Adolygiad Seneddol Adroddiad Interim o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 13/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn dilyn Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016, ymrwymodd y Prif Weinidog i sefydlu panel arbenigol a fyddai'n cynnal Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Sefydlwyd y panel o arbenigwyr, o dan arweiniad cyn Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey, ym mis Mawrth 2017, a gofynnwyd iddynt gyflwyno adroddiad terfynol yn ogystal ag argymhellion erbyn diwedd 2017. Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd yr Adolygiad Seneddol ei adroddiad interim, a fydd yn cael ei drafod gan Aelodau'r Cynulliad yn y cyfarfod llawn ddydd Mercher 20 Medi 2017.

Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

Mae gan yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru gefnogaeth trawsbleidiol. Mae wedi cael ei groesawu'n eang gan randdeiliaid, er bod llawer wedi bod yn amheus ynghylch yr hyn y gall yr Adolygiad Seneddol ei gyflawni. Wedi'r cyfan, mae'r adolygiad yn eang ac mae ganddo lai na blwyddyn i adrodd. Disgwylir i'r Adolygiad amlinellu gweledigaeth ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a chynnig yr hyn sy'n ymddangos yn amhosibl - ateb i'r galw cynyddol am iechyd a gofal cymdeithasol a disgwyliadau'r cyhoedd.

Nid oes fawr o amheuaeth bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu heriau enfawr dros y blynyddoedd nesaf. Er enghraifft, mae rhai Byrddau Iechyd yn dal i gael trafferth mantoli'r cyfrifon, nid oes unrhyw ateb syml i'r "argyfwng gweithlu" ac mae angen buddsoddi o'r newydd yn y seilwaith i gefnogi'r GIG mewn cyfnod o galedi ariannol parhaus. Mae'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn rhai amlwg.

Yr hyn nad oedd rhanddeiliaid ei eisiau oedd Adolygiad Seneddol a oedd yn ailddatgan y dystiolaeth gyfredol. Yr hyn maent ei eisiau yw gweledigaeth ar gyfer y dyfodol sy'n helpu i lunio polisi iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Adolygiad sy'n rhoi cyngor ar sut i gyflawni newid wrth adeiladu ar elfennau gorau'r system bresennol. Mae'r Adroddiad Interim yn ei nodi'n glir:

'... dywedodd y bobl a gyfwelwyd gennym yn blaen nad ydynt am gael adroddiad arall nad yw'n arwain at gamau prydlon a sylweddol'.

Mae'r rhanddeiliaid sydd wedi ymateb yn frwdfrydig i'r adroddiad interim yn cynnwys Macmillan Cymru, Coleg Brenhinol y Meddygon, a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu, i enwi ond rhai. Maen nhw'n dweud bod yr adroddiad interim yn cyflwyno'r ddadl dros newid, gan roi gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer dyfodol y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru - un sy'n canolbwyntio ar roi cleifion wrth wraidd y newidiadau hyn. (Er bod nodyn o rybudd ynghlwm wrth y brwdfrydedd hwnnw - fel y dywed Gregg Pycroft o Macmillan Cymru).

Yr Adroddiad Interim

Mae'r adroddiad interim yn disgrifio'r ddadl dros newid fel un 'gymhellol' ac yn galw am weledigaeth 'feiddgar ac unedig ar gyfer yr holl system iechyd a gofal cymdeithasol'. Mae'r adroddiad interim yn glir: er mwyn sicrhau gwell iechyd a llesiant i bobl Cymru, mae angen cyfeiriad cenedlaethol cryfach i gyflymu'r ffordd y mae'r system iechyd a gofal cymdeithasol yn addasu i anghenion newidiol y boblogaeth ac i heriau mawr.

Mae'r adroddiad interim yn rhoi ffocws cryf ar yr angen i gyflymu'r broses o newid, lledaenu arfer da, a hyrwyddo'r gwaith o ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae'n awyddus i weld atal fel rhan ganolog o'r weledigaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol wrth symud ymlaen. Yn wir, mae'r adroddiad interim yn nodi bod graddfa'r heriau sy'n wynebu'r system yn golygu 'na ellir eu datrys trwy newidiadau cynyddol i'r cynlluniau gofal cyfredol'.

Mae'r Adolygiad yn galw am nifer cyfyngedig o gynlluniau gofal newydd i roi cynnig arnynt yn y lle cyntaf, i'w gwerthuso a'u cynyddu yn gyflym ledled Cymru. Mae'n dweud y bydd angen i gynlluniau gofal newydd gael eu hategu gan weithredoedd mewn nifer o feysydd ac mae'n gwneud argymhellion pellach gan gynnwys yr angen am y canlynol:

  • I bobl Cymru, staff, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr gael mwy o ddylanwad ar gynlluniau gofal newydd gyda rolau a chyfrifoldebau a rennir ac sy'n fwy eglur
  • Sgiliau a llwybrau gyrfaol newydd ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar welliant parhaus
  • Defnydd gwell o dechnoleg a seilwaith i gefnogi ansawdd ac effeithlonrwydd
  • Trefniadau llywodraethu, cyllido ac atebolrwydd wedi'u halinio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r adroddiad interim yn nodi bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r agenda gofal iechyd darbodus yn cynnig set o egwyddorion pwerus - ond mae angen ymgorffori'r syniadau hyn ar draws y system er mwyn trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hefyd yn nodi bod system iechyd a gofal integredig yn ei gwneud yn ofynnol i'r ysgogwyr a'r cymhellion ar gyfer newid gael eu halinio ac i weithredu mewn synergedd ar draws yr holl system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod yna faterion o ran arweinyddiaeth a diwylliant y mae angen eu datrys er mwyn cyflawni 'cynnydd cyflym ac effeithiol'.

Yn ôl rhai, mae yna faterion nad oedd yr adroddiad interim yn eu cynnwys, neu nad oedd yn eu cynnwys mewn digon o fanylder. Er enghraifft, nid yw'r adroddiad interim yn dweud llawer ynghylch trefniadau gofal newydd o ran iechyd meddwl; heblaw "nad yw y cynllun ar gyfer gwella ar draws yr holl system iechyd meddwl yn glir". Mae eraill yn teimlo y gallai'r adroddiad interim fod wedi ystyried y set ehangach o 'benderfynyddion cymdeithasol' neu achosion sylfaenol afiechydon ymhellach - yn enwedig tlodi, wrth ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol.

Yn eu hymateb i'r adroddiad interim, mae Cydffederasiwn GIG Cymru yn dweud bod yr adroddiad yn codi pryderon ynghylch cyllido iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Ond mae'r panel Adolygu yn glir nad yw eu cylch gwaith yn cynnwys dadansoddiad o ddulliau amgen o ariannu'r system iechyd a gofal cymdeithasol. Dywedodd Vanessa Young, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru:

"Mae'r adroddiad yn nodi'r achos dros newid ac yn amlygu nifer o heriau a chyfleoedd ar gyfer diwygio dros y pum mlynedd nesaf. Ond, mae absenoldeb unrhyw ystyriaeth o'r cynllun tymor hir o ran ariannu iechyd a gofal cymdeithasol yn rhywbeth nad oes unrhyw un am ei drafod. Credwn fod angen i'r adroddiad terfynol fynd i'r afael â'r mater hwn yn uniongyrchol a rhoi cyfarwyddyd digonol. Heb gyllido maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ddigonol yn y dyfodol, ni fydd y newidiadau a amlinellir yn yr adroddiad interim yn ddigon i sicrhau system iechyd a gofal gynaliadwy".

Yr adroddiad terfynol

Yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad interim, mae'r Adolygiad bellach yn mynd ymlaen i droi'r uchelgais hon yn realiti ymarferol. Y cam nesaf ar gyfer panel yr Adolygiad yw ystyried yr opsiynau ar gyfer cynlluniau gofal newydd i Gymru. Bydd y rhain yn cynnwys gofal sylfaenol, gofal ysbyty, darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol, gweithio gyda fforwm o randdeiliaid yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth, y GIG, llywodraeth leol, gweithwyr proffesiynol, y sector annibynnol, y trydydd sector a'r byd academaidd.

Mae Dr Ruth Hussey yn esbonio y bydd y panel arbenigol yn awr yn edrych ar ddatblygu rhestr o argymhellion sy'n "mynnu cefnogaeth eang, yn gallu cael eu gweithredu, ac yn rhoi'r cyfle gorau i Gymru gyflwyno'r newidiadau sydd eu hangen i gyflawni system iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau o ansawdd, sy'n gynaliadwy ac y mae gan y boblogaeth yr hawl i'w disgwyl".

Bydd rhanddeiliaid yn gobeithio y bydd adroddiad terfynol yr Adolygiad yn cynnwys argymhellion clir y gellir eu gweithredu'n gymharol gyflym i sicrhau bod y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae'r adroddiad interim, a'r ymateb iddo, yn dangos bod yr achos dros newid - a chyflawni'r newid hwnnw'n gyflymach - hyd yn hyn wedi bod yn ddarbwyllol. Ond bydd diwygio ystyrlon yn dibynnu ar barhad y gefnogaeth drawsbleidiol dros newid.

Bydd yr Adolygiad Seneddol yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol ym mis Rhagfyr 2017.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Adolygiad Seneddol Adroddiad Interim o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (PDF, 194KB)