Y Cynulliad i drafod adroddiad pwyllgor ar reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Cyhoeddwyd 03/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ym mis Rhagfyr 2016 lansiodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei ymchwiliad i reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru a goblygiadau posibl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad yr ymchwiliad 'Y Llanw’n Troi. Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig ' yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Tachwedd.

Mae moroedd Cymru yn ffurfio dros hanner ardal Cymru. Safleoedd cadwraeth yn yr amgylchedd morol ac arfordirol yw Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPA). Fe'u lluniwyd i ddiogelu nodweddion penodol (rhywogaethau a chynefinoedd) trwy reoli gweithgareddau dynol sy'n digwydd o fewn y safle. Yn ôl Llywodraeth Cymru mae 132 o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, sy'n cyfateb i 69 y cant o foroedd Cymru (gweler Ffigur 1 isod). Mae'r rhain yn cynnwys safleoedd fel Parth Cadwraeth Morol Skomer yn Sir Benfro sydd wedi bod yn MPA mewn rhyw ffurf ers dros 25 mlynedd. Mae pob MPA yng Nghymru yn aml-ddefnydd, sy'n golygu bod y rhan fwyaf o weithgareddau'n digwydd fel arfer. Dim ond gweithgareddau sy'n debygol o achosi dirywiad neu aflonyddwch i nodweddion yr MPA sydd angen eu rheoli.

Ffigur 1: Mathau o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru Map yn dangos y Mathau o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor fod y cyfrifoldeb am reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn cael ei rannu gan nifer o wahanol sefydliadau yn genedlaethol ac yn lleol, gyda Gweinidogion Cymru â chyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau rheolaeth effeithiol. Mae fframwaith polisi deddfwriaethol cymhleth yn ymwneud ag Ardaloedd Morol Gwarchodedig, gyda llawer math o ddynodiadau ar waith, ynghyd â chymysgedd o fesurau gwirfoddol a statudol yn rheoli gwahanol weithgareddau. Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru mai diben cyffredinol rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yw sicrhau a chynnal cyflwr ffafriol nodweddion a safleoedd yr Ardaloedd hynny.

Dywedodd nifer o dystion wrth y Pwyllgor nad oedd dynodiad Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru, o’u profiad hwy, wedi arwain at warchod neu reoli, mewn sawl achos, a mynegwyd pryderon ynghylch goruchwylio a gorfodi. Teimlwyd bod y sefyllfa hon yn cyfrannu at ddirywiad yng nghyflwr Ardaloedd Morol Gwarchodedig, gyda llawer ohonynt heb fod â Statws Cadwraeth Ffafriol (FCS), fel sy'n ofynnol gan y Cyfarwyddebau Natur Ewropeaidd. Nododd tystion brofiadau gwahanol o ymgysylltu â llu o grwpiau rhanddeiliaid morol Llywodraeth Cymru. Er bod rhai'n nodi bod gwelliannau wedi'u gwneud, tynnodd eraill sylw at ddiffyg tryloywder a nodwyd bod perygl i'r nifer helaeth o grwpiau gynhyrchu gweithgarwch sy’n tynnu sylw oddi wrth y gwaith rheoli go iawn ar lawr gwlad. Mynegwyd pryderon ynghylch effeithiau posibl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Nodwyd bod mwyafrif Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru wedi'u dynodi o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd h.y. fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig neu Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig. Fel y cyfryw, canfuwyd fod y posibilrwydd o golli adroddiadau am gyflwr, a gorfodaeth yn ymwneud ag ymrwymiadau Ewropeaidd yn bryder i nifer o randdeiliaid, ynghyd ag awydd cryf i beidio â cholli amddiffyniad ar gyfer Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Teimlai rhai fod adeg gadael yr Undeb Ewropeaidd yn amser addas i Gymru edrych ar ei threfniadau presennol o ran Ardaloedd Morol Gwarchodedig, gyda'r bwriad o weld a ellid cysoni agweddau ar ddynodi a rheoli.

Pennu llwybr newydd: Canfyddiadau'r Pwyllgor

Daeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i'r casgliad bod yn rhaid i Gymru gael gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer gwarchod moroedd Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru roi mwy o flaenoriaeth i reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig, a chynnig rhagor o arweinyddiaeth yn y maes, "fel mater o frys". Er mwyn rheoli'n effeithiol a sicrhau bod yr holl awdurdodau rheoli'n cael eu cynnwys yn llawn, galwodd y Pwyllgor am ddatblygu strategaeth MPA. Ymysg ei argymhellion eraill, galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i:

  • sicrhau bod digon o adnoddau ar gael o fewn Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cadwraeth natur morol, ac i gyflwyno cynigion ar gyfer dull sy’n seiliedig ar ardaloedd, er enghraifft, cyflwyno nifer o ardaloedd rheoli gyda swyddog penodedig yr un;
  • bod yn fwy tryloyw ac effeithlon yn y modd y mae'n gweithio gyda grwpiau rhanddeiliaid;
  • mynd i’r afael â bylchau mewn data a thystiolaeth trwy sefydlu partneriaeth gwyddor môr Cymru i ddod â diwydiant, y byd academaidd a rhanddeiliaid at ei gilydd; a
  • mynd i'r afael â dealltwriaeth gyfyngedig y cyhoedd o ddiben a manteision Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru trwy ddatblygu strategaeth ymgysylltu.

O ran gadael yr Undeb Ewropeaidd, gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion. Roedd y rhain yn cynnwys cael ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i beidio â cholli amddiffyniad o dan drefniadau'r dyfodol ac i gael ffordd newydd, fforddiadwy o gael mynediad at gyfiawnder amgylcheddol i orfodi amddiffyniad morol (yn unol â Chonfensiwn Aarhus). Llun o draeth gyda thonnau'n dod i mewn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 3 Hydref 2017. Derbyniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig y mwyafrif o 12 argymhelliad yr adroddiad, tra derbyniwyd tri 'o ran egwyddor' a gwrthodwyd un. Mae'r ymateb yn nodi bod "Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i rwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig a reolir yn effeithiol sy'n darparu'r ystod lawn o fanteision ecolegol a chymdeithasol".

Mae'n nodi y bydd yn parhau i ddarparu arweinyddiaeth trwy’r Grŵp Llywio ar Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig a bod Cynllun Gweithredu ar Flaenoriaethau Rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn cael ei gwblhau ac y byddai'n cael ei ddefnyddio o fis Ebrill 2018.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn tynnu sylw at y ffaith bod "cyllidebau adrannol yn parhau i fod yn dynn iawn ond bydd[af] yn parhau i adolygu hyn" ac y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru "yn parhau i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o fewn ei ddyraniad cyllid". O ran cyflwyno adroddiadau am gyflwr a statws safleoedd MPA, dywed y bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd bob chwe blynedd ar gyflwr Rhwydwaith MPA Cymru. O ran ymwybyddiaeth y cyhoedd o Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru, mae'n nodi bod ymgyrch Blwyddyn y Môr 2018 yn "gyfle gwych i hyrwyddo gwerth ein Hardaloedd Morol Gwarchodedig". Yn Argymhelliad 12, gofynnodd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru esbonio sut y byddai'n mynd i'r afael ag unrhyw ddiffyg posibl mewn cyllid ar gyfer gwaith MPA a ddarperir ar hyn o bryd gan Ewrop. Gwrthodwyd hyn, gyda'r ymateb yn datgan, "Nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw esbonio'r hyn y bydd yn ei wneud i ddisodli’r arian a gollir o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd".

Ar ôl ystyried yr ymateb hwn, mae Cadeirydd y Pwyllgor wedyn wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r llythyr yn nodi nad oedd y Pwyllgor yn teimlo bod ei hymateb yn mynd i'r afael yn ddigonol â phryderon rhanddeiliaid nac yn mynd i'r afael â'r argymhellion yn llawn, er eu bod yn croesawu ei hymateb. Felly, mae wedi gofyn am ragor o wybodaeth ac eglurhad. Cafodd y Pwyllgor ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 2 Tachwedd.


Erthygl gan Dr Wendy Dodds, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffynhonnell ffigur 1: Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru