Y Cynulliad i drafod yr economi gylchol

Cyhoeddwyd 13/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 17 Hydref 2017, bydd dadl Llywodraeth Cymru ar yr economi gylchol. Mae'r blog hwn yn bwrw golwg yn gryno ar yr economi gylchol; pa gynnydd y mae Cymru wedi'i wneud tuag at ddatblygu economi gylchol, a beth yw'r manteision a'r heriau posibl.

Beth yw'r economi gylchol?

Infograffeg o'r economi gylchol sy'n dangos sut mae'r economi yn llifo'n gylchol o ddylunio/gweithgynhyrchu; i'r manwerthwr; i'r defnyddiwr/deiliad tŷ/Awdurdodau Lleol; i ailddefnyddio/atgyweirio/ailgylchu; i'r sector ailgylchu; ac yn ôl i ddylunio/gweithgynhyrchu.Mae'r economi gylchol yn ddewis arall i'r economi linol draddodiadol, sef cymryd; gwneud; defnyddio; a gwaredu. Mae'n system adferol, lle caiff cynhyrchion, cydrannau a deunyddiau eu defnyddio am gyfnod mor hir ag y bo modd, ac mae'r deunyddiau yn cael eu hadennill a'u hadfywio ar ddiwedd bywyd y cynnyrch. Bwriad dull o'r fath yw lleihau adnoddau a gwastraff trwy gydol y gadwyn gyflenwi. Mae'r economi gylchol yn mynnu bod nwyddau yn cael eu hatgyweirio, eu hailddosbarthu a'u hailddefnyddio, yn hytrach na dibynnu'n unig ar ailgylchu gwastraff. Dylai weithredu ar bob lefel, o gartrefi ac awdurdodau lleol i fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr.

Pa gynnydd y mae Cymru wedi'i wneud tuag at economi fwy cylchol?

Sefydlodd Strategaeth Llywodraeth Cymru (2010) dargedau atal ac ailgylchu gwastraff a gosod Cymru i bob pwrpas ar lwybr tuag at ddatblygu economi fwy cylchol. Mae'n cynnwys pob rhan o'r gymdeithas ac fe'i cefnogir gan ar gyfer sectorau sy'n amrywio o wastraff trefol i adeiladu a dymchwel.

Mae Cymru'n perfformio'n dda o ran ailgylchu. Mae ganddi ar hyn o bryd y gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU, yr ail uchaf yn Ewrop, a'r drydedd gyfradd uchaf yn y byd. Roedd yn rhaid i awdurdodau ailgylchu 58% o'u gwastraff erbyn 2016-17, gan godi i 64% erbyn 2019-20 a 70% erbyn 2024-25. Mae'r ffigurau'n cael eu hadolygu bob tri mis ac yn cael eu hychwanegu at gyfanswm dros dro 12 mis treigl. Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y 12 mis hyd at ddiwedd Mawrth 2017, gyda'r data terfynol yn cael eu rhyddhau ym mis Hydref. (a gyhoeddwyd ym mis Awst) yn dangos cynnydd o 4% ar gyfradd ailgylchu y flwyddyn flaenorol, sef 60%. Ond er gwaethaf y perfformiad rhagorol hwn, dim ond rhan o'r jig-so yw ailgylchu, ac mae angen cymryd camau pellach i symud tuag at economi gylchol.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi nodi y bydd gweithredu polisïau i gefnogi darparu economi gylchol yng Nghymru yn un o'i blaenoriaethau allweddol. Yn gynharach eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (10 Mawrth 2017). Gan ddechrau yn 2019, mae'n anelu at helpu Cymru i gyrraedd targedau ailgylchu a nodir yn strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, a helpu busnesau i drawsnewid eu gwasanaethau i gyd-fynd â'r 'economi gylchol'. Wrth gyhoeddi'r gronfa hon, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

Bydd [y gronfa hon] yn helpu busnesau i arbed arian drwy fod yn fwy effeithlon a chryf. Bydd y ffordd hon o weithio yn arwain at fanteision amgylcheddol niferus gan gynnwys llai o wastraff a llai o allyriadau CO2.

Mae Cymru yn un o 10 o bartneriaid o 6 gwlad Ewropeaidd sy'n rhan o'r prosiect a ariennir gan Ewrop Economi Gylchol ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig (CESME). Mae hyn yn darparu cyllid a chymorth i nodi arferion gorau a darparu canllawiau ar gyfer busnesau bach a chanolig i gael eu cynnwys yn yr economi gylchol.

Pa fuddion y gallai economi gylchol eu cyflwyno i Gymru?

Yn ôl WRAP, byddai mabwysiadu economi gylchol yn darparu'r manteision canlynol;

  • lleihau gwastraff
  • creu economi fwy cystadleuol;
  • galluogi ymdriniaeth well yn y dyfodol o ran materion diogelwch/prinder adnoddau sy'n dod i'r amlwg;
  • helpu i leihau effeithiau amgylcheddol cynhyrchu a defnyddio gartref a thramor; a
  • rhagfynegodd astudiaeth gan y Gynghrair Werdd a WRAP y byddai 30,000 o swyddi yn cael eu creu yng Nghymru.

Mae Sefydliad Ellen MacArthur hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod mabwysiadu economi gylchol yn lleihau risgiau i'r system trwy reoli adnoddau cyfyngedig a rheoli llif ynni adnewyddadwy. Rhagfynegodd adroddiad gan Sefydliad Ellen MacArthur arbedion i Gymru o dros £2 biliwn y flwyddyn.

Nododd datganiad gan Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol (4 Mawrth 2016) sut y gallai mabwysiadu economi fwy cylchol yng Nghymru helpu i gyflawni'r 7 nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Er enghraifft; helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ('Cymru Gydnerth'); a chyfrannu at y nod o ddefnyddio adnoddau 'un blaned' ('Cymru sy'n gyfrifol ar Lefel Fyd-Eang').

Beth yw'r heriau sy'n wynebu datblygu'r economi gylchol?

Cyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop (EEA) yr adroddiad Circular economy in Europe - Developing the knowledge base (18 Ionawr 2016). Mae'n dweud mai un o'r heriau allweddol o ran datblygu'r economi gylchol yw'r diffyg gwybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i lywio gwneud penderfyniadau fel deall deinameg defnyddio a mecanweithiau cyllid.

Yn ogystal, mae'r adroddiad yn dweud bod tyndra yn debygol o ddatblygu rhwng yr economi linol bresennol a'r economi gylchol gan fod rhai busnesau traddodiadol a'u gweithwyr yn debygol o ddioddef yn y cyfnod o bontio i economi gylchol.

Mae erthygl blog gan UCL Institute for Sustainable Resources (10 Mawrth 2014) yn tynnu sylw at dair her fawr o ran cyrraedd yr economi gylchol;

  • Integration of the entire product life cycle from raw material extraction to disposal (or reuse/ recycling) can be done either through intensive collaboration between companies or single ownership of the product chain, both of which have disadvantages and could be complicated and costly to set-up.
  • Linking up different production chains creates a web of complex interdependencies that can leave the economy vulnerable to disruptions and may hamper competition.
  • The environmental benefits can become lost amongst the conversation around the economic benefits of the circular economy. Nid yw'r union berthynas rhwng cylcholdeb sy'n mwyafu elw a chylcholdeb sy'n lleiafu manteision amgylcheddol yn eglur.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu'r strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff, a bydd yn lansio ymgynghoriad ar y fersiwn ddiwygiedig ym mis Gorffennaf 2018.

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Moya Macdonald gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i'r blog hwn gael ei gwblhau.


Erthygl gan Moya Macdonald, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Delwedd o WRAP a'r economi gylchol gan WRAP