Blog gwadd gan Cymwysterau Cymru: Newidiadau i gymwysterau TGAU

Cyhoeddwyd 04/08/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn y blog gwadd hwn, mae Jo Richards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio Cymwysterau Cymru, yn egluro'r newidiadau a wnaed i arholiadau TGAU eleni, a'r goblygiadau posibl o ran y canlyniadau a gaiff eu cyhoeddi ym mis Awst.

Logo Cymwysterau CymruMae'r arholiadau wedi dod i ben ac mae myfyrwyr ledled Cymru wrthi'n synfyfyrio ar y gwyliau haf hir sydd o'u blaenau. Mae nifer ohonynt yn meddwl am y cam nesaf yn eu bywydau, boed hynny'n gyfnod pellach o astudio neu ymgais i ymuno â'r byd gwaith.

Mae byrddau arholi a'u harholwyr, fodd bynnag, yn parhau i weithio'n galed – yn marcio ac yn pennu ffiniau graddau mewn pryd ar gyfer y dyddiau ym mis Awst pan gaiff y canlyniadau eu cyhoeddi (Awst 17 a 24). Felly, beth y dylem ei ddisgwyl yng Nghymru?

Newidiadau ym meysydd Saesneg, Cymraeg a Mathemateg

Wel, cafwyd newidiadau sylweddol i'r arholiadau TGAU ym meysydd Saesneg, Cymraeg a Mathemateg. Cafodd y cymwysterau diwygiedig hyn eu cyflwyno ym mis Medi 2015, a'r cyfle cyntaf i ddisgyblion sefyll arholiad ar ôl cwblhau'r cwrs dwy flynedd oedd yn ystod yr haf hwn – er bod bron 30,000 o ddisgyblion wedi manteisio ar y cyfle i sefyll un o'r ddau arholiad mathemateg newydd (neu'r ddau ohonynt) yn gynnar ym mis Tachwedd.

O ran Mathemateg, un o'r newidiadau mwyaf amlwg yw bod y pwnc bellach wedi'i rannu'n ddau arholiad newydd - TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg Rhifedd.

Ar wahân i'r gwahaniaeth amlwg hwnnw, mae gan fyfyrwyr gyfle bellach i ddewis o blith tair haen gofrestru - sylfaen, canolradd ac uwch.

Mae set wahanol o raddau ynghlwm wrth bob haen. Mae graddau D i G ar gael i ddisgyblion sy'n cofrestru ar gyfer yr haen sylfaenol; mae'r haen ganolradd yn cynnig graddau B i E; ac mae'r haen uwch yn cynnig graddau A* i C i fyfyrwyr.

Gan fod yr haenau hyn yn gorgyffwrdd – er enghraifft, mae graddau B a C ar gael i fyfyrwyr yn yr haen ganolradd a'r haen uwch – roedd y papurau arholiad yn cynnwys rhai cwestiynau cyffredin. Bydd CBAC yn defnyddio'r cwestiynau hyn i sicrhau bod y lefel o anhawster sydd ynghlwm wrth gyflawni gradd C, er enghraifft, yr un peth waeth pa haen sy'n berthnasol.

Cafwyd newid mawr arall eleni ym maes TGAU Saesneg Iaith, sy'n wahanol iawn i'r hen drefn. Yn flaenorol, roedd gwaith cwrs ysgrifenedig yn cyfrif am 20 y cant o'r radd derfynol. Mae'r drefn honno bellach wedi dod i ben, ac mae 80 y cant o'r cymhwyster yn awr yn seiliedig ar ddau bapur arholiad sy'n canolbwyntio ar ddarllen ac ysgrifennu. Mae'r asesiad siarad a gwrando yn parhau i fod yn rhan o'r cymhwyster ac yn cyfrannu'r 20 y cant sy'n weddill o'r radd derfynol.

Yn ogystal, cafwyd newidiadau tebyg i gymhwyster TGAU Cymraeg Iaith. Mae'r cymhwyster hwn bellach yn cynnwys dau asesiad siarad a gwrando: tasg grŵp a thasg unigol sy'n cyfrif am 30 y cant o'r radd gyffredinol. Mae'r 70 y cant sy'n weddill yn seiliedig ar ddau bapur arholiad sy'n canolbwyntio ar ddarllen ac ysgrifennu.

Un gwahaniaeth amlwg ar gyfer TGAU Saesneg Iaith a TGAU Cymraeg Iaith yw'r ffaith nad yw'r asesiadau bellach yn haenog. Yn flaenorol, roedd yr ymgeisydd yn sefyll papur haen sylfaenol neu bapur haen uwch. Gyda'r cymwysterau newydd, fodd bynnag, mae pob ymgeisydd yn sefyll yr un papur arholiad waeth beth yw'r radd y maent yn gobeithio ei hennill.

Mae'r cymwysterau newydd hefyd yn llinol, lle'r oedd yr hen gymwysterau'n unedol. Golyga hyn fod yn rhaid i fyfyrwyr bellach sefyll eu holl arholiadau ar ddiwedd y cwrs. Yn flaenorol, roedd ganddynt yr hawl i gymryd unedau a'u hailsefyll drwy gydol y cwrs.

Mae TGAU Saesneg Llenyddiaeth a TGAU Cymraeg Llenyddiaeth yn debyg i'r hen gymwysterau. Maent yn parhau i fod yn unedol, sy'n golygu y gall myfyrwyr gymryd unedau a'u hailsefyll yn ystod y cwrs.

Carfannau o fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau

Ar wahân i'r holl newidiadau i'r drefn gymwysterau, mae natur y garfan sy'n sefyll yr arholiadau hefyd yn dra gwahanol i'r carfannau a gafwyd mewn blynyddoedd blaenorol, yn enwedig mewn perthynas â chymhwyster TGAU Saesneg Iaith.

Dengys data cofrestru fod nifer sylweddol o fyfyrwyr sydd wedi cymryd TGAU Saesneg Iaith yn dal i fod ym Mlwyddyn 10. Roedd tua 21,000 o ddisgyblion Blwyddyn 10 yng Nghymru wedi sefyll yr arholiad ym mis Mehefin--ffigur sy'n cynrychioli tua 65 y cant o'r holl fyfyrwyr sydd ym Mlwyddyn 10 yng Nghymru.

O ganlyniad i'r patrymau cofrestru gwahanol hyn, disgwylir i ganlyniadau cyffredinol haf eleni ar gyfer TGAU Saesneg Iaith fod yn is na'r canlyniadau a gafwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Felly, er mwyn helpu'r broses o egluro sut y mae canlyniadau eleni yn cymharu â chanlyniadau blynyddoedd blaenorol, bydd trosolwg Cymwysterau Cymru, a fydd ar gael unwaith y bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi, yn canolbwyntio ar ddisgyblion 16 oed ym Mlwyddyn 11. Er hynny, gyda'r holl newidiadau hyn, bydd y dasg o wneud cymariaethau ystyrlon o flwyddyn i flwyddyn ym mis Awst yn parhau i fod yn un anodd.

Mae'r sefyllfa o ran TGAU Cymraeg Iaith yn debyg. Er bod llai na phum disgybl Blwyddyn 10 wedi sefyll yr arholiad yn 2016, gwnaeth 1,030 o ddisgyblion ei sefyll ym mis Mehefin, sydd i gyfrif am y cynnydd cyffredinol o 21 y cant a gafwyd yn nifer y myfyrwyr cofrestredig. Nid yw'r sefyllfa hon yn nodweddiadol o'r drefn a welwyd mewn perthynas â'r pwnc hwn mewn blynyddoedd blaenorol.

O ran TGAU Saesneg Llenyddiaeth, roedd llai na 50 y cant o ddisgyblion ym Mlwyddyn 11 wedi sefyll yr arholiad eleni, er bod rhai wedi sefyll yr arholiad fel disgyblion Blwyddyn 10 yn 2016. Bydd tua 70 y cant o'r holl ddisgyblion ym Mlwyddyn 11 yng Nghymru wedi cael eu cofrestru ar gyfer yr arholiad naill ai eleni neu'n gynnar y llynedd - ond mae'r ffigur hwn yn is na'r 77 y cant a welwyd yn 2016.

Cafwyd gostyngiad o 11 y cant yn nifer y disgyblion a oedd yn sefyll arholiad TGAU Cymraeg Llenyddiaeth, yn rhannol oherwydd y gostyngiad a welwyd yn nifer y disgyblion Blwyddyn 10 a wnaeth gofrestru eleni – o 130 yn 2016 i lai na phump yr haf hwn.

Safon Uwch a Safon UG

Yn ogystal â'r newidiadau i gymwysterau TGAU sydd wedi'u crybwyll yma, mae cymwysterau Safon UG diwygiedig mewn naw pwnc wedi'u cymryd yn ystod yr haf hwn– Drama, Ffrangeg, Daearyddiaeth, Almaeneg, Cerddoriaeth, Addysg Gorfforol, Astudiaethau Crefyddol, Sbaeneg a Chymraeg Ail Iaith. Ar ben hynny, bydd 14 o gymwysterau Safon Uwch diwygiedig yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf eleni.

Rhagor o wybodaeth

Bydd y canlyniadau Safon Uwch yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 17 Awst, a bydd y canlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 24 Awst.

Gellir cael rhagor o fanylion am y newidiadau i gymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch, yn ogystal â gwybodaeth am y Fagloriaeth Gymraeg a materion fel canlyniadau cymaradwy a sut y cafodd ffiniau gradd eu pennu ar wefan Cymwysterau Cymru.


Delwedd gan Cymwysterau Cymru

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Blog gwadd gan Cymwysterau Cymru: Newidiadau i gymwysterau TGAU (PDF, 156KB)