Cyhoeddiad Newydd: Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 – Crynodeb o’r Ddeddf

Cyhoeddwyd 08/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Derbyniodd Bil yr Undebau Llafur (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 07 Medi 2017. Mae’r Ddeddf yn diwygio darpariaethau penodol o fewn y UK Trade Union Act 2016 sy’n berthnasol i “awdurdodau datganoledig Cymru”.

Y darpariaethau sy’n cael eu datgymhwyso yw:

  • Gofynion cyhoeddi o ran amser cyfleuster;
  • Cyfyngiadau ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau llafur o gyflogau gweithwyr yn y sector gyhoeddus; a
  • Gofyniad ynghylch trothwyon pleidlais gan undeb llafur cyn gweithredu diwydiannol.

Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 – Crynodeb o’r Ddeddf (PDF, 590KB)


Erthygl gan Osian Bowyer, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru