Addysg

Addysg yng Nghymru: ‘Ein Cenhadaeth Genedlaethol’

Bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn yfory (26 Medi 2017) ynglŷn â ‘Chenhadaeth Genedlaethol’ Llywodraeth Cymru i wella addysg yng Nghymru. Disgwylir hefyd i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun gweithredu newydd i wella addysg ar gyfer 2017-2021.

25 Medi 2017

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn yfory (26 Medi 2017) ynglŷn â ‘Chenhadaeth Genedlaethol’ Llywodraeth Cymru i wella addysg yng Nghymru. Disgwylir hefyd i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun gweithredu newydd i wella addysg ar gyfer 2017-2021.

Llun o bapur a phensil.Fel yn y Cynulliad blaenorol, mae gwella safonau ysgolion a chanlyniadau i ddisgyblion yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, sydd wedi addo £100 miliwn o arian ychwanegol rhwng 2016 a 2021. Yn rhinwedd ei swydd fel Ysgrifennydd y Cabinet, mae Kirsty Williams wedi cyfeirio’n gyson at y ffaith mai gwella addysg yw ‘Cenhadaeth Genedlaethol’ Cymru.

Cynllun gwella addysg presennol Llywodraeth Cymru yw Cymwys am Oes, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2014 gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, Huw Lewis. Amserlen Cymwys am Oes yw 2014-2020, ond cyhoeddodd Kirsty Williams ym mis Tachwedd 2016 y byddai’n lansio cynllun ‘diwygiedig’. Ers hynny rydym wedi bod yn aros am y cynllun newydd a dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Mehefin (PDF 351KB) y byddai’n cael ei gyhoeddi ym mis Medi 2017, ar yr amser mwyaf priodol i’r proffesiwn ac eglurodd yn ddiweddarach mai ar ddechrau’r flwyddyn academaidd fyddai hynny.

Y cynllun presennol – Cymwys am Oes

Diweddariad yw Cymwys am Oes o gynllun gwella blaenorol, a gynhyrchwyd yn 2012, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi mwy o bwyslais ar agenda gwella ysgolion yn sgil canlyniadau siomedig y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) (a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010). Roedd Cymwys am Oes yn ymateb yn rhannol i adolygiad gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ym mis Ebrill 2014 (PDF 3.57MB).

Am ragor o wybodaeth am effaith hanesyddol PISA a’r OECD ar bolisi addysg yng Nghymru, gweler ein herthyglau blaenorol, PISA: Beth ydyw a pham y maen’n bwysig? (mis Tachwedd 2016) a Polisi addysg yn gogwyddo tuag at PISA? (mis Rhagfyr 2015).

Mae Cymwys am Oes yn cynnwys pedwar amcan strategol, a osodwyd yn 2014 gan Lywodraeth Cymru i wella addysg yng Nghymru:

  • Gweithlu proffesiynol rhagorol gydag addysgeg gref wedi’i seilio ar ddealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio
  • Cwricwlwm sy’n ddeniadol ac yn atyniadol i blant a phobl ifanc ac sy’n datblygu eu gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau yn annibynnol
  • Pobl ifanc yn ennill cymwysterau sy’n cael eu parchu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol ac sy’n gweithredu fel pasbort credadwy i’w haddysg a’u cyflogaeth yn y dyfodol.
  • Arweinwyr addysg ar bob lefel yn cydweithio mewn system hunan-wella, gan helpu a herio ei gilydd er mwyn codi safonau ym mhob ysgol.

[Ein pwyslais ni yw’r print trwm]

Beth allwn ni ei ddisgwyl o’r cynllun newydd?

Ar ôl ychydig fisoedd fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, comisiynwyd yr OECD gan Kirsty Williams i ystyried a oedd Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn o ran diwygio addysg. Cyhoeddwyd Asesiad Polisi Cyflym yr OECD, The Welsh Education Reform Journey (PDF 2.91MB), ar 28 Chwefror 2017. Gwnaed datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i’r Cyfarfod Llawn ar yr un diwrnod, lle y cafodd canfyddiadau’r OECD eu crynhoi fel ‘cynnydd da wedi’i wneud’ ond ‘llawer mwy i’w wella’.

Dywedodd Kirsty Williams wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 14 Mehefin 2017 (PDF 351KB) ei bod hi a’i swyddogion wedi bod wrthi’n ‘sicrhau bod argymhellion adroddiad [yr OECD] yn cael eu hymgorffori a’u defnyddio’n llawn’ yn y cynllun gweithredu newydd.

Ffocws cynyddol ar les

Ym mis Tachwedd 2016, pan nododd Ysgrifennydd y Cabinet ei bwriad yn ystod y gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft (PDF 946KB) i adnewyddu Cymwys am Oes, dywedodd y byddai’r cynllun gwella addysg newydd yn canolbwyntio ar bum amcan:

  • Lles
  • Addysgu a Dysgu
  • Y Cwricwlwm ac Asesu
  • Arweinyddiaeth
  • System Hunan-wella

Lles disgyblion yw’r ychwanegiad mwyaf nodedig a ragwelir i amcanion gwella addysg presennol Llywodraeth Cymru.

Mae ychwanegu lles yn cyd-daro â thystiolaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar flaenoriaethau rhanddeiliaid yn ystod haf 2016 pan godwyd iechyd a lles emosiynol plant a phobl ifanc fel mater o gryn bryder. Roedd galw gan randdeiliaid i roi mwy o sylw i les mewn ysgolion. Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i iechyd a lles emosiynol plant a phobl ifanc. Mae lles hefyd yn nodwedd gynyddol o’r fframwaith arolygu ysgolion newydd a ddefnyddir gan Estyn o fis Medi 2017 ymlaen.

Bydd yn rhaid aros i weld faint o sylw a roddir i gymwysterau o fewn y cynllun newydd o’i gymharu â Cymwys am Oes. Ers 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu, drwy ddeddfwriaeth, y corff rheoleiddio cymwysterau annibynnol newydd, Cymwysterau Cymru, a pharhau i roi Adolygiad Huw Evans o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed  ar waith.

Canlyniadau PISA a chyrhaeddiad mewn TGAU

Gosododd Cymwys am Oes darged i Gymru sgorio 500 o bwyntiau neu fwy ym mhob un o dri pharth PISA (Mathemateg, Darllen a Gwyddoniaeth) erbyn cylch PISA yn 2021. Bydd yn ddiddorol gweld pa gyfeiriadau (os bydd cyfeiriadau o gwbl) at PISA a/neu dargedau cyrhaeddiad TGAU a wneir yn y cynllun newydd. Ym mis Mehefin 2017, eglurodd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet fod 500 o bwyntiau erbyn 2021 dal i fod yn darged, er i Kirsty Williams ddweud nad ei tharged hi ydoedd a bod gwella perfformiad disgyblion mwy abl yn flaenoriaeth fwy penodol. (Gweler ein cyfres o flogiau 2 ran o fis Gorffennaf i gael rhagor o wybodaeth.)

Cyhoeddwyd y canlyniadau TGAU diweddaraf ar 24 Awst 2017. Fel yr eglurir gan Cymwysterau Cymru, mae’n anodd iawn cymharu 2017 â blynyddoedd blaenorol oherwydd y nifer cynyddol sy’n sefyll arholiadau’n gynnar a’r ffaith mai dyma’r garfan gyntaf i sefyll yr arholiadau TGAU Saesneg a Mathemateg newydd yn yr haf.

Nid yw’r data ar ganlyniadau TGAU 2017 a ryddhawyd hyd yma yn dangos faint o ddisgyblion a enillodd 5 TGAU graddau A*-C neu fwy (mesur Trothwy Lefel 2) neu’r Trothwy Lefel 2 yn cynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg. Mae’r data’n dangos nifer a chyfran y cymwysterau TGAU a enillwyd ym mhob categori gradd yn hytrach na data ar berfformiad cyffredinol disgyblion unigol.

Bydd data megis mesurau Trothwy Lefel 2 a Throthwy Lefel 2 cynhwysol, a chyrhaeddiad yn ôl cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim, ar gael ar gyfer Cymru gyfan yn gynnar ym mis Hydref ac ar lefel awdurdodau lleol ac ysgolion ym mis Rhagfyr.

Mae datganiad Ysgrifennydd y Cabinet a’r cwestiynau dilynol gan Aelodau’r Cynulliad wedi’u trefnu ar gyfer tua 2.45pm ddydd Mawrth 26 Medi 2017. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.


Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu gwella’i wefan, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn eich barn chi. A fyddech cystal â chymryd rhan yn yr  arolwg byr hwn.