Y trafodaethau rhwng yr UE a’r DU - y sefyllfa bresennol a’r camau nesaf

Cyhoeddwyd 31/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 20 Hydref daeth y Cyngor Ewropeaidd i’r casgliad nad oes digon o gynnydd wedi'i wneud yn ystod cam cyntaf y trafodaethau ar ymadawiad y DU â'r UE i ganiatáu i drafodaethau ddechrau ynghylch y trefniadau trosiannol posibl a'r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. Roedd Llywodraeth y DU wedi gobeithio y byddai'r Cyngor yn cytuno i ddechrau trafod y ddau fater hyn yn ei gyfarfod ym mis Hydref.

Yn hytrach, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd yn ailasesu a oes cynnydd digonol wedi'i wneud, a hynny yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr, gan baratoi’r ffordd ar gyfer dau fis arall o drafodaethau rhwng y DU a'r UE ar dri blaenoriaeth ymadael allweddol y Cyngor - hawliau dinasyddion, ffin Gorllewin Iwerddon a'r setliad ariannol.

Safbwynt Brwsel

Wrth ddod i’w gasgliad, dywedodd y Cyngor Ewropeaidd ei fod yn croesawu’r cynnydd a wnaed hyd yma yn y trafodaethau ond bod angen rhagor o waith a rhagor o gynnydd mewn perthynas â phob un o'i tair blaenoriaeth. Yn benodol, gofynnodd i Lywodraeth y DU egluro pa 'ymrwymiadau ariannol' y byddai’n eu hanrhydeddu.

Wrth siarad ar ddiwedd cyfarfod y Cyngor, dywedodd Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, fod yr adroddiadau am yr anghytundeb rhwng yr UE a'r DU wedi'u gorliwio ac, er bod y Cyngor wedi dod i'r casgliad nad oedd y cynnydd yn ddigonol, nid oedd y Cyngor o’r farn na wnaed unrhyw gynnydd o gwbl. Cadarnhaodd y byddai'r Cyngor yn dechrau trafodaethau paratoadol mewnol mewn perthynas â'r fframwaith ar gyfer y berthynas yn y dyfodol ac ar gytundebau trosiannol gan obeithio symud ymlaen i ail gam y trafodaethau ym mis Rhagfyr.

Safbwynt Cymru

Cyn i’r Cyngor gyfarfod ar 20 Hydref, aeth dirprwyaeth o Bwyllgor Materion Allanol y Cynulliad i Frwsel ar 16 Hydref i gwrdd â Michel Barnier, prif negodwr yr UE. Trafododd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed hyd yma ynghyd â gwaith y Pwyllgor o ystyried sut y bydd penderfyniad y DU i adael yr UE yn effeithio ar Gymru. Cyfarfu'r Pwyllgor hefyd ag Aelodau Senedd Ewrop, cynrychiolwyr rhanbarthau eraill Ewrop a Chynrychiolydd Parhaol y DU. Rhannodd y Pwyllgor gasgliadau o'i waith hyd yma gan danlinellu’r gwahaniaeth rhwng Cymru a’r DU o ran eu blaenoriaethau a’r modd y bydd y penderfyniad i adael yr UE yn effeithio ar y ddwy wlad.

Mewn datganiad i'r Cynulliad ar 24 Hydref, rhoddodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, fraslun o’r cynnydd a wnaed, yn ei olwg ef. Er nad oedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o’r gwaith o baratoi papurau sefyllfa allweddol Llywodraeth y DU hyd yma, meddai, roedd:

... wedi’i sicrhau y byddai’n cyfrannu’n llawnach at y gwaith o ddatblygu safbwyntiau polisi pan fydd y trafodaethau’n symud i ail gam y trafodaethau ar fanylion ein perthynas â’r UE yn y dyfodol.

Roedd y Prif Weinidog o’r farn nad yw Llywodraeth y DU, hyd yma, wedi egluro’n ddigonol sut y bydd yn diogelu hawliau gwladolion yr UE yn y DU na sut y bydd yn datrys y problemau cymhleth yn ymwneud â’r ffin rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. Mynegodd drachefn farn Llywodraeth Cymru y dylai'r DU aros yn rhan o’r undeb tollau a dywedodd nad yw 'Llywodraeth y DU wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth' i Lywodraeth Cymru am unrhyw fuddion economaidd i Gymru pe bai’r DU yn gadael yr undeb tollau. Galwodd ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu’r ymrwymiadau y mae'r DU wedi'u gwneud fel Aelod-wladwriaeth a mynegodd drachefn ei farn ei bod yn gwbl amhosibl ystyried peidio â dod i gytundeb o ryw fath.

Safbwynt Llywodraeth y DU

Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad i Dŷ'r Cyffredin ar ganlyniad cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ar 23 Hydref. Croesawodd y Prif Weinidog benderfyniad y Cyngor i ddechrau trafodaethau paratoadol mewnol ar y berthynas rhyngddynt yn y dyfodol a dywedodd ei bod hi'n hyderus y byddent yn dod i gytundeb cyn i'r DU adael yr UE ar 29 Mawrth 2019. Mewn perthynas â hawliau dinasyddion, roeddent o fewn trwch blewyn i ddod i gytundeb, ym marn y Prif Weinidog, ac roedd cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran Gogledd Iwerddon. Dywedodd eto y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio sicrhau cyfnod gweithredu neu drosiannol o oddeutu dwy flynedd rhwng y dyddiad y bydd y DU yn gadael yr UE a dechrau’r berthynas newydd rhyngddynt.

Y camau nesaf

Bydd y Cyngor Ewropeaidd yn cyfarfod eto ar 14-15 Rhagfyr pan fydd yn ailasesu'r cynnydd a wnaed yn ystod cam un o’r trafodaethau ac yn penderfynu a ydynt am ddechrau trafod cytundeb trosiannol ac unrhyw berthynas newydd. Disgwylir rhagor o drafodaethau rhwng y DU a’r UE ar faterion cam un cyn hynny.

Mae Pwyllgor Materion Allanol y Cynulliad yn canolbwyntio ar y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig ar hyn o bryd i sectorau gwahanol yng Nghymru i'w helpu i baratoi ar gyfer gwahanol y sefyllfaoedd a’r canlyniadau posibl a all godi o’r trafodaethau. Bydd y Cynulliad yn cynnal sesiynau tystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a Phrif Weinidog Cymru ym mis Tachwedd.


Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru