Y frech goch – y diweddaraf

Cyhoeddwyd 16/08/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Rhwng mis Tachwedd 2012 a Gorffennaf 2013 cafwyd y nifer mwyaf o achosion o'r frech goch yng Nghymru ers cyflwyno'r brechlyn MMR. Mae'r frech goch wedi bod yn y newyddion eto yn yr wythnosau diwethaf, yn rhannol o ganlyniad i achosion o'r haint yn ardaloedd Casnewydd a Thorfaen. Mae hefyd wedi bod nifer o achosion ledled Ewrop eleni. Yn eu cynllun strategol byd-eang ar y frech goch a rwbela 2012-2020, gosododd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) nod o gael gwared ar y frech goch erbyn diwedd 2020. Er mwyn cyflawni hyn, bydd gofyn cynyddu'r nifer sy'n derbyn brechlynnau rhag y frech goch ledled y byd, gan gynnwys yng Nghymru a'r DU.

Mae'r frech goch yn glefyd firol heintus iawn, sy'n gallu achosi symptomau annymunol gan olygu bod yn rhaid i chi fynd i'r ysbyty. Mewn rhai achosion prin, gall achosi marwolaeth. Mae'r firws sy'n achosi'r frech goch yn cael ei ledaenu trwy besychu, tisian a chyswllt personol agos.

Yn y DU a llawer o wledydd eraill, mae brechlyn rhag y frech goch yn cael ei gyfuno fel arfer fel â’r brechlyn rhag clwy'r pennau a rwbela (MMR). Er mwyn amddiffyn yn ddigonol rhag y frech goch, argymhellir dau ddos o'r brechlyn MMR. Mae'r brechlynnau hyn yn cael eu trefnu'n rheolaidd ar gyfer plant 1 mlwydd oed a phlant 3 blwydd a 4 mis oed.

Mae gan Sefydliad Iechyd y Byd a Llywodraethau'r DU a Chymru darged i 95% o blant dderbyn dau ddos o frechlyn rhag y frech goch (megis MMR). Mae'r lefel hon yn cael ei hystyried i fod yn ddigon i rwystro lledaeniad firws y frech goch pan gaiff ei gyflwyno i mewn i gymuned, ac i amddiffyn y rhai na allant gael eu brechu drwy'r hyn a elwir yn 'imiwnedd yr haid'.

Y niferoedd sy'n derbyn y brechlyn

Mae'r ffigurau chwarterol diweddaraf (Ionawr-Mawrth 2017) Yn dangos bod Cymru ar y blaen i Loegr a chyfartaledd y DU o ran y nifer sy'n derbyn brechlyn MMR. Fodd bynnag, er bod y niferoedd sy'n derbyn un dos o'r brechlyn MMR erbyn iddynt fod yn 2 flwydd oed dros 95%, mae'r niferoedd a gaiff ddau ddos ohono erbyn iddynt fod yn 5 mlwydd oed yn dal yn is na'r targed. Yn y 1990au hwyr a'r 2000au cynnar, niweidiwyd hyder y cyhoedd yn y brechlyn MMR o ganlyniad i bapur ymchwil a gyhoeddwyd ac y rhoddwyd sylw iddo yn y cyfryngau, a’r honiadau ynddo ei fod yn dangos cysylltiad rhwng y brechlyn MMR, awtistiaeth a chanser y coluddyn. Mae'r papur hwn bellach wedi ei danseilio a'i dynnu'n ôl yn ffurfiol, gydag ymchwil pellach yn profi nad oes unrhyw dystiolaeth bod cysylltiad rhwng y brechlyn MMR ac awtistiaeth. Mae hyder y cyhoedd wedi cynyddu'n dilyn hynny, ond mae pryderon yn parhau am y niferoedd rhwng 10-18 mlwydd oed sydd heb eu brechu, a allai fod wedi colli eu brechlynnau arferol yn y blynyddoedd yn dilyn y pryder am MMR. Mae'r data chwarterol diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos bod y canrannau o bobl yn eu harddegau a oedd yn troi'n 16 mlwydd oed rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2017 a oedd wedi derbyn y dos 1af a'r 2il ddos o'r brechlyn MMR yn 92.7% a 87.2% - canran sylweddol is nag ymhlith y plant 5 mlwydd oed a ddangosir uchod.

Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae'r niferoedd sy'n derbyn un dos o MMR erbyn iddynt fod yn 2 flwydd oed wedi aros yn weddol gyson, sef tua 95%, yn dilyn y gostyngiad yn y 1990au hwyr a'r 2000au cynnar ac mae tuedd iddo godi o ganol y 2000au i'r 2000au hwyr.

Mae'r niferoedd sy'n derbyn dau ddos erbyn iddynt fod yn 5 mlwydd oed wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn o 2006 ymlaen, ond mae wedi bod yn gostwng yn raddol ers cyrraedd uchafbwynt o 93.1% yn 2014/15. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mynegi pryder o ran y duedd hon o ostwng, gan nodi ei fod yn cynyddu'r risg o achosion o'r frech goch.

Mae lefelau'r niferoedd sy'n cael y brechlyn yn amrywio rhwng Awdurdodau Lleol: mae'r lefelau ar eu hisaf yng nghanolbarth a gorllewin Cymru (e.e. Sir Benfro) ac yn y de-ddwyrain (e.e. Casnewydd).

Archwiliwyd y berthynas rhwng amddifadedd a'r niferoedd sy'n cael y brechlyn mewn adroddiad blynyddol diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Drwy gymharu canran y plant a oedd wedi cael eu brechlynnau arferol erbyn iddynt fod yn 4 mlwydd oed (y brechlyn 4 mewn 1 cyn-ysgol, y blechlyn Hib/MenC, a'r ail ddos MMR) gyda'r lefel gymharol o amddifadedd y mae'r plant yn byw ynddo, canfuwyd bod bwlch anghydraddoldeb o 6.0% rhwng plant pedair mlwydd oed sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig (niferoedd o 81.0% a 87.0%, yn y drefn honno). Mae'r ffigur hwn o 6% yn llai na’r bylchau o 2015/16 a 2014/15, ond yn dal yn fwy na'r bwlch o 5% a nodwyd yn 2013/14. Nid oedd y lleihad hyn yn y bwlch yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn deillio o gynnydd yn y nifer a oedd yn derbyn y brechlyn yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Yn hytrach, roedd yn deillio o ostyngiad mwy yn y niferoedd a oedd yn derbyn y brechlyn yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Achosion diweddar

Er bod cyflwyno'r brechlyn MMR wedi gostwng nifer yr o achosion o'r Frech goch yn sylweddol, yn y DU a thramor, bu nifer o achosion yng Nghymru, y DU ac Ewrop ar sawl adeg yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn ystod 2012/2013 yng Nghymru, nodwyd 1,202 o achosion yn Ne-orllewin a Chanolbarth Cymru, gan arwain at orfod anfon 88 o bobl i'r ysbyty ac at 1 farwolaeth (er mwyn cymharu, yn ystod 2011 i gyd, roedd llai na 20 o achosion o'r frech goch wedi'u cadarnhau yng Nghymru). Rhoddwyd dros 77,000 o frechlynnau yn ystod cyfnod hwn, ac roedd dros 21,000 ohonynt i bobl a oedd rhwng 10 a 18 mlwydd oed. Cyhoeddwyd adroddiadau ar yr achosion gan yr asiantaethau a ymatebodd iddynt (Byrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Powys ac Hywel Dda a Iechyd Cyhoeddus Cymru) yn ogystal â gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y pedwerydd Cynulliad, a gynhaliodd ymchwiliad byr i'r achosion o'r frech goch. Roedd yr adroddiadau hyn yn dod i'r casgliad bod yr ymateb amlasiantaethol i'r achosion wedi bod yn effeithiol, ond hefyd yn pwysleisio'r angen i osgoi hunanfodlonrwydd yn y cyfnodau tawel, gan nodi pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o'r angen am ddau ddos o'r brechlyn MMR er mwyn atal rhagor o enghreifftiau o nifer fawr o achosion. Nododd y Pwyllgor hefyd bwysigrwydd annog staff rheng flaen i gael brechlynnau, a hynny er mwyn sicrhau diogelwch y staff eu hunain a diogelwch eu cleifion.

Ym mis Mawrth eleni, nodwyd achosion ledled Ewrop, yn enwedig yn yr Eidal a Rwmania. Erbyn 11 Gorffennaf, 2017 cafwyd 35 o farwolaethau oherwydd y frech goch yn Ewrop yn y cyfnod ers Mehefin 2016. Roedd y rhan fwyaf o'r rhain (31) yn Rwmania, ond mae marwolaethau hefyd wedi bod yn yr Eidal, yr Almaen, a Phortiwgal.

Yng Nghymru, mae nifer o achosion o'r frech goch yn ardaloedd Casnewydd a Thorfaen wedi'u cadarnhau: ym mis Mehefin cafodd mwy na 600 o blant eu brechu ar ôl i 5 o bobl gyda chysylltiadau ag Ysgol Uwchradd Lliswerry gael diagnosis o'r frech goch; ym mis Gorffennaf cafodd 5 achos arall eu cadarnhau yn ardaloedd Casnewydd a Thorfaen. Adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod rhaglen dreigl o sesiynau brechu wedi cael ei chwblhau yn yr ysgolion yng Nghasnewydd fel ymateb, gyda chyfanswm o 1,089 o blant yn cael eu himiwneiddio.

Mewn ymateb i'r achosion hyn, mae swyddogion iechyd y cyhoedd a'r llywodraeth wedi annog rhieni dro ar ôl tro i sicrhau bod eu plant wedi cael dau ddos o MMR, yn enwedig os ydynt yn bwriadu teithio i fannau eraill yn Ewrop neu i ddigwyddiadau mawr fel gwyliau cerddoriaeth. Mae'r cyngor a roddir i'r cyhoedd hefyd yn pwysleisio nad yw hi byth yn rhy hwyr cael un neu ddau ddos o'r brechlyn MMR, a'i bod yn bwysig i ffonio ymlaen llaw os amheuir achos o'r frech goch cyn mynd at feddyg teulu neu adrannau damweiniau ac achosion brys.


Erthygl gan Peter Mulholland a Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Canrannau o blant sydd wedi derbyn 1 a 2 ddos o'r brechlyn MMR erbyn 2 a 5 mlwydd oed, mis Ionawr i fis Mawrth 2017. (Ffynhonnell: Vaccination coverage report, UK (rhaglen COVER): mis Ionawr i fis Mawrth 2017, Tablau 2a a 3a).

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Y frech goch – y diweddaraf (PDF, 253KB)