‘Cyfle wedi’i golli’? Beth nesaf i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Nid yw addysg Gymraeg byth ymhell o’r penawdau a chynhelir dadl ar y mater eto gan Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth 10 Hydref 2017. Bydd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn gwneud datganiad ar yr ‘Adolygiad Brys o’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020’.

Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Dyma lun o bensiliau lliw.Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Gwnaethpwyd yn glir y bydd angen twf mewn addysg Gymraeg os yw am wireddu’r uchelgais. Yn Strategaeth y Gymraeg 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru daflwybr yn seiliedig ar newidiadau polisi y bydd eu hangen er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg tair oed a hŷn yng Nghymru rhwng 2017 a 2050. Gan gyfeirio at addysg Gymraeg, dywedodd:

Cynnydd bychan fydd i’w weld yn y pedair mlynedd gyntaf. Rydym yn rhagweld cynnydd mwy sylweddol tuag at ddiwedd y degawd cyntaf wrth i ni gyrraedd dwy o’n cerrig milltir trawsnewidiol: sef ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar i 150 yn fwy o grwpiau meithrin a chynyddu cyfran pob grŵp blwyddyn ysgol sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg i 30 y cant erbyn 2031.

Nododd hefyd y bwriad i ‘gynyddu’r gyfran o bob grŵp blwyddyn ysgol sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg o 22 y cant (sy’n seiliedig ar 7,700 o ddysgwyr saith oed yn 2015/16) i 30 y cant (tua 10,500 ym mhob grŵp blwyddyn) erbyn 2031, ac yna i 40 y cant (tua 14,000 ym mhob grŵp blwyddyn) erbyn 2050’

Beth yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg?

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu lleoedd mewn ysgolion. O ran cyflawni uchelgais 2050 felly, mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu’n drwm ar awdurdodau lleol i gynyddu nifer y disgyblion cyfrwng Cymraeg yn ogystal â sicrhau bod adeiladau ysgolion i addysgu’r disgyblion hynny. Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yw’r fecanwaith a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol nodi eu cynlluniau i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i greu cynlluniau tair blynedd sy’n nodi:

  • Cynigion yr awdurdod lleol sut y bydd yn cynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn well yn ei ardal; safonau addysg cyfrwng Cymraeg ac addysgu Cymraeg yn yr ardal;
  • Targedau’r awdurdodau lleol ar gyfer cynllunio darpariaeth addysg Gymraeg yn well yn ei ardal a gwella safonau’r addysg honno a’r modd yr addysgir Cymraeg yn yr ardal;
  • Y cynnydd a wnaed i fodloni targedau’r cynllun blaenorol neu’r cynllun diwygiedig blaenorol.

Mae asesiad yr awdurdod lleol o’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn ei ardal yn hanfodol i’r cynlluniau hyn, ynghyd â’r camau a gymerir i ddiwallu’r galw hwnnw.

A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn gyfle wedi’i golli?

Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad ei adroddiad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (PDF 1.53MB). Meddai:

Mae gan Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESPs) y potensial i sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n cael eu haddysgu drwy’r Gymraeg ac sy’n astudio ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd llawer o randdeiliaid yn cydnabod y potensial hwn ac yn croesawu’r Cynlluniau pan gawsant eu cyflwyno. Fodd bynnag, mae llawer o’r rhanddeiliaid hynny wedi’u siomi gan ddiffyg effaith y Cynlluniau wrth iddynt gael eu gweithredu. Iddynt hwy, mae hanes y Cynlluniau hyd yn hyn wedi bod yn un o golli cyfle. Yn fwy pryderus, mae pryderon cynyddol nad ydynt yn addas i’r diben.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ymateb (PDF 293KB) ar 17 Chwefror 2016.

Yr Adolygiad Cyflwym o Gynlluniau Cymraeg mewn Addysg a’r camau nesaf

Ar 14 Mawrth 2017, gwnaeth y Gweinidog ddatganiad ynghylch Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (gallwch wylio yma ar Senedd TV). Yn y datganiad, cyhoeddodd fod Aled Roberts, cyn Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi’i benodi i gynnal ‘Adolygiad Brys o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020’. Dywedodd mai’r adolygiad hwn oedd y ‘cam cyntaf i sicrhau newid’.

Cafodd adroddiad Aled Roberts ei gyhoeddi ar 4 Awst 2017 a gwnaed 18 o argymhellion. Gwnaeth y Gweinidog ddatganiad gan gyfeirio at uchelgais 2050, yn dweud:

Mae addysg wrth wraidd y strategaeth ac felly mae sicrhau bod fframwaith ar gyfer cynllunio addas a chadarn yn flaenoriaeth. Mae’n rhaid i ni nawr yrru’r cwch i’r dwr trwy osod sylfeini cadarn ar gyfer cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru gyfan.

Dywedodd hefyd y byddai’n ysgrifennu at bob Awdurdod Lleol i roi adborth ar eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, ac y byddai’n gofyn iddynt newid eu cynlluniau. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn bwriadu adolygu’r rheoliadau a’r canllawiau ynghylch Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg er mwyn annog symud ar draws y continwwm iaith. Ddydd Mawrth, bydd Aelodau’r Cynulliad yn clywed gan y Gweinidog am ei gamau nesaf ar gyfer y Cynlluniau. Bydd llawer o ddiddordeb yn sgil y pryderon blaenorol a fynegwyd hyd yma eu bod wedi bod yn ‘gyfle wedi’i golli’.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth, gweler blogiau blaenorol y Gwasanaeth Ymchwil:


Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru