Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd Plant Cymru

Cyhoeddwyd 06/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Tachwedd 2017, bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod Adroddiad Blynyddol diweddaraf (2016-17) Comisiynydd Plant Cymru.

Mae'r ddadl hon yn gyfle i Aelodau'r Cynulliad drafod yr hyn y mae'r Comisiynydd wedi'i nodi fel y materion a'r heriau diweddaraf sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Byddant hefyd yn clywed beth yw ymateb Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca-Davies. Disgwylir i ymateb Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi yn dilyn y ddadl. Y mis diwethaf, clywodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad gan y Comisiynydd yn uniongyrchol am y materion sydd wedi’u cynnwys yn ei hadroddiad. Gallwch weld yr hyn a drafodwyd ar Senedd TV yma.

Hawliau plant a phobl ifanc oedd testun cyfarfod diweddaraf y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2017 yng Nghanolfan Pobl Ifanc Cwmbrân. Gallwch wylio'r sesiwn ar Senedd TV yma.

Y Comisiynydd a'i rôlComisiynydd Plant Cymru

Sally Holland yw'r trydydd person i ymgymryd â rôl y Comisiynydd Plant, gan ddechrau yn y swydd ym mis Ebrill 2015. Prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau yw diogelu a hybu hawliau a lles plant, a thalu sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) ym mhopeth y mae'r Comisiynydd a'i thîm yn ei wneud. Mae blogs y Gwasanaeth Ymchwil Hawliau plant yng Nghymru: y diweddaraf 2016 a Rhoi sylw dyledus? I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ei chyfrifoldebau o ddifrif o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhoi manylion pellach am y Confensiwn a'r sefyllfa yng Nghymru.

Gall y Comisiynydd

  • Adolygu effeithiau polisïau, polisïau arfaethedig a'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu;
  • Archwilio achos plentyn neu blant penodol os yw'n ymwneud â mater sy'n fwy perthnasol yn gyffredinol i fywydau plant yng Nghymru;
  • Ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau, neu bersonau sy'n gweithredu ar ei rhan, roi gwybodaeth ac i dystion roi tystiolaeth ar eu llw;
  • Rhoi cyngor a chymorth i blant a phobl ifanc, ac eraill;
  • Ystyried sylwadau a'u cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch unrhyw fater sy'n effeithio ar hawliau a lles plant yng Nghymru.

Mae cylch gorchwyl y Comisiynydd yn cwmpasu pob maes o ran pwerau datganoledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n berthnasol i hawliau a lles plant. Mae ei chylch gorchwyl yn cynnwys plant a phobl ifanc hyd at 18 oed sy'n byw yng Nghymru, neu sydd fel arfer yn byw yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys pobl ifanc hyd at 25 oed os ydynt wedi 'derbyn gofal' yn y gorffennol. Mae ei swyddfa yn gwneud gwaith achos uniongyrchol ar ran plant a phobl ifanc.

Ar beth y mae’r Adroddiad Blynyddol diweddaraf yn canolbwyntio?

Mae'r adroddiad yn cynnwys ystod eang o faterion sy'n aml yn codi mewn dadleuon ynghylch gwasanaethau i blant a phobl ifanc, fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, Gofal Preswyl, Teithio gan Ddysgwyr ac Addysg Gartref Ddewisol. Fodd bynnag, teitl yr adroddiad yw 'Blwyddyn o Newid' ac mae'r Comisiynydd yn rhoi cyd-destun i'r drafodaeth bolisi bresennol trwy ddweud 'Mae penawdau'r newyddion eleni wedi bod yn llawn Brexit, etholiadau a chweryla blynyddol'. Aiff yn ei blaen i ddweud:

Dydw i ddim yn credu byddai dweud bod eleni wedi bod yn flwyddyn o newid yn ddigonol. Fwy na thebyg byddai blwyddyn na welwyd ei thebyg yn well disgrifiad.

Mater a gafodd sylw'r cyfryngau pan lansiwyd yr adroddiad ar 9 Hydref 2017 oedd cynnig 'gofal plant' newydd Llywodraeth Cymru o 30 awr i rieni plant tair a phedair oed ledled Cymru am 48 wythnos y flwyddyn os ydynt yn rhieni sy'n gweithio. Dywed y Comisiynydd ei bod yn 'pryderu y gallai eithrio plant o aelwydydd lle nad oes gwaith estyn y bwlch ymhellach rhwng y grŵp hwn a'r rhai y mae eu rhieni'n gweithio, o ran parodrwydd i fynd i'r ysgol' ac mae'n argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau trwy beilot y cynnig gofal plant ac unrhyw gynllun dilynol nad yw plant rhieni sydd ddim yn gweithio yn colli cyfle o ystyried y gofal plant cynyddol sy'n cael ei gynnig i blant rhieni sy'n gweithio.

Roedd sylw'r wasg ar y pryd yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru a bydd dadl dydd Mawrth yn gyfle pellach i'w drafod.

Mae’r ddadl wedi'i threfnu ar gyfer 17.20 pm dydd Mawrth 7 Tachwedd a gellir ei gwylio'n ar Senedd TV yma.


Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru