Addysg

Recriwtio athrawon a gwaith athrawon cyflenwi yng Nghymru

Mae'r erthygl hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndirol cyn y datganiad gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ar recriwtio athrawon, a ddisgwylir ddydd Mawrth 24 Hydref. Fodd bynnag, roedd y Datganiad Busnes ar 10 Hydref yn nodi y byddai'r datganiad yn trafod athrawon cyflenwi. Felly, rydym wedi darparu rhywfaint o wybodaeth gefndirol am y mater hwnnw hefyd.

23 Hydref 2017

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r erthygl hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndirol cyn y datganiad gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ar recriwtio athrawon, a ddisgwylir ddydd Mawrth 24 Hydref. Fodd bynnag, roedd y Datganiad Busnes ar 10 Hydref yn nodi y byddai’r datganiad yn trafod athrawon cyflenwi. Felly, rydym wedi darparu rhywfaint o wybodaeth gefndirol am y mater hwnnw hefyd.

Recriwtio athrawon

Mae pryder cynyddol ymysg rhai rhanddeiliaid ynghylch nifer yr athrawon sy’n cael eu recriwtio yng Nghymru. Ceir tabl ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) sy’n nodi nifer yr athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru yn ystod y 15 mlynedd diwethaf:

Nifer yr athrawon ysgol dan hyfforddiant mewn sefydliadau hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru fesul blwyddyn (fel ar 1 Awst 2016)

Ym mis Mehefin 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddata demograffig manylach ar addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru yn 2015/16.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal Cyfrifiad blynyddol o Ysgolion, sy’n nodi, ymhlith pethau eraill, nifer yr athrawon cymwysedig cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae data’r Cyfrifiad hwn yn nodi’r gostyngiad mewn niferoedd athrawon yng Nghymru, fel y nodir yn Nhabl 1.

Tabl 1: Nifer yr athrawon cymwysedig cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru

20072010201320162017
£26,013£25,287£24,771£24,236£23,910

Mae’n bwysig nodi bod y gostyngiad hwn mewn nifer yr athrawon yn bolisi bwriadol gan Lywodraeth Cymru, a ddaeth yn sgil yr Adolygiad o Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghymru gan yr Athro John Furlong yn 2006. Canfu’r Adolygiad hwn fod yna gor-gyflenwad o athrawon. Hefyd, bu gostyngiad mewn nifer y disgyblion yng Nghymru yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Mae Tabl 2 yn defnyddio data o wefan StatsWales i ddangos yr amrywiad mewn niferoedd disgyblion yng Nghymru.

Tabl 2: Cyfanswm nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau yng Nghymru

2006/72009/102012/132015/162016/17
£479,370£467,141£464,868£466,555£466,508

Fodd bynnag, hyd yn oed gyda’r gostyngiad mewn galw, mae ffigurau’r CGA yn dangos bod y canolfannau addysg gychwynnol i athrawon wedi methu â chyrraedd eu targedau derbyn ar gyfer 2013/14, 2014/15 a 2015/16, sef 1,630 o hyfforddeion bob blwyddyn (750 cynradd a 880 uwchradd). Mae peth tystiolaeth bod prinder athrawon penodol yn y meysydd a ganlyn:

  • darpariaeth cyfrwng Cymraeg;
  • gwyddoniaeth a mathemateg; ac
  • mewn ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig neu ardaloedd gwledig

Nododd yr Adroddiad ar Benderfyniad gan Lywodraeth Cymru ar 12 Hydref 2017 fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar dendr a chyllid ar gyfer prosiect ymchwil ar recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru.

Cymhellion ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon

Anogir graddedigion yn y DU i hyfforddi i addysgu drwy ‘gymhellion’, sef taliadau arian parod sy’n helpu i dalu costau byw wrth iddynt astudio. Yng Nghymru, ar hyn o bryd, mae gwahanol lefelau o gymhellion ar gael, gan ddibynnu ar ba bwnc y mae’r myfyriwr yn hyfforddi i’w addysgu. Ar gyfer pynciau blaenoriaeth, fel mathemateg, ffiseg, cemeg neu’r Gymraeg, mae myfyrwyr yn gymwys i gael £20,000 i hyfforddi. Mae yna raddfa symudol o gymhellion hyd at £3,000 ar gyfer hyfforddi i addysgu pynciau fel hanes, addysg grefyddol, celf, addysg gorfforol ac yn y blaen. Gall bobl heb radd hyfforddi i fod yn athrawon drwy lwybr i israddedigion, a hynny gan dderbyn y cymorth ariannol safonol sydd ar gael i bob un sy’n fyfyriwr am y tro cyntaf.

Ym mis Mawrth 2014, penodwyd yr Athro John Furlong yn Gynghorydd Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon dros Gymru. Cafodd yr Athro Furlong y dasg o wella’r sector addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru. Cyflwynodd adroddiad ym mis Mawrth 2015, a gallwch ddarllen mwy am yr adroddiad hwn mewn erthygl flaenorol. Un o argymhellion adroddiad yr Athro Furlong oed

7.Y dylai Llywodraeth Cymru gadw llygad barcut ar effaith cymhellion ariannol ar recriwtio, gan ystyried yn benodol lefelau ariannu gwahanol o’u cymharu â’r rhai sydd ar gael yn Lloegr.

Mae’r adroddiad yn mynd ymlaen i nodi:

Mae arweinwyr cyrsiau’n awgrymu bod hyn yn amharu ar eu gallu i recriwtio ymgeiswyr o’r radd flaenaf.

Mewn llythyr at y Pwyllgor dyddiedig 14 Mawrth 2017, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet y bydd Fforwm Arbenigol Addysg Gychwynnol i Athrawon, a gadeirir gan yr Athro John Furlong, yn adolygu ‘pob agwedd ar recriwtio, cadw a datblygu’ athrawon. Aeth ymlaen i nodi:

Yn ddiweddar, derbyniais adolygiad mewnol ar weithrediad cymhellion i addysgu ac rwyf wedi’i gyfeirio at y Fforwm Arbenigol Addysg Gychwynnol i Athrawon i’w ystyried. Rwyf wedi cytuno y bydd y cynllun cymhellion ariannol Addysg Gychwynnol i Athrawon presennol yn parhau yn 17/18. Bydd y Fforwm Arbenigol hefyd yn adolygu tystiolaeth o arferion gorau ar gyfer llwybrau gwahanol i addysgu, gan ymchwilio’n llawn i’w potensial i gefnogi, recriwtio a chadw athrawon.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon ar hyn o bryd, gan adolygu tystiolaeth ar recriwtio athrawon fel rhan o’i waith.

Athrawon cyflenwi

Mae athrawon cyflenwi wedi bod yn fater o gryn ddiddordeb i’r Cynulliad a chyrff eraill ers peth amser. Mae nifer o adroddiadau wedi trafod materion ynghylch athrawon cyflenwi:

Argymhelliad cyffredinol y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Roedd llawer o’r dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awgrymu y gellid gwella nifer o’r materion a nodwyd pe bai trefniadau rhwng cyflogwyr athrawon cyflenwi a’r cyrff sy’n gyfrifol am ddarparu addysg mewn ysgolion wedi’u cydgysylltu’n well; er enghraifft, trefniadau clwstwr a weithredir gan awdurdodau lleol neu gorff cenedlaethol. Gwnaethpwyd argymhelliad cyffredinol gan y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ddechrau cynllunio model newydd ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn mewn egwyddor ac roedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyfeiriad yr argymhelliad.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru dasglu gweinidogol ar fodelau cyflenwi ym mis Mehefin 2016. Cafodd adroddiad y tasglu [PDF 523KB] ei gyhoeddi ar 2 Chwefror 2017, gyda Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn derbyn y rhan fwyaf o’r argymhellion. Roedd yr adroddiad yn trafod amryw fodelau ar gyfer darparu athrawon cyflenwi, fel y model cyflenwi canolog sydd ar waith yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd, lle ni ellir ond defnyddio athrawon sydd ar y gofrestr ganolog i weithio mewn ysgolion a gynhelir. Fodd bynnag, canfu’r tasglu nad oes un ateb sy’n addas i bawb y gellid ei weithredu ledled Cymru ar unwaith.

Trafododd y Tasglu ddata a gyhoeddwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg, Dadansoddiad o athrawon cyflenwi cofrestredig (Saesneg yn unig, Gorffennaf 2016).

Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i adroddiad y tasglu

Mewn ymateb i’r adroddiad dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei bod hi’n cytuno bod lle amlwg i wella o ran y ffordd y caiff athrawon cyflenwi eu cyflogi a’u rheoli ar hyn o bryd. Derbyniodd Kirsty Williams y rhan fwyaf o argymhellion yr adroddiad ar y pryd. Fodd bynnag, dywedodd fod angen gwneud rhagor o waith dadansoddi manwl i nodi a yw’n bosibl gweithredu’r holl argymhellion yn gyfreithiol.

Mewn llythyr dyddiedig 27 Medi 2017 [PDF496KB] (Saesneg yn unig), rhoddodd Kirsty Williams y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am gynnydd o ran gweithredu’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor blaenorol ar waith athrawon cyflenwi. Dywedodd:

  • fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymchwilio i fodelau amgen newydd o ran gwaith athrawon cyflenwi;
  • fod y pwerau i bennu cyflog ac amodau athrawon eto i’w trosglwyddo, ac mai’r cynharaf y gellir rhoi system gyflog i athrawon ar waith yw mis Medi 2019;
  • fod manteision posibl i’r math o gynllun canolog sydd ar waith yng Ngogledd Iwerddon, ond bod y tirlun deddfwriaethol a’r cyd-destun yng Nghymru yn wahanol iawn i’r tirlun a’r cyd-destun yng Ngogledd Iwerddon pan gafodd y system yn y fan honno ei gweithredu;
  • Gofynnwyd i awdurdodau lleol fynegi diddordeb mewn trefniadau peilot, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi modelau clystyrau cyflenwi rhanbarthol. Byddai hyn yn cefnogi Athrawon Newydd Gymhwyso i gael mynediad at gyflogaeth, yn helpu ysgolion i ddiwallu eu hanghenion cyflenwi ac yn adeiladu capasiti ledled rhanbarthau. Mae un ar ddeg o awdurdodau wedi mynegi diddordeb.

Erthygl gan Sian Hughes a Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu gwella’i wefan, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn eich barn chi. A fyddech cystal â chymryd rhan yn yr  arolwg byr hwn.