Diweddariad ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cyhoeddwyd 09/08/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r erthygl hon yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru). Cyhoeddwyd blog gennym ddiwethaf cyn y ddadl yn y cyfarfod Llawn ar Gyfnod 1 y Bil (egwyddorion cyffredinol) ym mis Mehefin 2017.

Ymateb Llywodraeth Cymru i graffu Cyfnod 1

Yn ystod y ddadl Cyfnod 1 ar 6 Mehefin, cydnabu Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, bwysigrwydd y broses graffu ac amlinellodd ei safbwynt cychwynnol ar nifer o faterion a oedd wedi dod i'r amlwg. Roedd y rhain yn cynnwys y berthynas rhwng anghenion gofal iechyd ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), hawliau plant, cyfranogiad y GIG, a rôl Cydlynwyr ADY mewn ysgolion a swyddogion arweiniol dynodedig mewn byrddau iechyd.

Yna ymatebodd Llywodraeth Cymru i dri adroddiad gan Bwyllgorau'r Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 18 Gorffennaf 2017.

Derbyniodd y Gweinidog 32 o'r 47 o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Lywodraeth Cymru, derbyniodd bedwar arall mewn egwyddor, gwrthododd saith ac mae'n dal i ystyried pedwar arall. Mae'r pedwar sydd yn dal i fod dan ystyriaeth yn cynnwys ei gwneud yn fwy amlwg o fewn diffiniad y Bil o ADY bod cyflyrau meddygol yn cael eu hystyried yn ADY os ydynt yn bodloni'r meini prawf o fewn y diffiniad hwnnw. Dywedodd y Gweinidog ei fod yn 'ystyried y manteision a'r risgiau o newid y diffiniad o ADY yn adran 2 y Bil i ddangos ei gwmpas mewn perthynas ag amodau meddygol'. Mae argymhellion eraill sydd yn dal i fod dan ystyriaeth yn cynnwys ymestyn cylch gwaith y Tribiwnlys i gynnwys pŵer i gyfarwyddo cyrff iechyd.

Mae'r Gweinidog wedi gwrthod argymhelliad y Pwyllgor bod y Bil yn cynnwys dyletswydd benodol ar gyrff perthnasol i dalu sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod y dyletswyddau presennol ar Weinidogion Cymru yn ddigonol a bod y Bil yn creu pensaernïaeth lle y mae hawliau plant yn cael eu hystyried yn gynhenid. Mae llythyr gan y Prif Weinidog at y Comisiynydd Plant (PDF 197KB) ym mis Mai 2017 yn nodi'r safbwynt hwn.

Mae'r Gweinidog wedi derbyn pedwar o naw argymhelliad y Pwyllgor Cyllid, gan gynnwys cyhoeddi Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig yn diweddaru amcangyfrifon costau ac arbedion Llywodraeth Cymru (mwy am hyn isod). Mae Alun Davies wedi derbyn pedwar argymhelliad pellach mewn egwyddor ac wedi gwrthod argymhelliad ynglŷn â darparu amcangyfrif ar wahân o gostau gweithredu'r is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Bil.

Mae'r Gweinidog wedi derbyn 7 o 12 argymhelliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gan gynnwys cymhwyso gweithdrefn gadarnhaol yn hytrach na gweithdrefn negyddol y Cynulliad i wneud y Cod ADY. Mae wedi derbyn un argymhelliad mewn egwyddor a gwrthod pedwar.

Diwygiadau i gostau amcangyfrifedig y Bil

Ar 6 Mehefin 2017, pleidleisiodd Aelodau'r Cynulliad i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, a symudodd ymlaen wedi hynny i Gyfnod 2 (y cyfnod o welliannau gan Bwyllgorau). Fodd bynnag, penderfynodd y Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, i beidio â chynnig y penderfyniad ariannol, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cynulliad i Lywodraeth Cymru fynd i'r gwariant angenrheidiol i weithredu'r ddeddfwriaeth. Mae hyn yn golygu, er bod Cyfnod 2 wedi dechrau, a gall gwelliannau gael eu cyflwyno, ni all y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gwrdd i 'waredu'r' (trafod a phleidleisio) gwelliannau hyd nes y bydd penderfyniad ariannol yn cael ei basio.

Nododd Alun Davies ei resymau dros beidio â chynnig y penderfyniad ariannol mewn llythyr at Aelodau'r Cynulliad ar 6 Mehefin 2017 (PDF 238KB). Roedd y Pwyllgor Cyllid a PPIA ill dau yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ailystyried ei hamcangyfrifon ariannol, gan fod tystiolaeth a gymerwyd yn ystod Cyfnod 1 yn awgrymu ei bod wedi goramcangyfrif y graddau y byddai arbedion yn cael eu gwneud o gostau datrys anghydfod is. Roedd y Pwyllgorau hefyd yn tynnu sylw at ddiffyg tryloywder o ran sut mae costau gweithredu'r Bil ei hun yn gysylltiedig â'r £20 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ym mis Chwefror 2017 i gefnogi'r Rhaglen Trawsnewid ADY ehangach.

Ar 25 Mai 2017, diwrnod ar ôl i’r ddau bwyllgor gyhoeddi eu hadroddiadau Cyfnod 1, dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PDF 241KB) am newidiadau i'r costau a'r arbedion amcangyfrifedig.

Roedd y newidiadau yn rhai sylweddol. Roedd y RIA gwreiddiol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r Bil ym mis Rhagfyr 2016 yn amlinellu cyfanswm arbedion o £4.8 miliwn dros y cyfnod gweithredu (pedair blynedd, 2017-18 i 2020-21). Mae Llywodraeth Cymru bellach yn amcangyfrif y bydd y Bil yn costio cyfanswm o £8.3 miliwn yn ystod y pedair blynedd, sy'n newid o £13.1 miliwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y dylai gyhoeddi Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig (RIA) a diweddaru costau arfaethedig y Bil cyn ceisio cymeradwyaeth y Cynulliad ar gyfer y gwariant angenrheidiol drwy benderfyniad ariannol yn y Cyfarfod Llawn, er budd craffu priodol.

Y camau nesaf yn hynt y Bil drwy'r Cynulliad

Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi RIA diwygiedig ym mis Medi a bydd yn mynychu'r Pwyllgor Cyllid i drafod yr amcangyfrifon cost wedi'u diweddaru gydag Aelodau. Yna mae Alun Davies yn bwriadu cyflwyno a chynnig penderfyniad ariannol yn y Cyfarfod Llawn, ac ar ôl hynny gall y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gwrdd i ystyried gwelliannau i'r Bil yng Nghyfnod 2.

Mae Llywodraeth Cymru hyd yn hyn wedi cyflwyno dwy gyfres o ddiwygiadau, ar 30 Mehefin (PDF 77.8KB) a 21 Gorffennaf 2017 (PDF 72.3KB). Bydd y Pwyllgor PPIA yn gwaredu gwelliannau ar 4 Hydref 2017 gyda dyddiad cau ar gyfer eu cyflwyno o 27 Medi 2017.

Trosglwyddo i'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd

Er bod craffu ac ystyried y system ADY newydd arfaethedig yn dal i fynd rhagddo, mae'r sylw, a hynny'n ddealladwy, yn canolbwyntio ar pryd a sut y bydd y trefniadau newydd yn cael eu cyflwyno (yn amodol ar y Bil yn cael ei basio).

Rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2017, bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar opsiynau ar gyfer trawsnewid i'r system newydd. Roedd y ddogfen ymgynghori yn tybio bod yr holl newydd ddyfodiaid i'r system ADY, yn dilyn cychwyn darpariaethau'r Ddeddf, yn cael Cynllun Datblygu Unigol (CDU) o dan y trefniadau newydd. Y cwestiwn, felly, yw sut i bontio dysgwyr sydd eisoes â datganiadau neu'n derbyn cymorth o dan Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy i'r system newydd. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys opsiynau ar gyfer naill ai dull cynhwysfawr lle byddai pawb yn symud i'r system newydd ar yr un dyddiad, neu fodelau amrywiol ar gyfer cyflwyno'r system newydd fesul cam.

Dywedodd swyddogion Llywodraeth Cymru wrth gynhadledd Fforwm Polisi Cymru ar 18 Gorffennaf 2017 eu bod yn disgwyl cyhoeddi crynodeb o'r ymgynghoriad ym mis Medi ochr yn ochr â datganiad Gweinidogol yn nodi'r ffordd arfaethedig ymlaen. Dywedasant fod mwyafrif llethol yr ymatebwyr yn ffafrio dull gweithredu fesul cam yn hytrach na dull cynhwysfawr a rhagnodiad clir dros weithredu. Y ddau opsiwn a oedd fwyaf poblogaidd yn ystod yr ymgynghoriad oedd cyflwyno CDUau ar gyfer dysgwyr sydd eisoes ar gynlluniau statudol yn gyntaf, neu i wneud hynny yn ôl pwyntiau trosglwyddo allweddol (cyfnodau allweddol ac ati).

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru y bydd y system ADY newydd yn debygol o gael ei chyflwyno am y tro cyntaf ym mis Medi 2019:

In terms of timescales for implementation, we’re looking to Royal Assent in probably January now. So following that, the Bill requires us to consult formally on the Code and on the regulations that underpin the Bill. So there’ll be a process of consultation and then us making any amendments following feedback to that consultation, then both of those sets of things have to be laid before the Assembly for them to be formally approved. We think that will take the vast majority of 2018 and so then we’d be looking to implement probably in September 2019. We want to start from the beginning of the next academic year, so that would give us the early part of 2019 to really rollout all of that training and awareness raising on the final set of the legislative package of Act, code and regulations.

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gwaith celf wedi'i gynhyrchu gan ddisgyblion yn Ysgol y Gogarth, Llandudno.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Diweddariad ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol (PDF, 235KB)