Ar y Gweill! Cyfraddau a Bandiau ar gyfer y Trethi Cymreig Cyntaf mewn bron i 800 mlynedd

Cyhoeddwyd 28/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Pa drethi newydd a gyflwynir yng Nghymru?

Ar 1 Ebrill 2018, bydd treth tir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi yn cael eu datganoli i Gymru. Caiff y trethi hyn eu disodli gan drethi Cymreig a elwir yn y dreth trafodiadau tir (LTT) a’r dreth gwarediadau tirlenwi (LDT) yn y drefn honno.

Cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, ei fwriad i gyhoeddi'r cyfraddau a bandiau treth cyntaf ar gyfer y trethi Cymreig newydd hyn ochr yn ochr â chyhoeddi'r gyllideb ddrafft ar 3 Hydref 2017.

Wrth baratoi ar gyfer y trethi hyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith polisi treth gan nodi ei blaenoriaethau ar gyfer trethi yng Nghymru.

A fydd cyflwyno trethi Cymreig yn effeithio ar sut mae'r gyllideb yn cael ei graffu?

O gofio mai Cyllideb 2018-19 fydd y gyntaf i ymgorffori pwerau codi arian a benthyca newydd Llywodraeth Cymru, bydd proses gyllidebu newydd yn cael ei gweithredu i sicrhau y gall y Cynulliad graffu'n effeithiol ar y pwerau datganoledig.

  • 3 Hydref - bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb amlinellol, gan ddangos dyraniadau ar lefel adrannol, ynghyd â chynlluniau codi treth a benthyca. Bydd hyn yn cynnwys adolygiad annibynnol o'i methodoleg o ran rhagweld treth. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y gyllideb hon.
  • 24 Hydref - bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb fanylach, a fydd yn cael ei chraffu gan bwyllgorau polisi.
  • 22 Tachwedd - bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei Chyllideb y DU a allai effeithio ar y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a hefyd cyfraddau trethi Cymreig os gwneir newidiadau i drethi cyfatebol y DU (SDLT neu LT).
  • 5 Rhagfyr - bydd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn cael ei thrafod yn y cyfarfod llawn.
  • 19 Rhagfyr - bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cyllideb Derfynol.

Mae'r cyllid sydd ar gael yn 2018-19 yn debygol o fod yn dynn a bydd Llywodraeth Cymru yn wynebu penderfyniadau anodd (906KB) ar ble i fuddsoddi arian a gwneud toriadau.

Mae rhagor o fanylion am y gyllideb a'r broses gyllidebol i'w gweld ar dudalennau cyllideb y Gwasanaeth Ymchwil.


Erthygl gan Christian Tipples, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru