Ar y trywydd iawn? Y Cynulliad yn trafod adroddiad Pwyllgor ar fasnachfraint y rheilffyrdd a chyflwyno metro

Cyhoeddwyd 22/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar y trywydd iawn?

Ar 27 Medi, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, Ar y trywydd iawn? Masnachfraint y Rheilffyrdd a Metro De Cymru. Mae'r adroddiad yn nodi barn y Pwyllgor ar drefniadau Llywodraeth Cymru o ran caffael masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau a Cham 2 y Metro, ac mae'n nodi ei brif flaenoriaethau ar gyfer y contract newydd. Bwriedir i'r fasnachfraint newydd ddechrau ym mis Hydref 2018.

Roedd hwn yn ymchwiliad sylweddol a chymhleth, gan adlewyrchu maint a chymhlethdod y broses gaffael, sef y penderfyniad unigol mwyaf ynghylch buddsoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yma.

Mae'r broses yn arloesol mewn sawl ffordd. Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio gweithdrefn gaffael “deialog gystadleuol”, sydd heb ei phrofi ym maes caffael rheilffyrdd. Maent hefyd am ddyfarnu'r contract mawr cyntaf sydd “wedi'i integreiddio'n fertigol” ar gyfer gwasanaethau rheilffordd ym Mhrydain, lle y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli gwasanaethau traciau a threnau ar rwydwaith Cledrau Craidd y Cymoedd. Mae hynny'n dipyn o her i Lywodraeth Cymru wrth iddi gaffael ei masnachfraint rheilffyrdd gyntaf.

Gallwch ddarllen am y broses gaffael, gan gynnwys y dull deialog gystadleuol, yn ein cofnod blog diweddar.

Gwnaeth y Pwyllgor gyfanswm o 19 o argymhellion mewn tri phrif faes:

  • Y broses gaffael ei hun: nodwyd nifer o risgiau a heriau gan arwain i'r Cadeirydd ddisgrifio uchelgais Llywodraeth Cymru fel un “arwrol” yn ei ragair. Daeth materion i'r amlwg ynghylch yr angen i ddod i gytundeb â Llywodraeth y DU ar ddatganoli pwerau caffael (sydd heb eu datganoli o hyd er i'r ddwy ochr gytuno i wneud hynny yn 2014), cyllid, a throsglwyddo perchnogaeth Llinellau'r Cymoedd i Lywodraeth Cymru er mwyn hwyluso’r broses integreiddio fertigol;
  • Blaenoriaethau ar gyfer manyleb y fasnachfraint: nododd y Pwyllgor ei ddeg blaenoriaeth ar gyfer y fasnachfraint newydd (PDF 1.5MB) i wella safon gwasanaethau rheilffyrdd a'u gwerth am arian; a
  • Materion o ran y seilwaith rheilffyrdd: gwnaeth y Pwyllgor un argymhelliad yn annog Llywodraeth Cymru i barhau i lobïo Llywodraeth y DU i drydaneiddio rheilffyrdd gogledd Cymru, ailddatblygu Gorsaf Caerdydd Canolog, ac yn galw am amserlenni clir ar gyfer trydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe, sef rhywbeth a addawyd ers amser hir. Ers cyhoeddi'r adroddiad, mae Chris Grayling, Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth, wedi cyhoeddi na fyddant yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffyrdd hyd at Abertawe.

Daeth ymateb Llywodraeth Cymru i law ddydd Iau 21 Medi ac fe'i cyhoeddwyd ar dudalen ymchwiliad y Pwyllgor. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn deg o'r argymhellion, ac wedi derbyn y naw sy'n weddill o ran egwyddor.

Neu a oes dail ar y llinell?

Mae gohebiaeth ddiweddar rhwng Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, a'r Ysgrifennydd Gwladol wedi tynnu sylw at rai materion anodd sydd eto i’w datrys.

Ar 20 Gorffennaf, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at yr Ysgrifennydd Gwladol (PDF 2MB), gan nodi goblygiadau un o gynigion swyddogion Adran Drafnidiaeth y DU y dylid gohirio dyddiad cyhoeddi'r dogfennau tendro o 18 Awst tan 26 Medi. Roedd y materion a nodwyd yn cynnwys aflonyddwch ymhlith yr ymgeiswyr, y posibilrwydd o golli cyllid yr UE ar gyfer y metro, llai o amser ar gyfer trefniadau caffael amgen pe bai her gyfreithiol, costau uwch ar gyfer Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac ymgeiswyr, a llai o amser i roi'r fasnachfraint ar waith ar ôl iddi gael ei dyfarnu. Cynigiodd Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi tendr drafft ar 18 Awst a pharhau â'r trafodaethau er mwyn datrys y materion ariannol sy'n weddill.

Ar 8 Awst, atebodd yr Ysgrifennydd Gwladol (PDF 2MB), yn anghytuno ag awgrym yr Ysgrifennydd Cabinet mai'r Etholiad Cyffredinol ym mis Mehefin oedd y rheswm am yr oedi. Yn hytrach, nododd nifer o faterion nad oeddent wedi'u datrys. Roedd y rhain yn cynnwys materion ariannol, gan gynnwys y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn hawlio £1 biliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer cyfnod y fasnachfraint. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod rhwydd hynt i Ysgrifennydd y Cabinet ryddhau'r dogfennau tendro i'r ymgeiswyr, ond ei fod am gadw'r hawl i ddiwygio'r rhain tan y byddai yntau wedi'u hawdurdodi'n ffurfiol. Ar y pryd, awgrymodd na allai hynny ddigwydd tan y byddai cytundeb ynghylch hawliad Llywodraeth Cymru am gyllid.

Fodd bynnag, mae papur tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar 27 Medi yn dweud eu bod wedi cytuno ar ffordd ymlaen:

Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar 7 Medi i drafod ffordd adeiladol o fwrw ymlaen â'r broses gaffael. Cytunwyd, ar yr amod bod y dogfennau perthnasol yn cael eu cwblhau, y cawn fwrw ymlaen i gyhoeddi'r dogfennau tendro ddiwedd mis Medi 2017. Bydd trafodaethau am y trefniadau ariannol yn parhau â Llywodraeth y DU.

Ac eto, mae'r papur tystiolaeth hefyd yn nodi sawl mater sydd heb ei ddatrys eto:

Mae gwireddu ein huchelgais ar gyfer y fasnachfraint nesaf yn dibynnu ar sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ein disgwyliadau gyda golwg ar y canlynol:

  • Bod Llywodraeth y DU yn trosglwyddo'r pwerau mewn pryd ac yn unol â'r hyn a gytunwyd.
  • Bod Llywodraeth y DU a Network Rail yn cytuno ar ein cynlluniau ar gyfer Metro Rheilffyrdd y Cymoedd, sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd.
  • Bod yr Adran Drafnidiaeth yn cytuno ar drefniadau ariannol addas ar gyfer seilwaith Rheilffyrdd y Cymoedd.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 1 yr adroddiad yn croesawu'r wybodaeth ar wefan yr Adran Drafnidiaeth sy'n dweud mai'r bwriad yw trosglwyddo'r swyddogaethau o ran caffael masnachfreintiau i Lywodraeth Cymru yn 2017, yn amodol ar gytundeb terfynol Senedd San Steffan, gan awgrymu y bydd y pwerau'n cael eu trosglwyddo yn fuan iawn. Mae'r ymateb hefyd yn nodi rhywfaint o gynnydd o ran cytuno ar gyllid cyfalaf ar gyfer seilwaith Llinellau'r Cymoedd (argymhelliad 5), tra bod y trafodaethau â Network Rail yn parhau ynghylch trosglwyddo perchnogaeth Cledrau Craidd y Cymoedd (argymhelliad 7).

Mae papur tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnwys amserlen sy'n dangos bod y fasnachfraint newydd ar y trywydd iawn i ddod yn weithredol ym mis Hydref 2018. Fodd bynnag, mae'n rhaid y bydd yr oedi gyda'r trefniadau caffael yn cynyddu'r pwysau ar y broses, o gofio bod angen cytuno'n derfynol ar lawer o faterion pwysig o hyd.


Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.