Cymunedau

Credyd Cynhwysol yng Nghymru, rhan 1: dyluniad, cyflwyniad ac effaith

Dyma'r gyntaf o ddwy erthygl a fydd yn trafod Credyd Cynhwysol. Mae Rhan 1 yn ymdrin â'i ddyluniad, ei gyflwyniad, a'i effaith ar Gymru. Bydd Rhan 2 yn trafod gwahanol faterion o ran y Credyd Cynhwysol a datblygiadau diweddar.

24 Hydref 2017

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Dyma’r gyntaf o ddwy erthygl a fydd yn trafod Credyd Cynhwysol. Mae Rhan 1 yn ymdrin â’i ddyluniad, ei gyflwyniad, a’i effaith ar Gymru. Bydd Rhan 2 yn trafod gwahanol faterion o ran y Credyd Cynhwysol a datblygiadau diweddar.

Mae’n gyfnod allweddol i fudd-dal nawdd cymdeithasol newydd Llywodraeth y DU, sef y Credyd Cynhwysol. Bydd y gwaith i’w gyflwyno’n cyflymu o’r mis hwn, gyda 54 o’r 59 Canolfan Gwaith yng Nghymru yn symud i ‘wasanaeth llawn’ (sy’n golygu y bydd bron pob ymgeisydd newydd yn hawlio Credyd Cynhwysol) rhwng mis Hydref 2017 a mis Gorffennaf 2018.

Erbyn 2022, mae Cyngor ar Bopeth yn amcangyfrif y bydd tua 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn derbyn Credyd Cynhwysol. Ym mis Mehefin 2017, roedd 21,500 o aelwydydd yn hawlio’r budd-dal, sy’n golygu cyflwyniad o 5% yn unig yng Nghymru.

Beth yw’r Credyd Cynhwysol?

Mae’r Credyd Cynhwysol yn fudd-dal nawdd cymdeithasol newydd sy’n cael ei gyflwyno’n raddol ledled y DU. Mae’n disodli chwe budd-dal prawf a chredydau treth ar gyfer pobl oedran gweithio a theuluoedd, sef:

  • Budd-dal Tai;
  • Credydau Treth Gwaith;
  • Credyd Treth Plant;
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymhorthdal Incwm

Nid yw budd-daliadau eraill megis Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)/Taliad Annibyniaeth Personol (TAP), Budd-dal Plant a Lwfans Gofalwyr yn cael eu disodli gan y Credyd Cynhwysol.

Pam mae’n cael ei gyflwyno?

Bwriad y Credyd Cynhwysol yw symleiddio’r system fudd-daliadau trwy ddisodli chwe budd-dal ag un taliad misol syml a delir yn uniongyrchol i hawlwyr p’un ai a ydynt yn gweithio ai peidio.

Nid oes cyfyngiad ar nifer yr oriau y gall hawlwyr eu gweithio bob wythnos, ond bydd eu taliad yn gostwng yn raddol wrth iddynt ennill mwy. Y nod yw sicrhau nad yw’n well ar neb hawlio budd-daliadau yn lle gweithio.

O dan yr hen drefn, byddai llawer yn wynebu ‘min dibyn’, wrth i bobl ag incwm isel golli eu budd-daliadau ar unwaith cyn gynted ag y byddent yn gweithio mwy na 16 awr. Yn y system newydd, mae taliadau Credyd Cynhwysol yn gostwng ar gyfradd gyson wrth i incwm ac enillion godi – am bob £1 ychwanegol y mae hawlydd yn ei hennill ar ôl treth, bydd yn colli 63c o’i fudd-daliadau. Mae’r enghraifft isod yn dangos sut mae enillion yn effeithio ar daliad Credyd Cyffredinol:

Cytunodd pobl ar draws y sbectrwm gwleidyddol fod angen symleiddio’r system fudd-daliadau, ond mae newidiadau i drefn a haelioni Credyd Cynhwysol ers y cychwyn wedi ennyn beirniadaeth bod mesurau arbed costau a methiannau gweinyddol yn tanseilio’r egwyddor.

Y Credyd Cynhwysol yw craidd rhaglen ddiwygio lles Lywodraeth y DU, sydd â’r nod o arbed £18 biliwn dros bedair blynedd (o 2010).

Pryd y caiff ei gyflwyno yng Nghymru?

Dechreuwyd cyflwyno’r cynllun newydd yn 2013 a’r disgwyl oedd i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn Hydref 2017. Arweiniodd problemau TG a gweinyddol at oediadau olynol, a’r disgwyl erbyn hyn yw y caiff ei gwblhau erbyn 2022, gyda chyflwyniad cyflym o fis Hydref 2017.

Mae’n bosibl y bydd pobl sy’n gwneud hawliadau newydd, neu sydd eisoes yn hawlio budd-daliadau ond y mae eu hamgylchiadau yn newid, yn gorfod hawlio Credyd Cynhwysol cyn Medi 2018.

Yn yr ardaloedd lle mae ‘gwasanaeth llawn‘, gall hawlwyr o bron pob math hawlio Credyd Cynhwysol. Yn yr ardaloedd ‘gwasanaeth byw‘, rhai mathau o hawlwyr (fel pobl sengl, ddi-waith) a all hawlio Credyd Cynhwysol.

Erbyn mis Mawrth 2016, roedd pob Canolfan Waith yng Nghymru yn ‘wasanaeth byw’. Yn raddol, mae ardaloedd gwasanaeth llawn yn disodli ardaloedd gwasanaeth byw, ac mae Llywodraeth y DU yn disgwyl y bydd ‘gwasanaeth llawn’ drwy’r DU benbaladr erbyn mis Medi 2018.

Ar ôl cwblhau’r gwaith i gyflwyno’r gwasanaeth llawn ar gyfer hawliadau newydd, symudir hawlwyr budd-daliadau presennol nad yw eu hamgylchiadau wedi newid i’r Credyd Cynhwysol rywbryd rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mawrth 2022. Mae gwirydd cod post i weld a yw’r Credyd Cynhwysol ar gael mewn ardal benodol.

Sut y bydd yn effeithio ar bobl ar fudd-daliadau?

Mae anodd barnu effaith wirioneddol y Credyd Cynhwysol am fod dyluniad y budd-dal wedi newid yn sylweddol ers i’r Adran Gwaith a Phensiynau gyhoeddi ei hasesiad effaith gwreiddiol yn 2012. Y llynedd, pan ofynnwyd a gâi’r asesiad ei ddiweddaru, nododdi Llywodraeth y DU “whilst there have been changes to Universal Credit since the impact assessment in 2012, these have not fundamentally altered the service.”

Mae’r Credyd Cynhwysol yn debygol o arwain at enillion a cholledion yn dibynnu ar amgylchiadau’r hawlwyr. Yn 2016, dyma a ddywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (IFS) ar gyfer y DU:

  • Introducing UC will cut annual benefit spending by £2.7 billion in total – this is on top of other benefit cuts (such as the four-year freeze to most benefit rates). Pan gynigiwyd y Credyd Cynhwysol gyntaf, y bwriad oedd iddo fod yn fwy hael na’r system gyfredol, ond gwrthdrowyd hyn gan doriadau i faint y caiff derbynwyr y budd-dal ei ennill cyn i’w budd-daliadau ddechrau gostwng.
  • O’r aelwydydd sy’n gweithio, bydd budd-daliadau 2.1 miliwn ohonynt yn llai o ganlyniad i’r Credyd Cynhwysol (colled cyfartalog o £1,600 y flwyddyn) a chaiff 1.8 miliwn ohonynt fwy (cynnydd cyfartalog o £1,500). O’r 4.1 miliwn aelwyd oedran gweithio â neb yn ennill cyflog, bydd 1.1 miliwn yn cael llai (colled cyfartalog o £2,300 y flwyddyn) a bydd 0.5 miliwn yn cael mwy (cynnydd cyfartalog o £1,000 y flwyddyn).
  • Bydd rhieni unigol sy’n gweithio a chyplau â dau incwm yn debygol o weld gostyngiad, ac mae cyplau ag un incwm a phlant yn debygol o weld cynnydd. O’r rhai sydd ar hyn o bryd yn derbyn un o’r budd-daliadau sy’n cael eu disodli gan y Credyd Cynhwysol, byddai rhieni unigol sy’n gweithio ar eu colled o £1,000 y flwyddyn ar gyfartaledd yn y tymor hir pe bai’r system Credyd Cynhwysol yn weithredol yn awr, ond byddai cyplau ag un incwm a phlant ar eu hennill o dros £500 y flwyddyn ar gyfartaledd.
  • Mae perchen-feddiannwyr a’r rhai sydd ag asedau neu incwm nas enillwyd yn debygol o fod ar eu colled, ond mae rhentwyr sy’n gweithio yn debygol o fod ar eu hennill.

Yr effaith yng Nghymru

Mae’n debygol y bydd Credyd Cynhwysol yn effeithio’n sylweddol ar Gymru o’i gyflwyno’n llawn, gan fod yma fwy o bobl mewn oedran gweithio sy’n dibynnu ar fudd-daliadau nawdd cymdeithasol o gymharu â Lloegr a’r Alban.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, yng Nghymru:

  • Mae 216,000 o bobl (11.3% o’r boblogaeth oedran gweithio) yn hawlio rhyw fath o fudd-daliadau diweithdra, yn cynnwys Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Cymhorthdal ​​Incwm a Chredyd Pensiwn (o fis Tachwedd 2016);
  • Derbyniodd 223,000 o aelwydydd gredydau treth yn 2015-16: roedd 155,000 yn gweithio, a 68,000 yn ddi-waith;
  • Roedd 233,272 o bobl wedi hawlio Budd-dal Tai (o fis Mai 2017).

Mae’n werth nodi y bydd llawer o’r bobl hyn yn hawlio cyfuniad o’r budd-daliadau hyn.

Nid oes asesiad cyfredol o effaith gyffredinol y Credyd Cynhwysol ar Gymru. Ystyriodd asesiadau effaith diwygio lles (2012-15) Llywodraeth Cymru y diwygiadau eraill i fudd-daliadau ac effaith newidiadau unigol i ddyluniad y Credyd Cynhwysol, ond nid yr effaith gyffredinol o’i gyflwyno.

Mae Cyngor ar Bopeth wedi amcangyfrif nifer yr aelwydydd sy’n debygol o fod yn hawlio Credyd Cynhwysol erbyn 2022 trwy ddadansoddi rhagamcaniadau’r DWP a chyfraddau derbyn budd-daliadau. Mae ei ddadansoddiad, a rannwyd â’r Gwasanaeth Ymchwil, yn dangos bod mwy na 400,000 o aelwydydd yng Nghymru yn debygol o fod ar Gredyd Cynhwysol erbyn 2022. Dangosir yr amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd etholaethol ar y map isod:


Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell: Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin
Ffynhonnell: StatsCymru Mae’r budd-daliadau yn cynnwys: Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Cymhorthdal ​​Incwm, Credyd Pensiwn
Ffynhonnell: Ystadegau Cyngor ar Bopeth a gafwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu gwella’i wefan, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn eich barn chi. A fyddech cystal â chymryd rhan yn yr  arolwg byr hwn.