Canlyniadau Safon Uwch Cymru

Cyhoeddwyd 17/08/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Canlyniadau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru

Mae myfyrwyr Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau Safon Uwch heddiw. Bob blwyddyn mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys y saith prif ddarparwr cymwysterau yn y DU) yn cyhoeddi crynodebau o'r canlyniadau. Mae data'r Cyd-gyngor Cymwysterau yn dangos canlyniadau cyfunol y rhai a gofrestrodd gyda'r cyrff dyfarnu sy'n aelodau.

Newidiadau i'r cymwysterau Safon Uwch

Mae cymwysterau Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol wedi cael eu diwygio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Y rhain fydd y canlyniadau cyntaf ar gyfer Safon Uwch (mewn pedwar pwnc ar ddeg) ers dechrau cyflwyno'r diwygiadau. Mae cyrsiau Safon Uwch yng Nghymru yn rhannu'r un cynnwys â'r rhai yn Lloegr, pan fo'n briodol. Maent hefyd yn cadw asesiadau ymarferol neu rai ar wahân i arholiad pan fyddant yn asesu rhan bwysig o'r pwnc, gyda'r asesiadau hyn yn cyfrannu tuag at y radd derfynol. Mae'r Safon Uwch Gyfrannol yn cyfrannu 40 y cant at y Safon Uwch gyflawn, o'i gymharu â 50 y cant yn flaenorol.

Mae rhagor o wybodaeth i'w gweld ar wefan Cymwysterau Cymru, sydd hefyd wedi cyhoeddi crynodeb o ganlyniadau heddiw.

Yn Lloegr, caiff y cymwysterau diwygiedig eu hasesu'n bennaf trwy arholiad ar ddiwedd y cwrs. Defnyddir mathau eraill o asesu dim ond pan fo’u hangen i brofi sgiliau hanfodol. Hefyd, yn wahanol i Gymru, ni fydd canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol mwyach yn cyfrif tuag at y Safon Uwch.

Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar werth cymwysterau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a gwblheir yng Nghymru, a byddant yn parhau i gyfateb i'r rhai a gwblheir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Dywed y Cyd-gyngor Cymwysterau ei bod yn anoddach cymharu canlyniadau gwahanol flynyddoedd ar adegau pan fo'r system yn cael ei diwygio. Efallai na fydd yr union resymau dros newidiadau mewn ymddygiad canolfannau ac ymgeiswyr, o ran cofrestru, yn amlwg ar unwaith. Hyd yn oed mewn achosion lle mae'r niferoedd sy'n cofrestru yn edrych yn debyg, nid yw o reidrwydd yn wir bod carfan debyg yn astudio'r un pwnc.

Canlyniadau

Mae'r data yn y tablau isod yn cymharu'r canlyniadau ar gyfer 2016 a 2017. Gwneir y gymhariaeth hon yn seiliedig ar y data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ar y diwrnod canlyniadau yn 2016. Mae'r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Caiff y data eu cadarnhau cyn i'r data terfynol gael eu cyhoeddi ar lefel genedlaethol (Cymru), ac ar lefel awdurdodau lleol ac ysgolion.

Cymharu 2016 a 2017

  • Yng Nghymru, roedd 2,243 yn llai o gofrestriadau nag yn 2016;
  • Yng Nghymru, bu cynnydd yng nghanran y rhai a gyflawnodd raddau A*. Bu cynnydd o 1.3 pwynt canran ymhlith merched, cynnydd o 2.2 pwynt canran ymhlith bechgyn, a chynnydd o 1.7 pwynt canran ymhlith yr holl ddysgwyr;
  • Bu cynnydd yng nghanran y rhai a gyflawnodd raddau A*-A: 3.1 y cant ar gyfer bechgyn, 1.6 y cant ar gyfer merched a 2.3 y cant ar gyfer pob dysgwr;
  • Gwelwyd cynnydd o 2.1 y cant yng nghanran y bechgyn a gyflawnodd raddau A*-C, a chynnydd o 1.2 y cant yng nghanran y merched a gyflawnodd raddau A*-C. Gwelwyd cynnydd o 1.5 pwynt canran ymhlith yr holl ddysgwyr a gyflawnodd raddau A*-C;
  • Mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol (A*-E) ymhlith merched wedi cynyddu 0.3 pwynt canran. Mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol wedi cynyddu 0.5 y cant ar gyfer bechgyn a 0.4 y cant ar gyfer pob dysgwr.

Bechgyn a merched

  • Yng Nghymru, mae bechgyn wedi gwneud yn well na merched yn y graddau uwch (A* ac A*-A), ond yn y graddau A*-C ac A*-E, mae merched wedi gwneud yn well na bechgyn. Mae'r un peth yn wir yn Lloegr.

Cymru a Lloegr

Mae canran y merched yng Nghymru a gyflawnodd radd A* ychydig yn uwch nag yn Lloegr (0.1 pwynt canran), ac roedd canran y bechgyn a'r holl ddysgwyr a gyflawnodd radd A* yr un fath yng Nghymru a Lloegr. Ar gyfer pob gradd arall, roedd y canrannau'n uwch yn Lloegr nag yng Nghymru. Mae tablau 1 a 2 yn dangos y ganran a gofrestrodd ym mhob pwnc fesul gradd ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2016 a 2017.

Bagloriaeth Cymru

Cafodd canlyniadau Bagloriaeth Cymru eu cyhoeddi heddiw hefyd. Mae Bagloriaeth Cymru yn cynnwys Tystysgrif Her Sgiliau newydd a chymwysterau ategol. Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau yn asesu sgiliau ar gyfer astudiaeth bellach a chyflogaeth, ac mae'n cynnwys pedair elfen. Mae angen i ddysgwyr gwblhau pedwar asesiad yn rhan o'r Dystysgrif Her Sgiliau:

  • Prosiect unigol;
  • Her Menter a Chyflogadwyedd;
  • Her Dinasyddiaeth Fyd-eang;
  • Her y Gymuned.

Er mwyn llwyddo ym Magloriaeth Cymru, rhaid i fyfyrwyr gyflawni'r Dystysgrif Her Sgiliau a'r cymwysterau ategol. Gellir dyfarnu'r Dystysgrif Her Sgiliau i fyfyriwr fel cymhwyster, hyd yn oed os nad yw'n sicrhau'r cymwysterau ategol angenrheidiol i dderbyn Bagloriaeth Cymru. Eleni:

  • Llwyddodd 94.1 y cant o'r ymgeiswyr i gael y Dystysgrif Her Sgiliau.
  • Llwyddodd 77.5 y cant o'r ymgeiswyr i gael Bagloriaeth Cymru Uwch.

Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Canlyniadau Safon Uwch Cymru (PDF, 292KB)