Cyhoeddi setliad dros dro i lywodraeth leol ar gyfer 2018-19

Cyhoeddwyd 10/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn dilyn Cyllideb ddrafft amlinellol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 (a ryddhawyd ddydd Mawrth 3 Hydref 2017), mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol 2018-19 heddiw. Mae'r Setliad yn amlinellu'r cyllid a ddyrennir i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Cyfanswm y setliad dros dro ar gyfer 2018-19 yw £4.2 biliwn, sydd £19.1 miliwn (0.5 y cant) yn llai na'r ffigurau wedi’u haddasu ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi rhoi syniad o'r cyllid ar gyfer 2019-20, ac amlinellir y bydd gostyngiad pellach o 1.5 y cant.

Caerdydd yw'r unig awdurdod lleol i gael mwy o gyllid eleni (0.2 y cant). Bydd pob awdurdod lleol arall yn cael gostyngiad, a bydd chwe awdurdod lleol yn derbyn y gostyngiad mwyaf posibl, sef 1 y cant.

Mae'r ffeithlun isod yn rhoi dadansoddiad llawn o'r newid canrannol mewn cyllid yn ôl awdurdod lleol. Y llynedd, sefydlodd Llywodraeth Cymru gyllid gwaelodol a oedd yn golygu na fyddai’r un awdurdod yn cael gostyngiad o fwy na 0.5 y cant. Eleni, roedd y cyllid gwaelodol yn sicrhau na fyddai’r un awdurdod yn cael gostyngiad o fwy nag 1%. Dyrannwyd cyfanswm o £1.8 miliwn mewn cyllid atodol i’r chwe awdurdod lleol isod:

  • Blaenau Gwent: £890,000
  • Conwy: £365,000
  • Sir Fynwy: £238,000
  • Powys: £145,000
  • Caerffili: £107,000
  • Merthyr Tudful: £27,000

Swm y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol yn 2018-19 yw £143 miliwn, sef yr un faint ag yn 2017-18.

Mae datganiad Ysgrifennydd y Cabinet sy'n cyd-fynd â'r setliad hefyd yn cadarnhau y bydd Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2018-19 yn parhau i gael yr un swm, sef £244 miliwn.

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at awdurdodau lleol, Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol 2018-19 a Setliad Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol 2018-19 (Dros Dro): Cymru gyfan - Tablau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi creu’r map rhyngweithiol isod i ddangos y ddau beth a ganlyn:

  • y newid canran yng nghyllid llywodraeth leol o 2017-18 i 2018-19 (Oren = Cynnydd) (Glas tywyll i las golau = gostyngiad mwyaf i’r gostyngiad lleiaf)
  • cyfanswm pob awdurdod lleol y pen ar gyfer y boblogaeth (Pinc tywyll i binc golau = mwyaf o arian y pen i’r lleiaf o arian y pen)

Gallwch symud ar y map i weld sut y mae pob awdurdod lleol yn cymharu â’i gilydd, a chlicio ar bob haen i weld cyfanswm y cyllid sydd gan bob awdurdod lleol yn 2018-19.


Erthygl gan Owen Holzinger a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru