PIGION

Dyfodol heb ffracio i Gymru? Y Cynulliad i drafod cynnig am Fil gwrth-ffracio

23 Hydref 2017

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 25 Hydref 2017, bydd y Cynulliad yn trafod cynnig deddfwriaethol gan Aelod yn enw Simon Thomas AC am fil i ddiwygio’r system gynllunio fel bod rhagdybiaeth yn erbyn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer hollti hydrolig (ffracio). Diben y Bil yw gwarchod tirwedd Cymru ac iechyd y cyhoedd. Mae’r Bil yn deillio o ymrwymiad Plaid Cymru yn Rhaglen yr Wrthblaid i geisio sicrhau “gwaharddiad llwyr ar ffracio” ac ym Maniffesto Plaid Cymru ar gyfer 2016, sy’n nodi:

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru’n rhwystro cracio heidrolig (‘ffracio’) ac ecsbloetio unrhyw fathau eraill o nwy anghonfensiynol yng Nghymru unwaith i’r pwerau gael eu datganoli i Gymru. Yn y cyfamser mi ddiweddarwn ganllawiau cynllunio i gynnwys Nodyn Cyngor Technegol ar nwy anghonfensiynol.

Yn y blog hwn fe drafodir yn gryno natur hollti hydrolig, polisi cynllunio cyfredol Cymru a’r cymhwysedd deddfwriaethol sy’n datblygu o ran y pwnc hwn. Mae hefyd yn bwrw golwg dros y sefyllfa bresennol yn yr Alban.

Hollti hydrolig (ffracio)

Mae gan lawer o rannau o’r DU, gan gynnwys Cymru, gronfeydd o olew a nwy anghonfensiynol. Ymysg y rhain y mae nwy siâl, sef nwy naturiol sydd wedi’i ddal mewn holltau a mandyllau mewn creigiau siâl gwaddod graen mân. Ddwy brif dechneg drilio sy’n cael eu defnyddio i archwilio ac echdynnu’r dyddodion tanddaearol hyn: drilio llorweddol a hollti hydrolig.

Hollti hydrolig yw’r broses o bwmpio hylif (dŵr, tywod a sylweddau eraill) i’r ffynnon dan bwysedd er mwyn creu a chynyddu holltau yn y graig. Yn y modd hwn y caiff yr olew a’r nwy eu rhyddhau o’r creigiau siâl (gweler Ffigur 1). Mae’r holltau’n cychwyn yn y ffynnon chwistrellu a gallant ymestyn rhai cannoedd o fetrau i’r graig, 1-3 km o dan lefel y tir.

Ar hyn o bryd, mae’r dyfodol yn ansicr o ran datblygu nwy siâl yn y DU; mae gan Lywodraethau’r Alban a Chymru bob o foratoriwm ar gyfer archwilio neu echdynnu olew a nwy anghonfensiynol.

Ffigur 1: Diagram o hollti hydrolig a ffynnon ddrilio

Polisi cynllunio cyfredol Llywodraeth Cymru

Ar hyn o bryd, mae Polisi cynllunio yng Nghymru yn cael ei lywio yn genedlaethol gan Bolisi Cynllunio Cymru (PCC, argraffiad 9 Tachwedd 2016) a chan gyfres o ganllawiau sy’n cynnwys nodiadau cyngor a chylchlythyron.

Ar 25 Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Nwyeiddio Glo Tanddaearol) (Cymru) 2016. Mae hyn yn sicrhau na chaniateir yng Nghymru unrhyw ddatblygiad a all geisio archwilio nac echdynnu olew siâl neu nwy drwy ddefnyddio technegau fel ffracio. Ar y cyd â’r Cyfarwyddyd Hysbysu fe gyhoeddwyd ‘Llythyr at Brif Swyddogion Cynllunio  gan Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol. Mae’r llythyr yn cyflwyno proses sy’n golygu bod rhaid i unrhyw geisiadau cynllunio i awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig â nwyeiddio glo yn yr haenau gael eu cyfeirio “i Weinidogion Cymru, lle mae awdurdodau cynllunio lleol yn bwriadu eu cymeradwyo”.

Atgyfnerthwyd y moratoriwm hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn ei datganiad ar ynni ar 6 Rhagfyr 2016, a oedd yn cynnwys y canlynol:

Byddaf yn parhau â’n hymagwedd ragofalus at weithgarwch nwy anghonfensiynol, gan gynnwys gwrthwynebu ffracio.

Fodd bynnag, er gwaethaf y moratoriwm yng Nghymru, mae erthygl ddiweddar gan y BBC yn nodi bod rhai grwpiau wedi dadlau nad oes gan Lywodraeth Cymru’r pŵer i atal ffracio, ac mae eraill wedi codi pryderon y gallai Gweinidogion wynebu heriau cyfreithiol.

Datblygiadau deddfwriaethol o ran ffracio yng Nghymru

O dan Ddeddf Cymru 2017, bydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Gweinidogion Cymru bwerau mewn perthynas â phetrolewm. Yn bwysig, diffinnir “petrolewm” yn adran 1 o Ddeddf Petrolewm 1998 i gynnwys nwy naturiol sydd yn ei gyflwr naturiol yn y strata (megis nwy siâl).

Yn gyffredinol fel gadwyd pwerau ynghylch nwy eu cadw gan Senedd y DU o dan Ddeddf Cymru 2017 (gweler mater 97), ond mae tri eithriad i fater 97 sy’n berthnasol i betrolewm. Golyga hyn y bydd gan y Cynulliad bwerau mewn perthynas â’r eithriadau hynny. Er enghraifft, o dan yr eithriad cyntaf, bydd gan y Cynulliad bwerau mewn perthynas â chaniatáu a rheoleiddio trwyddedau i durio am betroliwm a’i echdynnu (fel y nodwyd uchod, mae hyn yn cynnwys nwy naturiol sydd yn ei gyflwr naturiol yn y strata). Mae’r ddau eithriad arall yn rhoi pwerau pellach i’r Cynulliad mewn perthynas â phetrolewm, yn ymwneud â phethau fel mynediad i dir i chwilio am betrolewm a gwaith turio a allai rwystro mordwyaeth.

Hefyd, mae Deddf Cymru 2017 yn rhoi pwerau gweithredol i Weinidogion Cymru. Mae adrannau 23 a 25 o Ddeddf Cymru 2017 yn trosglwyddo pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â thrwyddedu petrolewm ar y tir a’r hawl i ddefnyddio tir ar lefel ddwfn yng Nghymru er mwyn manteisio ar betrolewm ar y tir.

Y sefyllfa yn yr Alban

Mae ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth yr Alban yn dangos cefnogaeth gyhoeddus lethol dros waharddiad ffracio. Ar y cyfan, roedd tua 99% o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn gwrthwynebu ffracio, gyda llai nag 1% o blaid. Ar 3 Hydref 2017, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban na fydd yn cefnogi datblygu olew a nwy anghonfensiynol yn yr Alban. Mae Prif Gynllunydd yr Alban wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio i egluro y bydd Cyfarwyddyd 2015, a roddodd effaith ar y moratoriwm, yn parhau:

The Scottish Government will continue to use planning powers to give effect to this policy. The Town and Country Planning (Notification of Applications) (Unconventional Oil or Gas) (Scotland) (Number 2) Direction 2015, which gave effect to the moratorium on unconventional oil and gas, will continue to remain in force.


Erthygl gan Dr Wendy Dodds, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Gareth Howells, Gwasanaethau Cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell (Ffugir 1): gwefan Llywodraeth yr Alban

Llun o Flickr gan Vertigogen. Dan drwydded Creative Commons