PIGION

Papur Gwyn – Cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg newydd (Rhan 2)

27 Medi 2017

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn rhan gyntaf yr erthygl, edrychwyd ar y prif gynigion ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg (PDF, 868KB). Mae’r rhan yma o’r erthygl yn edrych yn fanylach ar rai o’r manylion yn y ddogfen ymgynghori.

Safonau’r Gymraeg

Roedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn sefydlu fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau iaith ar rai sefydliadau. Mae’r safonau yn egluro sut y disgwylir i sefydliadau ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae 78 o sefydliadau yn gweithredu’r Safonau ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru, yn y Papur Gwyn, yn ailddatgan ei hymrwymiad i’r system bresennol o osod Safonau. Yn ôl Llywodraeth Cymru, gosod dyletswyddau iaith yw’r ‘ffordd orau o sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus a delio â chyrff cyhoeddus yn Gymraeg os ydynt yn dewis gwneud hynny’.

Mae tystiolaeth a ddarperir gan sefydliadau sy’n gorfod dilyn y Safonau yn dangos cefnogaeth i egwyddorion y Safonau. Fodd bynnag, nid yw’r system yn cael ei hystyried yn berffaith, gyda chyrff yn tynnu sylw at rwystrau rhag gweithredu’r Safonau yn effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig nifer o opsiynau er mwyn delio â rhai o’r pryderon hyn:

  1. Dim newid.
  2. Diwygio’r system Safonau bresennol.
  3. Cael cyfres fach o Safonau mwy cyffredinol ar wyneb y ddeddfwriaeth newydd.
  4. Cynlluniau eithriadau wedi’u rheoleiddio yn seiliedig ar gyfres lai o Safonau mwy cyffredinol.
  5. Hawl i unigolion ddefnyddio’r Gymraeg fel y nodir mewn deddfwriaeth sylfaenol.

Diwygio’r system Safonau bresennol yw’r opsiwn mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio. Yn ôl Llywodraeth Cymru, ‘a’r cyni presennol yn parhau, nid ydym o’r farn bod yna lawer o frwdfrydedd dros newid cyfan gwbl pellach’.

Fel rhan o’r cynigion newydd hyn, byddai Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud a gosod y Safonau. Ar hyn o bryd, mae sawl cam yn y system, gyda’r Comisiynydd a Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb yn ystod camau gwahanol o’r broses. Byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn symleiddio ac yn cyflymu’r broses, a all gymryd hyd at 18 mis i gwblhau ar hyn o bryd.

Byddai’r Comisiwn yn gyfrifol am fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth â’r Safonau.

Y broses gwynion

O dan y system bresennol, gellir gwneud cwynion yn uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg os nad yw sefydliad wedi cyflawni’r gofynion o dan Safon benodol. O dan gynigion Llywodraeth Cymru, byddai’r broses o ddelio â chwynion yn cyd-fynd â’r broses i sefydliadau eraill.

Mae cyrff cyhoeddus sy’n delio â chwynion fel arfer yn cael cyfnod i ymchwilio i gŵyn ac ymateb iddi, cyn y gellir ei chyfeirio at gorff cwynion neu reoleiddiol. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ganlynol:

Mae corff cyhoeddus sy’n gorfod ymchwilio i’w wendidau honedig ei hun yn gwybod mwy am ei berfformiad, mae’n fwy tebygol o unioni pethau mewn da bryd ac mewn sefyllfa i ddysgu oddi wrth ei gamgymeriadau ac i wella.

Yn ogystal â’r cynigion i newid y gweithdrefnau i ddelio â chwynion, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig hefyd y dylai’r Comisiwn newydd ond weithredu mewn achos difrifol o dorri’r Safonau. Mae’r hyn a ystyrir yn achos difrifol o dorri’r Safonau yn dal i fod yn aneglur. Mae paragraff 219 o’r Papur Gwyn yn rhoi rhywfaint o arweiniad ar y mater hwn.

Llywodraethu ac Atebolrwydd

Fel y soniwyd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig disodli Comisiynydd y Gymraeg â Chomisiwn y Gymraeg. Byddai gan y corff newydd ‘gyllideb ychwanegol sylweddol’ o ganlyniad i’r cyfrifoldebau ychwanegol a fyddai ganddo i hybu’r iaith.

Mae’r Papur Gwyn yn nodi’r fframwaith llywodraethu ac atebolrwydd posibl ar gyfer y Comisiwn newydd. Byddai’r corff newydd yn gyfrifol am ddosbarthu a gwario ‘symiau sylweddol o arian cyhoeddus’.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod y dyletswyddau rhwng y rhai sy’n gyfrifol am bennu amcanion y corff a’r rhai sy’n gyfrifol am wario a pherfformiad yn cael eu gwahanu.

Cwmpas y cyrff sy’n ddarostyngedig i ddeddfwriaeth y Gymraeg

Mae sefydliadau sy’n gorfod cydymffurfio â’r Safonau naill ai wedi’u henwi neu’n dod o dan gategorïau a restrir yn Atodlen 6 neu 8 o Fesur 2011. Gall Llywodraeth Cymru ddiwygio Atodlen 6 i gynnwys corff newydd, neu drwy orchymyn, ychwanegu cyrff neu gategorïau i Atodlen 8. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau yn berthnasol o ran gallu ychwanegu cyrff. Mae’r cyfyngiadau hyn wedi’u nodi yn Atodlen 5 a 7.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cael gwared ar y cyfyngiadau yn Atodlenni 5 a 7, a fyddai’n rhoi pŵer i Lywodraeth Cymru osod y Safonau ar unrhyw sefydliad o fewn cymhwysedd y Cynulliad, ‘ar yr amod fod gwneud hynny’n rhesymol ac yn gymesur’. O ganlyniad, mae’r gofyniad i gadw Atodlen 6 a 8 yn diflannu hefyd.

Byddai cyfyngiadau yn dal i fod yn berthnasol o dan y cynigion newydd, ond:

Y sector preifat

Byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn rhoi pŵer i Lywodraeth Cymru osod Safonau ar fusnesau preifat nad oeddent yn gorfod cydymffurfio â’r Safonau yn flaenorol. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio’r pŵer hwn yn y dyfodol agos:

Nid ydym yn cynnig y dylai Llywodraeth Cymru osod Safonau’n fuan ar gyrff nad ydynt yn dod o fewn system y Safonau ar hyn o bryd.

Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw meithrin ewyllys da yn y sector hwn tuag at yr iaith. Bydd y Comisiwn yn gyfrifol am ddatblygu rhaglen waith i gefnogi busnesau i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg.

Casgliad

Mae’r farn gychwynnol tuag at y cynigion yn rhai cymysg, gyda Chymdeithas yr Iaith yn mynegi pryderon ynghylch yr effaith posibl ar hawliau siaradwyr Cymraeg. Tra fo’r Gymdeithas o’r farn bod angen corff annibynnol i hybu’r Gymraeg, nid trwy danseilio’r fframwaith reoleiddiol yw’r ffordd o wneud hynny. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi croesawu’r datganiad clir i gadw’r system Safonau, ond rhybuddiodd y byddai newid er mwyn newid yn unig yn annerbyniol. Bydd y ddadl yn parhau am rai misoedd eto.

Daw’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn i ben ar 31 Hydref 2017. Ar 03/10/2017, bydd Aelodau’r Cynulliad yn cael cyfle i drafod y prif gynigion yn y Papur Gwyn yn y Cyfarfod Llawn.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu gwella’i wefan, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn eich barn chi. A fyddech cystal â chymryd rhan yn yr  arolwg byr hwn.