Cyhoeddiad newydd: Darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ym maes Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd 20/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r papur briffio hwn yn rhoi trosolwg o'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru. Mae'n egluro'r cyd-destun polisi ac yn cyfeirio at sefydliadau a mentrau allweddol. Mae'r papur hefyd yn rhoi ystadegau ar nifer y gweithgareddau dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau hyn a nifer y dysgwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Mae gan Lywodraeth Cymru darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae o'r farn bod addysg a dilyniant ieithyddol yn un o'r prif ffyrdd o gyflawni hyn, fel y nodir yn ei Strategaeth Iaith newydd. Bydd adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru ar ddyfodol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ym maes Addysg Bellach ac Uwch (PDF, 1Mb)

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y cymorth y darparodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i Laura Beth Davies yn ei hastudiaeth academaidd a’i hinterniaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a alluogodd y cofnod blog hwn i gael ei gwblhau. Laura Beth yw’r cynrychiolydd ôl-raddedig ar Fwrdd Academaidd y Coleg.


Erthygl gan Laura Beth Davies, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru