Beth mae Bil yr UE (Ymadael) yn ei olygu i ddatganoli? Canllaw gweledol.

Cyhoeddwyd 14/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 13 Gorffennaf 2017 cyflwynodd Llywodraeth y DU Fil yr UE (Ymadael) i Dŷ'r Cyffredin. Un o elfennau'r Bil sydd wedi achosi'r ddadl fwyaf ers ei gyhoeddi yw'r effaith y bydd gan y Bil ar y setliadau datganoledig. Mae gwahaniaethau wedi codi yn y safbwyntiau ynghylch i lle y dylai pwerau dros feysydd fel amaethyddiaeth a physgodfeydd 'ddychwelyd' ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae Prif Weinidogion Cymru a'r Alban wedi disgrifio’r Bil fel ‘ymgais hyf i fachu pŵer’ tra bod Llywodraeth y DU wedi amlinellu eu barn bod y Bil yn cynnal ‘the current decision making powers of the devolved institutions’.

Mae Gwasanaeth Ymchwil a Phrif Gynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad wedi dylunio cyfres o ffeithluniau sy'n ceisio nodi'r sefyllfa bresennol, yr hyn y mae'r Bil yn bwriadu ei wneud i newid y sefyllfa honno a'r gwahaniaethau rhwng y safbwyntiau a amlinellwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae ein canllaw rhagarweiniol i'r Bil yn darparu mwy o wybodaeth ar y mater hwn yn ogystal â darpariaethau allweddol eraill yn y Bil a sut y gallent effeithio ar Gymru. Cyfres o ffeithluniau sy'n nodi sut y gall Bil yr UE (Ymadael) effeithio ar ddatganoli. Disgrifir y ffeithluniau yn nhestun y blog Cyfres o ffeithluniau sy'n nodi sut y gall Bil yr UE (Ymadael) effeithio ar ddatganoli. Disgrifir y ffeithluniau yn nhestun y blog Cyfres o ffeithluniau sy'n nodi sut y gall Bil yr UE (Ymadael) effeithio ar ddatganoli. Disgrifir y ffeithluniau yn nhestun y blog Cyfres o ffeithluniau sy'n nodi sut y gall Bil yr UE (Ymadael) effeithio ar ddatganoli. Disgrifir y ffeithluniau yn nhestun y blog Cyfres o ffeithluniau sy'n nodi sut y gall Bil yr UE (Ymadael) effeithio ar ddatganoli. Disgrifir y ffeithluniau yn nhestun y blog Cyfres o ffeithluniau sy'n nodi sut y gall Bil yr UE (Ymadael) effeithio ar ddatganoli. Disgrifir y ffeithluniau yn nhestun y blog


Erthygl gan Nia Moss, David Millett Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Elisabeth Jones, Prif Gynghorydd Cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru