Cymraeg 2050 – Gwireddu'r uchelgais (Rhan 1)

Cyhoeddwyd 28/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyd-destun

Ychydig dros flwyddyn yn ôl ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni, lansiodd y Prif Weinidog a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ymgynghoriad ar strategaeth ddrafft newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Hydref 2016. Daeth y strategaeth flaenorol, Iaith fyw: iaith byw 2012-2017 (PDF 839KB) i ben yn swyddogol ar 31 Mawrth 2017.

Wrth i broses ymgynghori Llywodraeth Cymru ddirwyn i ben, dechreuodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu weithio ar ymchwiliad i Strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru – ‘Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050'. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth, yn ysgrifenedig ac ar lafar gan nifer o dystion, gan gynnwys Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad a'i argymhellion (PDF 948KB) ar 18 Mai 2017.

Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch nifer o agweddau ar gynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau twf yn yr iaith Gymraeg, a'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r nod.

Roedd adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys 23 o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried cyn cyhoeddi ei strategaeth derfynol. Roedd nifer o'r argymhellion ynghylch yr angen am eglurder o ran targedau, cerrig milltir a'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r nod. Pwysleisiodd yr adroddiad yr angen i'r strategaeth derfynol roi rhagor o sylw i sut y gellid annog defnyddio'r iaith mewn cymunedau ledled Cymru, yn ogystal â'r angen i gefnogi busnesau yn y sector preifat i ddatblygu eu darpariaethau iaith Gymraeg.

Yn ei hymateb i Adroddiad y Pwyllgor, derbyniodd Llywodraeth Cymru 15 argymhelliad yn llawn a dau argymhelliad yn rhannol, derbyniwyd pum argymhelliad mewn egwyddor, a gwrthodwyd un.

Roedd Argymhelliad 7 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn benodol i asesiad Mudiad Meithrin y bydd angen 650 o gylchoedd meithrin newydd ychwanegol i gefnogi'r strategaeth. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y nod i gefnogi'r angen am ragor o ddarpariaeth meithrin, ond nid oedd yn cydnabod y ffigur a nodwyd gan Mudiad Meithrin.

Mae Rhaglen Waith 2017-2021 Llywodraeth Cymru sy'n cyd-fynd â'r Strategaeth derfynol yn datgan bod y Llywodraeth yn amcanu i ddarparu lleoedd gofal plant ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg yn sgil 30 awr o addysg gynnar neu ofal plant yn rhad ac am ddim i rieni sy'n gweithio. Mae Llywodraeth Cymru’n dweud mae ei fwriad yw “ehangu’r ddarpariaeth i greu 40 yn fwy o grwpiau meithrin gan dargedu mannau wedi’i hadnabod trwy weithgarwch y Cynnig Gofal Plant lle mae’r ddarpariaeth yn dameidiog”.

Y Strategaeth Derfynol: Cymraeg 2050 – Miliwn o siaradwyr Cymraeg

Ar 10 Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, strategaeth derfynol Llywodraeth Cymru – Cymraeg 2050 – Miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae dwy nodwedd drawiadol i'r Strategaeth o'i chymharu â strategaethau blaenorol ar gyfer y Gymraeg. Yn gyntaf, gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg - miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Roedd strategaethau blaenorol yn tueddu i ganolbwyntio ar greu'r 'amodau cywir' i'r Gymraeg dyfu a ffynnu, â thargedau cymedrol o ran tyfu nifer y siaradwyr Cymraeg a'i defnydd. Roedd gan Iaith Pawb (PDF 1.2KB), y strategaeth gyntaf o'i math, fesurau i gyflawni'r hyn a ganlyn erbyn 2011:

  • bod y ganran o bobl Cymru sy'n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu 5 pwynt canran o’r ffigwr a ddaw i’r amlwg o gyfrifiad 2001.

Erbyn yr amser i ganlyniadau Cyfrifiad 2011 gael eu cyhoeddi, roedd y ganran o siaradwyr Cymraeg mewn gwirionedd wedi gostwng 1.8 pwynt canran i 19 y cant o'r boblogaeth. Roedd y strategaeth ganlynol, Iaith fyw: iaith byw yn darparu targedau ehangach â dyhead, er enghraifft:

  • cynnydd yn nifer y bobl sy'n siarad ac sy'n defnyddio'r Gymraeg;
  • rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg;

Wrth ymddangos gerbron y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar 14 Medi 2016, darparodd Alun Davies eglurhad ynghylch targed y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg:

Roeddwn i’n meddwl ei bod yn hynod bwysig gosod targed gydag uchelgais, achos rydym ni wedi bod yn defnyddio geiriau gwahanol—rydym ni eisiau gweld yr iaith yn ‘llwyddo’, ‘ffynnu’, beth bynnag…rwy’n credu bod angen newid y ffordd yr ydym ni’n cefnogi’r Gymraeg ac yn hyrwyddo’r Gymraeg. Nid yw hynny yn mynd i ddigwydd oni bai ein bod ni’n gosod targed, ac wedyn gosod targed gydag uchelgais ynddo fe.

Ail agwedd drawiadol o'r strategaeth yw'r cyfnod o amser a ganiatawyd i gyflawni'r targed. Dyma strategaeth hirdymor, un y mae angen cenhedlaeth i'w chyflawni. Yn ôl y Gweinidog, bydd angen newid ymagwedd, a bydd galw am ystod eang o newidiadau:

Drwy herio ein hunain fel Llywodraeth, fel Cynulliad ac fel cenedl—[gobeithio y byddwn] yn gallu dod i gytundeb ar y Gymraeg: cytundeb ein bod eisiau gweld y Gymraeg fel rhan o’n bywyd bob dydd ni ym mhob rhan o Gymru. Mae hynny’n meddwl newid y ffordd yr ŷm ni’n gweithredu, ac mae’n rhaid newid y ffordd yr ŷm ni’n gweithredu.

Fodd bynnag, roedd erthygl farn yng nghylchgrawn Golwg (20 Gorffennaf 2017) rywfaint yn ddrwgdybus o'r cyfnod amser a ganiatawyd ar gyfer y strategaeth.

Nid wyf yn cofio darllen dogfen gan unrhyw Lywodraeth yn hawlio fod modd gosod cyfeiriad maes polisi am y 33 mlynedd i ddod.

Amser a ddengys a fydd Cymraeg 2050 yn para hyd ei ddiwedd, ond byddai'n rhesymol disgwyl strategaeth 33 blynedd i gael ei diweddaru a'i hadolygu o bryd i'w gilydd, neu hyd yn oed ei dadleoli gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.


Erthygl gan Osian Bowyer, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru