Cynhadledd Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig yn arwain at ymdrech ryngwladol i warchod ein cefnforoedd

Cyhoeddwyd 21/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn Efrog Newydd rhwng 5 a 9 Mehefin 2017 cynhaliwyd ‘Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig i gefnogi Gweithredu Nod Datblygu Cynaliadwy 14: Cadw a defnyddio cefnforoedd, moroedd ac adnoddau morol yn gynaliadwy ar gyfer datblygu cynaliadwy (y Gynhadledd Cefnforoedd).

Daeth uwch swyddogion a Phenaethiaid Gwladol o bob cwr o’r byd ynghyd yn y Gynhadledd, i fynd i’r afael â Nod Datblygu Cynaliadwy 14 (SDG14): ‘Bywyd o dan y dŵr’. Y nod oedd amlygu’r heriau, sy’n aml yn cael eu hesgeuluso, ar gyfer y moroedd, a cheisio llunio ymateb unedig, byd-eang. Cafwyd tri chanlyniad allweddol yn sgîl y Gynhadledd; sef Galwad am Weithredu, cofrestr o ymrwymiadau gwirfoddol a deialogau partneriaeth.

Y nodau datblygu cynaliadwy

Cytunwyd ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) yn dilyn y cyfarfod o Benaethiaid Gwladwriaethau o bob rhan o’r byd a chynrychiolwyr o bwys ym mis Medi 2015, ar achlysur dathlu 70 mlynedd ers sefydlu’r Cenhedloedd Unedig. Cynlluniwyd y nodau i ddarparu ymdrech unedig ar draws y byd i ‘ryddhau’r hil ddynol rhag gormes tlodi ac [...] i wella a diogelu ein planed’.

Edrychir ar y nodau ar ffurf 17 o nodau ar wahân, ond eto sy’n gysylltiedig â’i gilydd, sy’n mynd i’r afael â chynaliadwyedd ar draws pob sector a phob daearyddiaeth, o addysg i ecosystemau i ynni, ac sy’n cyfrannu at ‘Agenda 2030’. Ceisia Nod 14eg: ‘Bywyd o dan y dŵr’ ymdrin ag iechyd y cefnforoedd yng nghyd-destun bioamrywiaeth, yr hinsawdd a’r economi. Mae Cymru’n parhau â rhan arweiniol ar y llwyfan byd-eang o ran Nodau Datblygu Cynaliadwy, gan ei bod y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ym maes datblygu cynaliadwy gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae Llywodraeth Cymru wedi sylweddoli pwysigrwydd y Nodau Datblygu Cynaliadwy i ddyfodol Cymru, oherwydd mae ei Hadroddiad Tueddiadau’r Dyfodol, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2017, yn datgan:

Trwy’r camau y bydd y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yn eu cymryd i gyflawni’r saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bydd Cymru yn gwneud ei chyfraniad tuag at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Canlyniad Cyntaf y Gynhadledd: Yr alwad am weithredu

Nododd y Cynulliad Cyffredinol, sef prif gynulliad y Cenhedloedd Unedig ar gyfer cyd-drafod a llunio polisïau, mewn penderfyniad a fabwysiadwyd ym mis Medi 2016, y dylai’r Gynhadledd Cefnforoedd fabwysiadu datganiad cryno, clir a gytunwyd drwy gonsensws rhwng y llywodraethau, ar ffurf "Galwad am Weithredu" i gefnogi gweithrediad Nod 14’.

Datblygwyd yr Alwad Ddrafft am Weithredu (CfA) yn dilyn tair rownd o ymgynghori rhynglywodraethol rhwng mis Mawrth a mis Mai 2017. Cyflwynwyd hi gerbron y rhai a oedd yn bresennol yn y Gynhadledd ar gyfer ei thrafod, ac ar gyfer ei mabwysiadu’n gyffredinol fel prif ddogfen ganlyniad y Gynhadledd.

Mae’r Alwad Ddrafft am Weithredu yn dechrau gyda datganiad ar yr ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cefnforoedd ar gyfer cynnal planed iach, a’r angen sy’n deillio o hynny ar gyfer gweithredu Nod Datblygu Cynaliadwy 14 yn effeithiol. Mae rhestr o 21 o gamau gweithredu yn darparu fframwaith byd-eang ar gyfer cyrraedd Nod 14 (a restrir o ‘a’ i ‘v’) y gellir eu grwpio’n chwe thema eang:

Polisi (camau gweithredu a i c)

Mae’r camau hyn yn anelu at ‘gryfhau cydweithrediad a chydlyniad polisi’ ymhlith sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, gan annog sefydlu partneriaethau rhwng rhanddeiliaid lluosog.

Addysg ac ymchwil (camau gweithredu d i f)

Nod y camau hyn yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y môr drwy gefnogi cynlluniau i ‘feithrin addysg sy’n gysylltiedig â chefnforoedd’. Cefnogir hyn gan ddarparu rhagor o adnoddau ar gyfer gwaith ymchwil wyddonol morol a fydd yn cynnwys gwell dulliau rhannu gwybodaeth a defnyddio ‘gwybodaeth draddodiadol’.

Mynd i’r afael â llygredd (camau gweithredu g i i)

Bydd y camau hyn yn cryfhau ymrwymiadau i leihau llygredd morol sy’n deillio o weithgareddau ar y tir, tra byddant hefyd yn hyrwyddo atal gwastraff drwy leihau’r defnydd o adnoddau, drwy ailddefnyddio ac ailgylchu (y tair R yn Saesneg – reduce, reuse and recycle) drwy atebion sy’n seiliedig ar y farchnad. Ategir hyn gan gam penodol i leihau’r defnydd o blastig a microblastigau.

Offer rheoli (camau gweithredu j a k)

Bydd y camau hyn yn cefnogi dulliau rheoli cefnforoedd priodol, gan gynnwys cynllunio gofodol morol a rheoli parthau arfordirol. Maent hefyd â’r nod o ddatblygu a gweithredu camau addasu a lliniaru i gefnogi’r gallu i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gefnforoedd, gan gynnwys effeithiau asideiddio a chodiad yn lefel y môr.

Pysgodfeydd a’r ‘economi las’ ehangach (camau gweithredu l i r)

Mae’r camau hyn yn anelu at hyrwyddo arferion pysgota cynaliadwy, gan gynnwys rhoi terfyn ar bysgota dinistriol, cefnogi’r defnydd o bysgod a reolir yn gynaliadwy a darparu cymorth i bysgotwyr ar raddfa fach a physgotwyr crefftus mewn gwledydd sy’n datblygu. Byddant hefyd yn hyrwyddo economïau cynaliadwy sy’n gysylltiedig â chefnforoedd, gan gynnwys twristiaeth, cludiant morol ac ynni adnewyddadwy.

Ymrwymiadau dilynol (camau gweithredu s i v)

Mae’r camau hyn yn annog dilyniant i’r deialogau partneriaethau (gweler Canlyniad 3 isod), yn ogystal ag adolygu Agenda’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn Agenda 2030, ac yn ystyried rhagor o ffyrdd i gefnogi’r gwaith o ‘weithredu Nod 14 yn brydlon ac effeithiol’.

Ail Ganlyniad y Gynhadledd: Cofrestrfa o ymrwymiadau gwirfoddol

Yn y Gynhadledd cafwyd 1,348 o ymrwymiadau gwirfoddol i gymryd camau i gyflawni Nod Datblygu Cynaliadwy 14. Llywodraethau a oedd yn bennaf cyfrifol am wneud yr ymrwymiadau hyn (44 y cant), ond hefyd cyrff anllywodraethol (19 y cant), y Cenhedloedd Unedig (9 y cant) a’r sector preifat (9 y cant). Roedd nifer uchaf yr ymrwymiadau yn ymwneud â Gogledd Môr yr Iwerydd a De’r Môr Tawel, ac roedd eraill yn ymwneud ag ecosystemau morol, llygredd a gwyddoniaeth. O bwysigrwydd nodedig oedd yr ymrwymiadau a wnaed gan wahanol wladwriaethau i weithredu Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs) neu i’w hehangu. Mae rhestr o’r ymrwymiadau a wnaed i’w cael ar wefan y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Datblygu Cynaliadwy.

Er bod amseriad y gynhadledd yn cyd-daro â’r cyfnod o neilltuaeth a oedd yn gysylltiedig ag Etholiad Cyffredinol yn y DU, bu swyddogion o Adran yr Amgylchedd (DEFRA) y DU yn cymryd rhan weithredol yn y Gynhadledd, gan wneud yr ymrwymiadau gwirfoddol canlynol, i:

Trydydd Canlyniad y Gynhadledd: Deialogau partneriaeth

Roedd y Gynhadledd yn cynnwys saith ‘Deialog Partneriaeth’. Roedd adroddiad gan y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yn datgan:

The partnership dialogues facilitated knowledge and experience sharing between participants and clarified interlinkages between SDG 14 and the other goals.

Trafodwyd saith thema deialog gan y llywodraethau, y cyrff anllywodraethol a rhanddeiliaid a fydd bellach yn rhan o’r gweithdrefnau dilynol ar gyfer gweithredu’r Alwad Ddrafft am Weithredu. Y gobaith yw y byddant yn cryfhau cydweithrediad rhyngwladol ac yn llunio partneriaethau arloesol newydd.

Gwarchod Moroedd Cymru

Mae amgylchedd morol Cymru yn llunio dros hanner arwynebedd Cymru ac mae’n gartref i rai o’r cynefinoedd a’r rhywogaethau mwyaf amrywiol yn fiolegol yn Ewrop. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y 132 o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru sy’n gorchuddio’n agos at 37 y cant o foroedd Cymru.

Canfu adroddiad (PDF 1.26MB) yn 2012 gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (un o’r tri chorff a oedd yn rhagflaenu Cyfoeth Naturiol Cymru) fod 100 y cant o rywogaethau a 79 y cant o gynefinoedd mewn statws anffafriol (sy’n golygu nad oeddent o dan reolaeth ddiogel). Roedd yr asesiad hwn yn rhan o adroddiad y DU a gyflwynwyd i’r Comisiwn Ewropeaidd ar statws Safleoedd Morol Ewropeaidd. Mae asesiadau o gyflwr mwy diweddar y safleoedd ar fin cael eu cyhoeddi’r haf hwn gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Nid yw’r broblem wedi’i chyfyngu i Gymru, gan bod Ymchwiliad, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2017, gan Bwyllgor Archwilio Amgylcheddol y DU i Ardaloedd Morol Gwarchodedig y DU hefyd yn datgelu methiannau ym maes rheoli, gan nodi bod yn rhaid gwneud rhagor i sicrhau nad yw ardaloedd morol gwarchodedig yn ddim byd ond ‘llinellau ar fap’.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad wedi bod yn cynnal ymchwiliad i Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru. Bydd yn cyhoeddi ei adroddiad ar ddechrau mis Awst 2017. Yn ehangach, mae Llywodraeth Cymru ar fin lansio Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar gyfer cynnal ymgynghoriad cyhoeddus arno cyn diwedd y flwyddyn. Hwn fydd y cynllun cyntaf i ystyried, mewn modd strategol, amgylchedd morol ac arfordirol Cymru a phob defnydd ohono ar hyn o bryd a defnydd posibl ohono yn y dyfodol.

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Keri McNamara gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r papur hwn gael ei gwblhau.


Erthygl gan Keri McNamara, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun o Flickr gan Mark Turner. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Cynhadledd Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig yn arwain at ymdrech ryngwladol i warchod ein cefnforoedd (PDF, 342KB)