Dyfroedd dyfnion o’n blaenau? Y Cynulliad yn trafod adroddiad pwyllgor ar borthladdoedd a gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd 05/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 11 Hydref, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (EAAL) ar ei ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru. Ystyriodd y Pwyllgor y risgiau a’r cyfleoedd y mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn eu cyflwyno ar gyfer porthladdoedd Cymru, a’r camau sydd eu hangen i liniaru risgiau ac i sicrhau manteision.

Porthladd Caergybi o’r awyr Ynghyd â chlywed tystiolaeth ffurfiol yng Nghaerdydd, bu aelodau’r Pwyllgor yn ymweld â Dulyn ar 19 Mehefin i gwrdd â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Shane Ross TD, y Gweinidog dros Drafnidiaeth, Twristiaeth a Chwaraeon, a swyddogion o’r Adran Materion Tramor a Masnach yn y wlad. Roedd yr ymweliad yn adlewyrchu pwysigrwydd traffig Iwerddon i borthladdoedd Cymru, sy’n bwynt mynediad allweddol i "bont tir y DU" rhwng Iwerddon a chyfandir Ewrop. Amlygodd bwletin ystadegol diweddar ar gludiant môr gan Lywodraeth Cymru bod 72 y cant o’r traffig trwm (HGV) rhwng Gweriniaeth Iwerddon a gweddill Ewrop yn 2015, wedi teithio drwy Gymru.

O ran effaith economaidd, canfu astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2011 bod porthladdoedd Cymru yn cefnogi’n uniongyrchol 18,400 o swyddi yng Nghymru. Yn yr un modd, roedd astudiaeth gan Arup, yn 2014 (PDF 583 KB)) , a gomisiynwyd gan Associated British Ports (ABP), yn nodi bod y pump o borthladdoedd ABP yn ne Cymru wedi cyfrannu £1.4 biliwn y flwyddyn at economi’r DU, gan gynnwys bron i £1 biliwn yng Nghymru, ac wedi cefnogi 15,000 o swyddi yng Nghymru.

Cafwyd wyth argymhelliad gan y Pwyllgor. Derbyniwyd pump ohonynt yn Ymateb Llywodraeth Cymru, ac roedd y tri arall wedi’u derbyn "mewn egwyddor". Roedd yr adroddiad a’i argymhellion wedi’u strwythuro ar sail tri maes allweddol.

Dyfodol o ran y ffin ag Iwerddon

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad y byddai trefniadau arferion cyffyrddiad ysgafn drwy ffin tir ‘meddal’ Iwerddon ar ôl-gadael yr Undeb Ewropeaidd yn risg sylweddol pe bai ffin morwrol ‘galed’, â gwiriadau mwy llym yn cael eu gweithredu rhwng Cymru ac Iwerddon. Canfu’r Pwyllgor dystiolaeth y gallai ffin wahaniaethol o’r fath:

severely disadvantage Welsh ports and result in a loss of competitiveness leading to displacement of traffic from Welsh ports – principally Holyhead – to ports in England and Scotland, via Northern Ireland.

Roedd y Pwyllgor yn llai pryderus, fodd bynnag, ynghylch yr awgrym y gellid osgoi pont tir y DU yn gyfan gwbl, drwy gysylltiadau uniongyrchol o Iwerddon â chyfandir Ewrop.

Un argymhelliad allweddol yn y maes hwn, a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd y dylai Llywodraeth Cymru barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw porthladdoedd Cymru o dan anfantais annheg o ganlyniad i drefniadau ffin wahaniaethol, ac y dylai barhau i ddiweddaru’r Pwyllgor yn hyn o beth.

Mae papurau diweddar ar ddyfodol ffin Iwerddon, gan Lywodraeth y DU a’r Tasglu ar drafodaethau’r Comisiwn Ewropeaidd yn mynegi awydd i osgoi ffin tir "galed” ag Iwerddon. Fodd bynnag, mae trefniadau ffiniau’r dyfodol yn parhau i gael eu trafod.

Dyfodol y trefniadau o ran y tollau

Roedd trefniadau o ran y tollau ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn fater o bryder allweddol. Daeth yr adroddiad i’r casgliad y gallai oedi o ran y tollau gael effaith sylweddol ar borthladdoedd Cymru sy’n ymdrin â thraffig "rholio", yn arbennig Caergybi ac Abergwaun. Bu twf sylweddol o ran traffig yn y ddau borthladd ers cwblhau’r Farchnad Sengl ym 1993.

Roedd y Pwyllgor yn pryderu na fyddai ateb technolegol addas ar gyfer y tollau wedi’i ganfod pan fyddai’r DU yn gadael yr UE ym mis Mawrth 2019. Clywodd bod llawer o borthladdoedd Cymru yn brin o’r capasiti ffisegol i ddarparu ar gyfer gwiriadau newydd o ran y tollau a’r ffin, a galwodd am drefniadau trosiannol i sicrhau na fydd ein porthladdoedd yn peidio â gweithredu. Efallai y gall araith y Prif Weinidog yn Florence, a oedd yn galw am gyfnod gweithredu o ddwy flynedd ar gyfer pob cytundeb, roi rhywfaint o sicrwydd.

Ym mis Gorffennaf 2017 cyhoeddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) adroddiad ar ddatblygu system Gwasanaeth Datganiadau Tollau Cyllid a Thollau EM. Er bod y prosiect hwn wedi rhagflaenu refferendwm yr UE, mae’r adroddiad yn nodi graddfa bosibl yr her. Mae’n amlygu amcangyfrifon CThEM, ac yn awgrymu, yn ddarostyngedig i fanylion unrhyw fargen o ran y tollau, y gallai Brexit arwain at gynnydd yn y datganiadau tollau yn y DU o’r 55 miliwn presennol i uchafswm o 255 miliwn y flwyddyn. Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn nodi y gall system yr adran Cyllid a Thollau EM bresennol brosesu uchafswm o 100 miliwn o ddatganiadau tollau y flwyddyn. Canfu bod llawer iawn o waith i’w gyflawni eto o ran y Gwasanaeth Datganiadau Tollau ac y mae perygl na fydd gan adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi allu a chwmpas llawn y Gwasanaeth Datganiadau Tollau ar waith erbyn mis Mawrth 2019.

Fodd bynnag, dim ond rhan o’r stori wrth drin y tollau ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd yw system Datganiadau Tollau mewnol CThEM, ac mae llawer i’w drafod o hyd. Ym mis Awst 2017 cyhoeddodd Llywodraeth y DU bapur ar Drefniadau o ran y tollau yn y dyfodol: partneriaeth yn y dyfodol sy’n cynnig dau ddull eang posibl o ran y tollau: naill ai drefniant tollau hynod syml; neu bartneriaeth tollau newydd gyda’r UE.

Yn dilyn hynny, ar ddechrau mis Medi, cyhoeddodd yr UE bapur yn nodi’r sefyllfa o ran y tollau sy’n nodi bod yn rhaid cytuno ar egwyddorion o ran trefniadau tollau am y tymor hwy. Fodd bynnag, unwaith eto, mae manylion yr egwyddorion hynny i’w cytuno.

Ymysg argymhellion y Pwyllgor yn y maes hwn, roedd argymhelliad 6 yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymateb i’r adroddiad drwy nodi sut y dylid ymdrin â chyfyngiadau capasiti ffisegol ym mhorthladdoedd Cymru, a datblygu cynllun priffyrdd wrth gefn ar gyfer rheoli tagfeydd a fyddai’n deillio o oedi mewn porthladdoedd. Derbyniodd Llywodraeth Cymru hyn mewn egwyddor yn unig, gan nodi cymhlethdod ymdrin â chyfyngiadau o ran capasiti. Cawn weld a fydd hyn yn ddigonol, wrth i ddiwrnod gadael yr Undeb Ewropeaidd nesáu yn gyflym.

Ymgysylltu â Llywodraeth Iwerddon

Roedd rhan olaf yr adroddiad yn edrych ar ymgysylltu, cysylltiadau trafnidiaeth a chyfleoedd. Y mater allweddol yma oedd y diffyg ymgysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon, a nodwyd gan y Pwyllgor.

Yn dilyn ei ymweliad â Dulyn, roedd y Pwyllgor yn "bryderus iawn" gan y ffaith nad oedd Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, wedi cyfarfod â’i gymheiriaid yn Iwerddon ar y pryd. Roedd Argymhelliad 7 yn gofyn am i Lywodraeth Cymru "fynd i’r afael ar frys â’r diffyg ymgysylltiad a gafodd gyda chymheiriaid yn Iwerddon ac aelod-wladwriaethau eraill yr UE ar fater porthladdoedd". Derbyniodd Llywodraeth Cymru hyn, a nododd ei bod "wedi ymgysylltu ag aelod-wladwriaethau’r UE i ddeall meysydd o ran risg a chyfleoedd, a bydd yn parhau i wneud hynny". Fodd bynnag, canfu’r Pwyllgor yn ystod sesiwn tystiolaeth lafar gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar 3 Gorffennaf 2017 na cheisiwyd trefnu cyfarfod gyda’i gymheiriaid yn Iwerddon tan yr wythnos honno.

Mae p’un a gaiff porthladdoedd Cymru drosglwyddiad hawdd, ynteu daith dymhestlog, tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd yn dibynnu ar lawer o ffactorau cymhleth, ac mae llawer o ansicrwydd o hyd. Eto, mae’r pwysau’n fawr yn hyn o beth, o gofio pwysigrwydd economaidd ein porthladdoedd. Bydd y ddadl hon yn caniatáu i’r Aelodau gwestiynu ymhellach o ran a yw ymateb Llywodraeth Cymru a’r camau y bwriada eu cymryd yn ddigonol ar gyfer y dasg sydd o’i blaen.


Erthygl gan Andrew Minnis, y Gwasanaeth Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: Flickr gan Gosport Flyer. Dan drwydded Creative Commons.