Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Cyfarfodydd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion

Cyfarfu’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ar 16 Hydref yn Llundain. Roedd cyfarfod diwethaf y pwyllgor ym mis Ionawr 2017. Siaradodd y Pwyllgor am hynt y trafodaethau ynghylch sut y bydd y DU yn ymadael â'r UE a'r egwyddorion sy'n sail i'r dull gweithredu y cytunwyd arno gan Lywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig o ran fframweithiau polisi cyffredin ar ôl i'r DU adael yr UE.

23 Hydref 2017

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyfarfu’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ar 16 Hydref yn Llundain. Roedd cyfarfod diwethaf y pwyllgor ym mis Ionawr 2017. Siaradodd y Pwyllgor am hynt y trafodaethau ynghylch sut y bydd y DU yn ymadael â’r UE a’r egwyddorion sy’n sail i’r dull gweithredu y cytunwyd arno gan Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig o ran fframweithiau polisi cyffredin ar ôl i’r DU adael yr UE.

Beth yw Cyd-bwyllgor y Gweinidogion?

Mae Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn rhan o system cysylltiadau rhynglywodraethol y DU ers datganoli. Fe’i sefydlwyd gan Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Ei ddiben yw cydgysylltu’n ganolog y gydberthynas gyffredinol rhwng y llywodraethau.

Dyma gylch gorchwyl Cyd-bwyllgor y Gweinidogion:

  • ystyried materion nad ydynt wedi’u datganoli sy’n effeithio ar gyfrifoldebau datganoledig, a materion datganoledig sy’n effeithio ar gyfrifoldebau nad ydynt wedi’u datganoli;
  • pan fydd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cytuno i wneud hynny, ystyried materion datganoledig os yw’n fuddiol trafod sut yr ymdrinnir â hwy yn y gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig;
  • parhau i adolygu’r trefniadau cydweithio rhwng Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig; ac
  • ystyried anghydfodau rhwng y gweinyddiaethau.

Corff ymgynghorol yw Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, yn hytrach na chorff gweithredol. Mae’r corff yn cynnal tri math o gyfarfod gweinidogol:

  • Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Cyfarfod Llawn) – cyfarfod blynyddol rhwng arweinwyr pob gweinyddiaeth, o dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog. Fe’i cynhelir ym mis Mehefin fel arfer, cyn i Senedd San Steffan a’r deddfwrfeydd datganoledig gymryd toriad dros yr haf.
  • Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Ewrop) – cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Ewrop), dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd Tramor, cyn pob un o gyfarfodydd y Cyngor Ewropeaidd, a gynhelir pedair gwaith y flwyddyn fel arfer.
  • Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Domestig) – cyflwynwyd y fformat hwn yn 2008 er mwyn galluogi Gweinidogion o’r pedair gweinyddiaeth i drafod amryw faterion, yn enwedig y rhai sy’n pontio meysydd datganoledig a rhai nad ydynt wedi’u datganoli. Mae’r Gweinidogion yn cyfarfod yn fformat Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Domestig) tua thair gwaith y flwyddyn.

Cyfarfu Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Cyfarfod Llawn) ar 24 Hydref 2016 a chytunwyd i ddatblygu trefniadau ymgysylltu amlochrog drwy greu pwyllgor newydd, sef y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE). Dyma gylch gorchwyl y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE):

Drwy’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE), bydd y llywodraethau’n cydweithio er mwyn:

  • trafod gofynion pob llywodraeth o ran y berthynas â’r UE yn y dyfodol;
  • ceisio cytuno ar ddull gweithredu’r DU ar gyfer y trafodaethau ynghylch Erthygl 50 ac amcanion y DU;
  • goruchwylio trafodaethau â’r UE er mwyn sicrhau, cyhyd ag y bo’n bosibl, bod y canlyniadau a gytunwyd gan y pedair llywodraeth yn cael eu cyflawni drwy’r trafodaethau hyn; a
  • thrafod materion sy’n deillio o’r broses drafod a allai effeithio ar Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban neu Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, neu faterion a allai arwain at ganlyniadau i’r pedair llywodraeth.
  • Cynhaliwyd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ) am y tro cyntaf dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Roedd ei gyfarfod diwethaf ym mis Ionawr 2017. Y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Hydref oedd y tro cyntaf iddo gyfarfod ers yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mehefin 2017.
  • Cyn y cyfarfod, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC ei fod yn “gyfle i ailosod y berthynas waith, a chynnwys y gweinyddiaethau datganoledig wrth ddatblygu safbwynt negodi ar gyfer ymadael â’r UE.” Yn flaenorol, roedd Mr Drakeford wedi anfon llythyr ar y cyd â Gweinidog yr Alban, Mike Russell, at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE, yn nodi cyfres o gamau ymarferol ar gyfer ymadael â’r UE.

Yr hysbysiad

  • Cadeiriwyd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ar 16 Hydref gan y Prif Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet, y Gwir Anrhydeddus Damian Green AS. Hefyd yn bresennol o Lywodraeth y DU, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE, y Gwir Anrhydeddus David Davis AS; Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban ac Is-ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon.
  • Roedd Mark Drakeford AC yn bresennol ar ran Llywodraeth Cymru. Roedd Michael Russell MSP, y Gweinidog dros Drafodaethau’r DU ar Safle’r Alban yn Ewrop, yn bresennol ar ran Llywodraeth yr Alban. Roedd uwch was sifil o Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon yn bresennol yn absenoldeb Gweinidogion o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon.
  • Cyhoeddwyd Hysbysiad ar ôl y cyfarfod a oedd yn nodi: “Ministers noted the positive progress being made on consideration of common frameworks and agreed the principles that will underpin that work”. Roedd dogfen o’r enw Common Frameworks: Definitions and Principles ynghlwm wrth yr Hysbysiad.

Mae’r ddogfen yn nodi bod y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig yn cytuno i weithio gyda’i gilydd i sefydlu dulliau cyffredin mewn rhai meysydd a reolir ar hyn o bryd gan gyfraith yr UE, ond sydd fel arall o fewn meysydd cymhwysedd y llywodraethau neu’r deddfwrfeydd datganoledig. Bydd fframwaith yn nodi dull gweithredu cyffredin ar gyfer y DU, neu Brydain Fawr, a sut y caiff ei weithredu a’i reoli. Mae’n nodi:

This may consist of common goals, minimum or maximum standards, harmonisation, limits on action, or mutual recognition, depending on the policy area and the objectives being pursued. Frameworks may be implemented by legislation, by executive action, by memorandums of understanding, or by other means depending on the context in which the framework is intended to operate.

Yna mae’r ddogfen yn nodi egwyddorion a fydd yn berthnasol i fframweithiau cyffredin mewn meysydd lle y mae cyfraith yr UE yn cydgyffwrdd ar hyn o bryd â chymhwysedd datganoledig. Bydd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn cydweithio’n agos hefyd ar faterion a gadwyd yn ôl a rhai a eithriwyd sy’n effeithio’n sylweddol ar gyfrifoldebau datganoledig.

Bydd y trafodaethau naill ai’n amlochrog neu’n ddwyochrog rhwng Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig. Nod pob parti fydd cytuno ble y mae angen fframweithiau cyffredin a beth y dylent ei gynnwys.

Mae testun llawn yr egwyddorion y cytunwyd arnynt ynghlwm wrth yr Hysbysiad ac maent yn cynnwys egwyddorion fel galluogi marchnad fewnol y DU i weithredu a sicrhau y gall y DU ymrwymo i gytundebau masnach newydd a’u rhoi ar waith. Bydd fframweithiau cyffredin hefyd yn ystyried y cysylltiadau economaidd a chymdeithasol rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

Disgwylir i’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) gyfarfod eto cyn y Nadolig.


Erthygl gan Alys ThomasGwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.