Cyhoeddiad Newydd: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Canllaw rhagarweiniol

Cyhoeddwyd 11/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 13 Gorffennaf 2017 cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Mae'r Bil yn nodi'r gweithdrefnau a'r prosesau ar gyfer trosglwyddo corff cyfredol cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn gyfraith y Deyrnas Unedig wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r papur hwn yn rhoi canllaw rhagarweiniol i ddarpariaethau allweddol y Bil, pam mae angen y Bil, y llinell amser ddisgwyliedig ar gyfer y Bil a sut bydd y Bil yn effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a phwerau Gweinidogion Cymru.

Cyhoeddiad Newydd: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Canllaw rhagarweiniol (PDF, 3,325KB)


Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru