Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb yng Nghymru: Beth nesaf?

Cyhoeddwyd 12/10/2017   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth (17 Hydref 2017), bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod yr hyn a gyflawnwyd o ran mynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru, a'r heriau sy'n dal i fodoli.

Fflagiau’r UE a’r DUMae ystadegau a gyhoeddwyd gan Swyddfa Gartref y DU (tabl 2.01) ym mis Hydref 2016, yn dangos bod mwy o droseddau casineb wedi’u cofnodi ledled Cymru yn 2015-16 nag yn 2014-15 (atodiad tabl 2.01). Cafodd 2,405 o droseddau casineb eu cofnodi ar draws pedair Ardal Heddlu Cymru yn 2015-16, o'i gymharu â 2,259 yn 2014-15. Mae hyn yn gynnydd o dros 6%.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi priodoli'r cynnydd diweddar mewn rhai categorïau o droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu i welliannau yn nulliau cofnodi'r heddlu, yn hytrach na chynnydd gwirioneddol yn nifer y troseddau.

Yn y cyfamser, ym marn Llywodraeth y DU, mae’r ffaith bod pobl yn fwy ymwybodol o droseddau casineb, ac yn fwy parod i roi gwybod i'r heddlu amdanynt pan fyddant yn digwydd, yn debygol o fod yn ffactor yn y cynnydd yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yn 2015-16, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Gan fod y ffigurau a gyhoeddir gan y Swyddfa Gartref yn cwmpasu troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016, ni fydd unrhyw gynnydd mewn trosedd casineb yn dilyn Refferendwm yr UE ar 23 Mehefin 2016 yn effeithio ar y ffigurau.

Fodd bynnag, yn dilyn refferendwm yr UE, gofynnodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu am ddatganiadau wythnosol gan heddluoedd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i fesur lefel trosedd casineb. Roedd y data hyn yn dangos cynnydd sydyn yn nifer y troseddau casineb ym mis Gorffennaf, â’r heddlu’n cofnodi 41 y cant yn fwy o droseddau wedi'u gwaethygu gan hiliaeth neu grefydd ym mis Gorffennaf 2016 nag ym mis Gorffennaf 2015. Gostyngodd nifer y troseddau casineb a gofnodwyd ym mis Awst i lefel a welwyd yn gynharach yn 2016, ond roeddent yn parhau i fod yn uwch na'r ffigurau yn 2015. Mae ffigurau a gasglwyd gan Gymdeithas y Wasg yn dangos bod holl heddluoedd Cymru wedi gweld cynnydd rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2016, yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd:

  • cofnododd Dyfed-Powys 35 o droseddau, sef cynnydd o 52 y cant;
  • cofnododd Gwent 77 o droseddau, sef cynnydd o 22 y cant;
  • cofnododd Gogledd Cymru 56 o droseddau, sef cynnydd o 22 y cant; a
  • chofnododd De Cymru 276 o droseddau, sef cynnydd o 10 y cant.

Diffinio troseddau casineb

Mae Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cytuno ar ddiffiniad cyffredin o drosedd casineb:

  • Diffinnir trosedd casineb fel: Trosedd sy’n cael ei hystyried, gan y dioddefwr neu unrhyw unigolyn arall, fel un sydd wedi’i hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar nodwedd megis anabledd, hil, crefydd a chredo, cyfeiriadedd rhywiol a thrawsryweddol unigolyn, boed y nodwedd honno’n un wirioneddol neu’n un ganfyddedig’.
  • Digwyddiad casineb yw: Unrhyw ddigwyddiad nad yw’n drosedd sy’n cael ei ystyried gan y dioddefwr neu unrhyw unigolyn arall fel un sydd wedi’i hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar nodwedd megis anabledd, hil, crefydd a chredo, cyfeiriadedd rhywiol a thrawsryweddol unigolyn, boed y nodwedd honno’n un wirioneddol neu’n un ganfyddedig.’

Ar hyn o bryd caiff troseddau casineb eu cofnodi a'u monitro gan heddluoedd ar gyfer pob un o'r nodweddion gwarchodedig, sef:

  • Anabledd;
  • Hil;
  • Crefydd/cred;
  • Cyfeiriadedd rhywiol; a
  • Hunaniaeth o ran rhywedd.

Mynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb – Fframwaith Gweithredu

Ym mis Mai 2014 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ddogfen Mynd i'r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb - Fframwaith Gweithredu. Caiff llwyddiant y fframwaith hwn ei fesur o'i gymharu ag un canlyniad lefel uchel, sef:

Galluogi unigolion a chymunedau i fod yn gadarn, yn gydlynol ac yn ddiogel er mwyn mynd i'r afael â digwyddiadau a throseddau casineb.

Ategir y canlyniad lefel uchel hwn gan dri amcan strategol:

  • Atal - drwy herio’r agweddau sy’n sail iddo, codi ymwybyddiaeth, ymyrraeth gynnar er mwyn ei atal rhag gwaethygu, hyfforddi sefydliadau a defnyddio amcanion cydraddoldeb penodol i weithio gyda Sefydliadau Sector Cyhoeddus;
  • Cynorthwyo dioddefwyr - drwy gynyddu lefelau adrodd, annog datblygiad pellach canolfannau adrodd trydydd parti, gwella diogelwch a lles ac ymchwilio i gymorth o safon ar gyfer dioddefwyr; a

Gwella'r ymateb amlasiantaethol - drwy ymchwilio i ddata perthnasol a rhwystrau i rannu gwybodaeth, cynyddu gwaith amlasiantaethol a mynd i’r afael â chymhellion troseddwyr.

Cynllun Cyflawni Blynyddol

Ar ôl cyhoeddi'r fframwaith, dechreuodd Llywodraeth Cymru baratoi Cynllun Cyflawni Blynyddol, sy'n cynnwys camau gweithredu penodol, megis ariannu Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan ac ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol, i roi tri amcan strategol y fframwaith ar waith. Mae'r camau gweithredu hyn wedi'u grwpio mewn wyth maes cyflawni:

  • Mynd i'r afael â bwlio sy'n gysylltiedig â chasineb a hybu parch;
  • Hybu cynhwysiant a chadernid;
  • Hybu cydraddoldeb a chysylltiadau da;
  • Hyfforddiant ac ymwybyddiaeth wrth gyflawni gwasanaethau;
  • Cynyddu nifer y troseddau a'r digwyddiadau casineb sy'n cael eu hadrodd;
  • Cynyddu'r cymorth i ddioddefwyr;
  • Gwella gweithio mewn partneriaeth; a
  • Mynd i'r afael â throseddwyr.

Adroddiad cynnydd

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi Adroddiad Cynnydd blynyddol, sy'n dangos y camau a gymerwyd tuag at weithredu tri amcan strategol y fframwaith. Mae'r camau a gymerwyd hefyd wedi'u grwpio o dan yr wyth maes cyflawni. Mae Adroddiad Cynnydd 2016-17 yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â throsedd casineb, gan gynnwys:

  • Gwaith mewn ysgolion a chyda theuluoedd, gan gynnwys diogelu'r buddsoddiad mewn 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18, a chomisiynu ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus a marchnata dros 12 mis i godi ymwybyddiaeth o'r agenda gwrth-fwlio;
  • Sesiynau hyfforddi mewn Ymwybyddiaeth o Drosedd Casineb, gan gynnwys darparu 48 sesiwn ledled Cymru gan Gymorth i Ddioddefwyr; ac
  • Ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, wedi'u trefnu i gyd-fynd â digwyddiadau eraill megis Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, Mis Hanes Pobl Dduon ac Wythnos Rhyng-ffydd.

Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell: Baner y DU a’r UE, a drwyddedwyd o dan Dave Kellam, Creative Commons.