Heddiw, mae bod yn anweithredol yn cael ei ystyried yn normal gan gyfran fawr o bobl. Nid yw’r agwedd oddefol hon tuag at lefelau gweithgarwch, lle mae symudiad ac ymarfer corff yn cael ei ystyried, yn syml, fel dewis personol yn gynaliadwy yn y 21ain ganrif, ac mae’n fater y mae angen mynd i’r afael ag ef [...] ar frys.

Effaith rhywedd, cefndir cymdeithasol a chefndir diwylliannol ar weithgarwch corfforol

Cadarnhaodd yr Arolwg o Chwaraeon Ysgol (PDF, 280KB) bod bwlch yn bodoli rhwng y rhywiau, a bod bechgyn yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol na merched (52 y cant o’i gymharu â 44 y cant, yn y drefn honno) yn rheolaidd, tra bod Arolwg Iechyd Cymru (PDF, 680KB) yn dangos bod dim ond 31 y cant o ferched yn cyflawni yn unol â’r canllawiau a argymhellir, o’i gymharu â 42 y cant o fechgyn. Hefyd, amlygodd Arolwg o Chwaraeon Ysgol bod anghydraddoldebau o ran lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru yn dibynnu ar ethnigrwydd, oherwydd sylwyd bod y canran isaf o blant sy’n ‘gwirioni’ ar chwaraeon yn ddisgyblion Asiaidd / Asiaidd Prydeinig (36 y cant) a’r lefelau uchaf ymhlith pobl hil gymysg a disgyblion Du / Du Prydeinig (52 y cant). Mae hefyd yn dangos anghydraddoldebau, yn dibynnu ar lefelau o amddifadedd, gyda phant o’r teuluoedd lleiaf difreintiedig yn fwy tebygol o fod wedi ‘gwirioni’ ar chwaraeon na’r plant mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, mae’r cysylltiad rhwng statws ariannol a lefelau gweithgarwch corfforol yn parhau i fod yn aneglur ac i gael ei drafod.

Manteision iechyd gweithgarwch corfforol

Mae ffyrdd o fyw heddiw yn gynyddol yn hyrwyddo ymddygiad eisteddog, ac yn annog plant i symud o gwmpas lai a llai: mae chwarae gweithredol wedi cael ei ddisodli i raddau helaeth gan dreulio amser o flaen sgrin (ar gyfartaledd, mae plant yn gwylio 2 awr o deledu bob dydd, tra bod pobl ifanc 15 i 16 mlwydd oed yn treulio 4.8 awr ar-lein bob dydd), Mae llawer o blant yn cael eu gyrru i’r ysgol mewn car, hyd yn oed ymhlith y plant hynny sy’n byw o fewn pellter cerdded.

Mae wedi cael ei ddangos y bydd plant sy’n gorfforol egnïol yn cael rhagor o gyfleoedd i ddod yn oedolion egnïol (PDF, 954KB). O wybod bod gweithgarwch corfforol wedi cael ei gysylltu â llai o risg o ddatblygu dementia, rhai mathau o ganser, neu gyflyrau cronig fel gordewdra mewn ieuenctid, diabetes math 2, clefyd cardiofasgwlaidd neu grud cymalau, nid yw’n syndod mawr i glywed bod segurdod corfforol yn awr yn cael ei ystyried yn 4ydd prif achos marwolaethau yn y byd. Yn 2009, amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru bod anweithgarwch corfforol yn costio £650 miliwn y flwyddyn yng Nghymru (PDF, 2.2MB).

Yn ychwanegol at y manteision iechyd hynny, mae bod yn egnïol yn gorfforol yn hyrwyddo hunan-hyder a lles cyffredinol, ac mae hefyd yn cael ei gysylltu â gwell cyrhaeddiad addysgol ymhlith plant (PDF, 167KB).

Mentrau yn y gorffennol, mentrau presennol a mentrau ar gyfer y dyfodol i hyrwyddo gweithgarwch corfforol mewn plant yng Nghymru

Addysg gorfforol yn y cwricwlwm ysgol

Er bod Addysg Gorfforol yn rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol ac yn orfodol ar gyfer pob disgybl o oed ysgol (cyfnodau allweddol 2-4), fel y disgrifir yn y Canllawiau Addysg Gorfforol (PDF, 950KB), nid yw ysgolion yn cael eu cyfyngu i ddyrannu amser penodol ar ei gyfer, ac maent yn rhydd i drefnu a chyflwyno addysg gorfforol mewn modd sy’n gweddu orau iddynt hwy. Dangosodd Arolwg o Chwaraeon Ysgol (PDF, 280KB) 2015 bod tua 100 munud bob wythnos wedi’u neilltuo i addysg gorfforol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru.

Yn ei adroddiad yn 2013, argymhellodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Weithgarwch Corfforol y dylid rhoi rhagor o bwyslais ar lythrennedd corfforol ac y dylai addysg gorfforol ddod yn bwnc craidd yn y cwricwlwm cenedlaethol. Yn y cwricwlwm newydd i Gymru, ni fydd pynciau craidd yn bodoli fel y cyfryw, a bydd chwech o ‘Feysydd Dysgu a Phrofiad’ yn cael eu cyflwyno yn lle hynny. Bydd Addysg Gorfforol yn rhan o’r maes dysgu a phrofiad ‘iechyd a llesiant’, ond ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael hyd yma am y flaenoriaeth y bydd yn ei chael, na sut y bydd yn cael ei gyflwyno i ddisgyblion.

O ran hyfforddiant athrawon, a dangosodd astudiaeth yn 2012 nad oes gan 38 y cant o athrawon cynradd ym Mhrydain yr hyder i ddysgu Addysg Gorfforol, tra bod 47 y cant o athrawon yn dweud eu bod wedi cael llai na 10 awr o hyfforddiant addysg gorfforol yn ystod eu Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon.

Mentrau yn y gorffennol a mentrau presennol

Dros y blynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau amrywiol wedi cyflwyno mentrau i hyrwyddo rhagor o weithgarwch corfforol yng Nghymru. Yn 2004, lansiwyd y Fenter Nofio Am Ddim, a oedd yn cynnig mynediad am ddim i byllau nofio ar adegau penodol ar gyfer pobl ifanc hyd at 16 oed (ac i bobl hŷn dros 60 oed). Yn 2005, sefydlodd y cyhoeddiad Dringo’n Uwch (PDF, 1.33MB) weledigaeth strategol hirdymor Llywodraeth Cymru i roi "chwaraeon a gweithgarwch corfforol wrth wraidd bywyd Cymru", ac yn 2006 dilynwyd y strategaeth honno gan Dringo’n uwch - Y camau nesaf (PDF, 572KB) a oedd yn amlinellu rhagor o gynlluniau buddsoddi. Cyhoeddwyd y ‘cynllun gweithredu’ gweithgarwch corfforol ar gyfer Cymru, sef Creu Cymru Egnïol (PDF, 2.2MB) yn 2009. Yn 2013, daeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) i rym i gefnogi dulliau o hyrwyddo llwybrau teithio egnïol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru hefyd wedi cyhoeddi eu hadroddiad ar y cyd yn ddiweddar, sef Cael Cymru i Symud (Mawrth 2017). Mae rhaglenni, camau ac adroddiadau eraill hefyd ar waith neu wedi’u cyhoeddi, gyda rhai ohonynt yn mynd i’r afael â gweithgarwch corfforol yng nghyd-destun ehangach atal gordewdra a hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw.

Felly mae llawer o gamau wedi’u cymryd i hyrwyddo gweithgarwch corfforol a chwaraeon yng Nghymru, ond ychydig o dystiolaeth sydd ar gael i ddangos bod plant a phobl ifanc yn mynd yn fwy egnïol yn gorfforol, ac mae lefelau gordewdra yn parhau i gynyddu.

Nod ymchwiliad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad yw edrych yn ofalus ar y dystiolaeth. Mae modd gweld cylch gorchwyl yr ymchwiliad yma (Dyddiad cau yr ymgynghoriad yw: Dydd Gwener 15 Medi 2017).

Mae’r Cynulliad yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Mathilde Guillaumin gan y Cyngor Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol, a alluogodd i’r post blog hwn gael ei gwblhau.


Erthygl gan Mathilde Guillaumin, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: o Flickr by Luigi Guarino. Licensed under Creative Commons. Ffynhonnell: Arolwg o Chwaraeon Ysgol, Chwaraeon Cymru (PDF, 280KB) (2015).

Ffynhonnell: Chwaraeon Cymru, Arolwg o Chwaraeon Ysgol (PDF, 280KB), Tabl 1, p.4 (2015).

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Anweithgarwch corfforol - a yw’n amser i gael plant Cymru i symud? (PDF, 404KB)