Llywodraeth Cymru i wneud datganiad ar ei rhaglen o’r newydd ar gyfer dileu TB Buchol

Cyhoeddwyd 02/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Beth yw TB buchol, a beth yw’r darlun o ran y clefyd yng Nghymru?

Mae TB buchol (twbercwlosis buchol) yn glefyd heintus a chronig a achosir gan Mycobacterium bovis (M.bovis), sydd fel arfer yn effeithio ar ysgyfaint a nodau lymff gwartheg. Mae Dangosfwrdd TB Llywodraeth Cymru yn dangos bod 95 y cant o fuchesi gwartheg yn rhydd o TB Buchol yn ystod chwarter cyntaf 2017, o’i gymharu â 94.6 y cant yn ystod y flwyddyn flaenorol. Mae hefyd yn nodi y canfu’r lefelau isaf o TB Buchol yng ngogledd orllewin Cymru a’r lefelau uchaf yn ne orllewin Cymru. Dengys ffigurau diweddaraf Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer Cymru bod 1,364 o fuchesi nad ydynt yn rhydd o TB Buchol yn swyddogol ac mai cyfanswm y gwartheg a laddwyd yw 9,693 yn ystod y 12 mis hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017. At hynny, ar 30 Mehefin 2017, roedd 798 o fuchesi o dan gyfyngiadau symud.

Beth yw’r polisi ar gyfer mynd i’r afael â TB Buchol yng Nghymru?

Ym mis Hydref 2016, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad, sef ‘Rhaglen o’r newydd ar gyfer Dileu TB’ (daeth i ben ym mis Ionawr 2017). Un newid allweddol yw cyflwyno dull rhanbarthol yn seiliedig ar nifer yr achosion o TB Buchol. Mae’r dull hwn yn rhannu Cymru’n dri rhanbarth TB – uchel, canolradd ac isel. Nododd yr ymgynghoriad hwn y caiff gwahanol fesurau eu rhoi ar waith yn y tri rhanbarth, a hynny gan ddefnyddio dull wedi’i dargedu. Roedd yr ystod o fesurau a gynigiwyd yn yr ymgynghoriad yn cynnwys:

  • profion goruchwylio o fuchesi gwartheg;
  • profion cyn symud;
  • cyfyngiadau symud ar fuchesi heintiedig;
  • cryfhau bioddiogelwch ar ffermydd;
  • masnachu ar sail risg;
  • lladd anifeiliaid heintiedig;
  • lleihau symiau iawndal; a
  • brechu moch daear pan fydd y brechlyn ar gael ac, o dan rai amgylchiadau penodol, cael gwared ar foch daear heintiedig ar ffermydd sydd ag achosion cronig o TB i dorri’r cylch trosglwyddo rhwng moch daear a gwartheg.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, cafodd crynodeb o’r ymatebion ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2017.

Cyhoeddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Raglen o’r newydd ar gyfer Dileu TB yng Nghymru ar 21 Mehefin 2017. Mae’r rhaglen a’r cynllun cyflenwi cysylltiedig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

A yw’r Cynulliad wedi trafod y mater hwn?

Oherwydd bod TB Buchol yn cael effaith sylweddol ar les anifeiliaid, lles ffermwyr a busnesau, cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad ymchwiliad i TB Buchol yn ddiweddar. Cyhoeddodd ei Adroddiad ar Raglen o’r newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Dileu TB ar 23 Mai 2017. Mae erthygl Pigion y Gwasanaeth Ymchwil yn rhoi crynodeb o’r adroddiad.

I grynhoi, mae’r adroddiad yn nodi, yn wyneb y dystiolaeth a ddaeth i law, fod y Pwyllgor yn cymeradwyo dull o’r newydd arfaethedig Lywodraeth Cymru o fewn fframwaith rhanbarthol newydd. Mae o’r farn bod y dull hwn yn bwrw golwg cynhwysfawr ar bob agwedd ar drosglwyddo clefydau, a’i fod wedi’i ategu gan ystod eang o fesurau sydd wedi’u targedu.

Er iddo gefnogi cynnig Llywodraeth Cymru i ddal, profi a symud moch daear heintiedig mewn ardaloedd cyfyngedig lle mae achosion o TB yn parhau mewn buchesi sydd wedi’u heintio’n gronig, mae gan y Pwyllgor nifer o gafeatau. Mae’r rhain yn cynnwys y defnydd o ffiniau caled, fel ffyrdd mawr ac afonydd, a mesurau diogelwch eraill i fynd i’r afael â’r risg o effeithiau gwasgaru. Dyma lle y gall symud moch daear darfu ar strwythurau cymdeithasol y creaduriaid, sy’n golygu bod moch daear yn teithio’n ehangach ac, o bosibl, yn trosglwyddo’r clefyd i foch daear eraill a gwartheg.

Cafodd y Pwyllgor ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 17 Mai 2017. Mae’n esbonio oherwydd ni fydd camau i symud moch daear ond yn cael eu cymryd ar lefel fferm, maent yn annhebygol o gael eu diogelu gan ffiniau caled. Fodd bynnag, byddai’r risg o effeithiau gwasgaru yn cael ei “monitro’n ofalus a cheisir lleihau’r broblem wasgaru gymaint ag y medrir”. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ymlaen i nodi y bydd y rhaglen symud moch daear yn cael ei monitro’n fanwl ac y bydd adroddiadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae’n nodi y disgwylir i frechlyn fod ar gael yn 2018. Mae’r ymateb hefyd yn cynnwys cytundeb gan Lywodraeth Cymru i “bennu targed dileu ffurfiol yn ogystal â cherrig milltir interim ar gyfer Cymru’n gyfan ac ar gyfer y rhanbarthau”.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ar raglen Llywodraeth Cymru o ran dileu TB Buchol ar 3 Hydref 2017.

Mae erthyglau blaenorol am TB buchol ar gael ar wefan Pigion. I gael rhagor o wybodaeth am Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad ac am ei flaenraglen waith, ewch i’w wefan.


Erthygl gan Dr Wendy Dodds, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: o Flickr gan Cee Bee. Dan drwydded Creative Commons.