PIGION

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2016-17

13 Tachwedd 2017

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar ddydd Mawrth 14 Tachwedd 2017, cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg.

Mae’r adroddiad statudol yn rhoi gwybodaeth a manylion am waith y Comisiynydd a’i staff ac adolygiad o’r materion sy’n berthnasol i’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn adrodd.

Yn ddiweddar, ymddangosodd y Comisiynydd gerbron y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i drafod yr adroddiad.

Barn y Comisiynydd

Yn ei Rhagair i’r adroddiad, dywed y Comisiynydd yn ystod yr amser y bu yn y swydd:

…bod y drafodaeth gyhoeddus am y Gymraeg wedi newid. Bellach nid ‘pam’ yw’r cwestiwn a ofynnir wrth drafod cynyddu defnydd o’r iaith, ond ‘sut’.

Mae’r Comisiynydd o’r farn bod yna ‘awydd’ bellach ymhlith sefydliadau sy’n destun y Safonau i gydymffurfio â’r dyletswyddau newydd, a bod targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi helpu gyda’r sgwrs hon. Serch hynny, mae’r Comisiynydd yn nodi bod angen i ddeddfwriaeth esblygu a datblygu, gan adeiladu ar y strwythurau sydd eisoes ar waith.

Hawliau Newydd i Siaradwyr Cymraeg

Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2015-2016, daeth hawliau newydd i ddefnyddio’r Gymraeg i rym trwy’r broses o osod safonau ar Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol. Dyma Adroddiad Blynyddol cyntaf y Comisiynydd sy’n adrodd yn llawn ar weithrediad y Safonau.

Yn ystod y flwyddyn adrodd, cafodd Safonau eu gosod ar 52 o fudiadau ychwanegol, gan gynnwys Estyn, yr Heddluoedd, Awdurdodau Tân a’r BBC.

Er gwaethaf cynnydd o ran gosod Safonau, mae rhai sefydliadau cyhoeddus mawr yng Nghymru yn parhau i fod y tu allan i’r gyfundrefn Safonau. O’r 78 sefydliad sy’n gweithredu Safonau ar hyn o bryd, nid yw sefydliadau iechyd yn eu mysg.

Mae’r Comisiynydd yn nodi yn y ‘bydd hawliau’r cyhoedd i ddefnyddio’r iaith yn cryfhau’n sylweddol pan gaiff safonau eu gosod ar y sefydliadau iechyd’. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau ar gyfer safonau i’r sector hwn eto. Awgrymodd y Comisiynydd, mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor, fod yna rwystredigaeth gynyddol gyda’r oedi, gan achosi problemau ar y rheng flaen:

Erbyn hyn, mae hynny’n creu problemau ar lawr gwlad oherwydd y mae gofal cymdeithasol yn gweithredu erbyn hyn, ers blwyddyn a hanner, o fewn safonau. Mae’r sector iechyd, sydd yn bartner agos iawn i ofal cymdeithasol, yn gweithio o fewn cyfundrefnau eraill. Rwy’n clywed, wrth fy mod i’n mynd o gwmpas ac yn siarad â phenaethiaid, fod yna rwystredigaeth bod yna ddwy gyfundrefn.

Papur Gwyn – Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

Dywedodd y Comisiynydd yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fod elfennau o Fesur y Gymraeg yn fiwrocrataidd ac yn feichus, sy’n cael eu rheoli gan broses yn hytrach nag allbwn. Fodd bynnag, rhybuddiodd y Comisiynydd fod yna risgiau wrth wneud newidiadau strwythurol sylfaenol pan fo’r strwythurau presennol megis cychwyn:

[Mae’n] ddyddiau cynnar iawn…prin chwe blynedd oddi ar sefydlu swyddfa’r comisiynydd a gweithredu’r ddeddfwriaeth…Pe bai unrhyw newid sylfaenol, strwythurol, mae yna berig y buasem ni’n gweld arafu ar y broses, ansicrwydd ymysg sefydliadau, ansicrwydd ymysg y cyhoedd ynglŷn â beth sy’n digwydd.

Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Fil newydd y Gymraeg newydd ddod i ben. Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad cryno o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn y dyfodol agos.

Ymdrin â chwynion

Ar hyn o bryd, mae’r Comisiynydd yn cynnal dwy weithdrefn gwyno ochr yn ochr yn ymwneud â’r Gymraeg. Mae un system yn cael ei llywodraethu gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, tra bod y llall yn cael ei llywodraethu gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Daeth cyfanswm o 263 o gwynion i law yn ystod y cyfnod adrodd. O’r cwynion hyn, cyflwynwyd 112 dan weithdrefn Deddf 1993, a chyflwynwyd 151 o dan y weithdrefn Safonau.

Yn ystod y gwaith o graffu ar adroddiad y Comisiynydd, cyfeiriodd Aelod o’r Pwyllgor at beth rhwystredigaeth ymhlith awdurdodau lleol ynghylch natur ‘hirwyntog’ y broses gwynion. Dywedodd y Comisiynydd nad yw’r ddeddfwriaeth yn darparu ar hyn o bryd ar gyfer llwybr i ‘ddatrysiadau buan’. Fodd bynnag, dywedodd y Comisiynydd hefyd:

Rŷm ni wedi gweithredu’r broses gwynion yma nawr am gyfnod o 18 mis, o dan y ddeddfwriaeth yn llawn, ac, o edrych ar y data ddoe, 43 y cant o’r cwynion sydd yn cyrraedd ein sefydliad ni sy’n arwain at ymchwiliad.

Dyraniad cyllid

Dyrannodd Gweinidogion Cymru £3.051 miliwn i Gomisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2016-17. Alldro’r Comisiynydd, hynny yw y swm a wariwyd yn ystod y flwyddyn ariannol, oedd £3.065 miliwn.

Nododd y Comisiynydd yn ei hadroddiad y byddai unrhyw doriadau ychwanegol i’w chyllideb yn y dyfodol yn ‘heriol iawn’, ac o safbwynt ymarferol, y gallai hynny olygu y byddai peth gwaith anstatudol yn dod i ben. Mae’r cyllid sydd wedi’i ddyrannu i’r Comisiynydd ar gyfer 2017-18 hyd at 2019-20 yn parhau’n wastad mewn termau ariannol, sef £3.051 miliwn.

Wrth ymateb i gwestiynau yn y Pwyllgor ynghylch ei chyllid, dywedodd y Comisiynydd ei bod hi’n derbyn realiti’r hinsawdd ariannol. Fodd bynnag, nododd hefyd sut y mae’n effeithio ar ei gwaith:

Beth sydd ddim yn mynd i ddigwydd i’r un graddau efallai ag y byddai wedi digwydd yn y gorffennol yw’r elfennau o waith ymchwil… Mae’n debyg mai’r ochr arall sydd ddim yn cael gymaint o adnodd ag y buaswn i’n ei ddymuno yw’r ochr hybu a hyrwyddo, y gwaith meddalach.

Gwaith anstatudol a chydweithio

O weithio’n agos gyda busnesau a sefydliadau’r trydydd sector, mae’r Comisiynydd yn anelu at annog, hyrwyddo a hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith o fewn y sectorau hyn. Rhan allweddol o hyn yw gcydweithio â chyrff ymbarél fel Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r Consortiwm Manwerthu yng Nghymru. Mae’r Comisiynydd hefyd yn gweithio’n agos â chyrff cyhoeddus fel Chwaraeon Cymru i estyn allan at glybiau chwaraeon.

Un canlyniad o gydweithio â Chwaraeon Cymru yn ystod 2016-17 oedd lansio pecyn cymorth: Y Gymraeg: Amdani! Mae’n darparu cyngor ymarferol i glybiau a chymdeithasau chwaraeon ar ddatblygu gweithgareddau yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi parhau i weithio’n agos gyda’r archfarchnadoedd a banciau’r stryd fawr trwy fforymau sefydledig. Dywedodd y Comisiynydd yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor fod y fforymau yn:

Creu atebion eu hunain mae yna awydd yna i ddatrys problemau, ond yn fwy na hynny, gweld budd busnes economaidd i’r Gymraeg.


 Erthygl gan Osian Bowyer, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu gwella’i wefan, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn eich barn chi. A fyddech cystal â chymryd rhan yn yr  arolwg byr hwn.