Darogan dyfodol Cymru: Cyhoeddi adroddiad gan Lywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 21/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae ehangu poblogaeth, twf economaidd a llifogydd yn ddim ond rhai o'r pethau ar y gorwel ar gyfer Cymru, yn ôl 'Adroddiad ar Dueddiadau’r Dyfodol. Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 5 Mai 2017 yn un o ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Yng ngeiriau Niels Bohr, y ffisegydd ac athronydd, mae rhagfynegi yn anodd iawn, yn enwedig os yw ynglŷn â’r dyfodol. Eto, gwneir penderfyniadau sy'n effeithio ar ddyfodol Cymru o ddydd i ddydd gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Pwrpas yr adroddiad felly yw helpu i sicrhau bod y dewisiadau a wneir y rhai gorau ar gyfer Cymru yfory, yn ogystal â Chymru heddiw. Nodir yn yr adroddiad:

... ni fyddai unrhyw un yn dymuno darganfod bod y polisïau neu gynlluniau a wnawn yn y sector cyhoeddus yng Nghymru heddiw wedi arwain at ganlyniad niweidiol anfwriadol, neu fuddsoddiad a wastraffwyd.

Er mwyn cyflawni hyn, mae'r ddogfen yn mynd ar drywydd chwe thema i dynnu sylw at dueddiadau yn y dyfodol sy’n bwysig o ran gwneud penderfyniadau cymdeithasol, penderfyniadau economaidd a phenderfyniadau amgylcheddol. Y bwriad yw y bydd y ddogfen yn annog cyrff cyhoeddus i fabwysiadu golwg "craff a chyson" ar gyfer y tymor hwy. Cyfaddefir yn yr adroddiad, er nad yw meddwl yn y modd hwn yn beth naturiol bob amser, gallai baratoi'r ffordd i Gymru arwain o ran "defnyddio a dehongli ffynonellau data yn ddeallus ".

Tueddiadau’r dyfodol yng Nghymru mewn chwe maes allweddol

Rhestrir isod y chwe maes yr edrychir yn fanwl arnynt. Darperir cynrychioliadau graffigol o'r tueddiadau ar wefan Llywodraeth Cymru . Mae'n defnyddio data sydd ar gael ar hyn o bryd i ddod o hyd i batrymau a thueddiadau ar gyfer y dyfodol, tra bydd hefyd yn crynhoi arsylwadau allweddol o'r blynyddoedd diwethaf. Mae’r tueddiadau allweddol ar gyfer y chwe maes yn y dyfodol yn cynnwys:

Y boblogaeth

Mae poblogaeth Cymru yn 3.1 miliwn ar hyn o bryd , ac mae’n debygol o gynyddu o 5 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf, yn gymaint oherwydd genedigaethau naturiol ag oherwydd mewnfudo. Mae cyfran y bobl dros 75 mlwydd oed yn debygol o gynyddu 9 y cant i 13 y cant erbyn 2030.

Iechyd

Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio daw cynnydd o ran dementia. Erbyn 2025, gallai fod 50,000 o bobl 65 mlwydd oed neu’n hŷn sy'n dioddef gyda dementia yng Nghymru, gyda bron i chwarter y bobl dros 90 mlwydd oed yn dioddef o'r clefyd. Rhagwelir y bydd lefelau ysmygu yn parhau i ostwng, tra bod disgwyl y bydd gordewdra yn cynyddu ychydig.

Mae anhwylderau iechyd meddwl wedi dangos cynnydd, o 9 y cant o oedolion yn 2009 i 13 y cant o oedolion yn 2015. Ni fu llawer o newid yn y cyfraddau canser, er bod y niferoedd wedi cynyddu gyda’r twf yn y boblogaeth a phoblogaeth sy’n heneiddio.

Yr Economi a’r Seilwaith

Mae CMC y DU a Chymru ar hyn o bryd yn tyfu'n raddol. Mae'n debygol y bydd gwledydd sy'n datblygu'n gyflym, fel Tsieina a Mecsico, y mae eu heconomi’n ehangu’n gyflymach yn goddiweddyd cyfradd dwf Cymru.

Mae gan Gymru bosibiliadau sydd "heb eu cyffwrdd" ar gyfer cynhyrchu ynni, a ategir gan dwf cyfredol yn y sector ynni carbon isel yng Nghymru. Cyflwynir darpariaeth band eang gwledig yng Nghymru yn arafach nag yng ngweddill y DU. Er gwaethaf hyn, bu cynnydd o ran llunio’r seilwaith rhyngrwyd symudol sy'n debygol o barhau. Gall y seilwaith hwn ddarparu cyswllt rhyngrwyd cyflymach i'r ardaloedd hynny nad oes ganddynt fand eang.

Mae’n debyg mai cerbydau preifat a fydd yn parhau fel y prif ddull o deithio yng Nghymru yn y tymor byr i ganolig.

Newid yn yr hinsawdd

Mae'r adroddiad yn datgan bod "consensws llwyr" bod y wyddoniaeth sy'n sail i newid yn yr hinsawdd yn gadarn. Nododd Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU feysydd ar gyfer gweithredu blaenoriaethol, sy'n cynnwys llifogydd, risg i iechyd o dymheredd uchel, prinder dŵr a risgiau i'r amgylchedd naturiol.

Mae seilwaith Cymru, fel ei rhwydweithiau trafnidiaeth, y seilwaith o dan y ddaear, ynni a’r seilwaith digidol a chyflenwadau dŵr cyhoeddus eisoes yn agored i beryglon o ran hinsawdd. Disgwylir y bydd hyn yn cynyddu o ran amlder a difrifoldeb. Rhagwelir y bydd cyd-ddibyniaeth y rhwydweithiau seilwaith penodol yn arwain at 'raeadru' o ran eu heffeithiau yn y dyfodol.

Bu gostyngiad sylweddol yn y carbon mewn pridd ar dir cynefin dros y deng mlynedd diwethaf, ac mae angen rhagor o waith i ddeall y duedd hon yn well. Ond yn groes i hyn, mae cynnydd diweddar mewn carbon yn y pridd mewn coetiroedd tan 2007 bellach wedi sefydlogi.

Defnyddio tir ac adnoddau naturiol

Mae’n debygol na fydd gan ecosystemau Cymru ddigon o wydnwch i wrthsefyll yr heriau a gyflwynir gan newid yn yr hinsawdd, a rhagwelir tueddiadau tuag i lawr o ran bioamrywiaeth yn yr hirdymor.

Erbyn 2050, gallai llifoedd afonydd cyfartalog yn y gaeaf godi 10-15 y cant, ond gostwng 50-80 y cant yn yr haf. Gellid effeithio ar ail-lenwi dŵr daear hefyd, a gallai goblygiadau fod o ran prinder dŵr yn hyn o beth.

Mae nifer yr aelwydydd yng Nghymru yn cynyddu'n gyflymach na nifer yr eiddo sydd ar gael. Mae'n debygol y bydd gostyngiad o ran tir addas i'w ddatblygu, wrth i orlifdiroedd a thir isel ddod yn fwy agored i lifogydd.

Cymdeithas a diwylliant

Rhagwelir y bydd nifer yr aelwydydd un person yn codi 30 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae lefelau tlodi ychydig yn uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y DU ar hyn o bryd. Amcangyfrifir y bydd lefelau tlodi cymharol yn y DU yn codi, o 21 y cant yn 2014-15, i 24 y cant yn 2021-22. Mae’n debygol y bydd tlodi plant yn y DU yn cynyddu mwy fyth, sef o 7 y cant dros yr un cyfnod.

Mae nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg wedi gostwng ers 2011, er bod data mwy diweddar yn awgrymu y bu cynnydd yn y rhai sy'n siarad Cymraeg ond nid yn rhugl. Mae’n fwy tebygol y bydd siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol wedi dysgu’r iaith yn yr ysgol yn hytrach nag yn y cartref.

Tueddiadau'r dyfodol ar gyfer Cymru - y ffactorau dylanwadol

Mae rhagweld o unrhyw fath yn ddarostyngedig i rywfaint o ansicrwydd, ac mae’r un peth yn wir am ragweld tueddiadau cenedlaethol. Mae hanner olaf yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffactorau gwleidyddol, y ffactorau cymdeithasol, y ffactorau technolegol, cyfreithiol a’r ffactorau amgylcheddol a allai fod yn ddylanwadol iawn yn nyfodol Cymru.

Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd ymhlith y ffactorau mwyaf ansicr yn hyn o beth, gan bod goblygiadau pellgyrhaeddol yn perthyn iddo, o dwf economaidd i fudo. Cyplysir hyn â thueddiad byd-eang tuag at ddad-globaleiddio gwleidyddol a allai arwain at leihau patrymau masnach byd-eang a chynyddu diffyndollaeth. Roedd yr adroddiad yn nodi bod posibilrwydd y gallai hyn effeithio'n sylweddol ar ddiwydiannau yng Nghymru.

Rhywbeth arall sy’n ffynhonnell ansicrwydd sylweddol yw effaith technoleg, neu fethiannau o ran technoleg, ar bob agwedd ar fywyd yng Nghymru, o ofal iechyd i addasiadau amgylcheddol. Gallai rhai gael effeithiau pellgyrhaeddol, er enghraifft, ymwrthedd i feddyginiaethau gwrthfiotig a pheirianneg hinsawdd artiffisial a allai effeithio ar batrymau tywydd byd-eang.

Disgwylir y bydd rhagor o effeithiau allyriadau CO2 yn niweidio rhwydweithiau economaidd byd-eang a rhanbarthol, a fydd yn debygol o effeithio ar adnoddau bwyd a dŵr a gwrthdaro byd-eang a allai fod yn gysylltiedig â hwy. Efallai y bydd canlyniadau eraill na ellir eu rhagweld hefyd, fel tymheredd uwch yn achosi achosion o glefydau newydd.

Mae'r adroddiad yn cloi gyda chyfres o gwestiynau sy'n ceisio ysgogi trafodaeth ymysg swyddogion cyhoeddus, fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau. Mae enghreifftiau o gwestiynau’n cynnwys ymchwilio i opsiynau ar gyfer cyfleoedd twf-gwyrdd a sut y gallai poblogaeth sy'n heneiddio newid gofynion o ran tai cymdeithasol yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth gefndir ac adnoddau ychwanegol gweler Atodiad A i'r adroddiad (PDF393kb) sy'n crynhoi’r saith nod llesiant fel rhan o

Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ogystal â lincs i’r ffynonellau data a ddefnyddiwyd. Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Keri McNamara gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i'r papur hwn gael ei gwblhau.


Erthygl gan Keri McNamara, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Darogan dyfodol Cymru: Cyhoeddi adroddiad gan Lywodraeth Cymru (PDF, 252KB)