Cymeradwyo’r Cwnsler Cyffredinol newydd

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 3 Tachwedd, fe wnaeth y Prif Weinidog ail-drefnu’r Cabinet, gan enwi Jeremy Miles AC fel y darpar Gwnsler Cyffredinol. Ar 14 Tachwedd, yn y Cyfarfod Llawn, bydd y Cynulliad yn pleidleisio ynghylch a ddylid cymeradwyo’r enwebiad fel y gall y Prif Weinidog argymell i’r Frenhines y dylid gwneud y penodiad.

Rôl y Cwnsler Cyffredinol

Mae adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“y Ddeddf”) yn darparu ar gyfer penodi Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru. Mae’r rôl yn cynnwys:

  • darparu cyngor cyfreithiol i’r llywodraeth;
  • goruchwylio gwaith yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol sy’n darparu gwasanaethau cyfreithiol i Lywodraeth Cymru;
  • goruchwylio erlyniadau ar ran Llywodraeth Cymru;
  • goruchwylio cynrychiolaeth Llywodraeth Cymru yn y llysoedd;
  • ystyried a oes angen cyfeirio Biliau sydd wedi’u pasio gan y Cynulliad at y Goruchaf Lys i benderfynu a ydynt o fewn cymhwysedd y Cynulliad;
  • ateb cwestiynau am ei waith yn y Cynulliad; a
  • chyflawni unrhyw swyddogaethau eraill er budd y cyhoedd gan gynnwys, pan fo’r Cwnsler Cyffredinol yn credu ei bod yn briodol, cychwyn, amddiffyn neu ymddangos mewn unrhyw achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â swyddogaethau Llywodraeth Cymru.

Mae’r rôl hon yn cyfateb i rôl Twrnai Cyffredinol Llywodraeth y DU.

Arwydd Llywodraeth Cymru tu-fas grisiau adeilad Parc Cathays

Telerau’r penodiad

Penodir Cwnsler Cyffredinol gan y Frenhines ar argymhelliad y Prif Weinidog, ond rhaid i’r argymhelliad ar gyfer y penodiad gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol. Nid oes yn rhaid i’r person a benodir fod yn Aelod Cynulliad, er y gall Aelod Cynulliad wasanaethu fel Cwnsler Cyffredinol (mae’r Prif Weinidog, y Gweinidogion a’r Dirprwy Weinidogion yn cael eu gwahardd yn benodol rhag gwneud hynny yn y Ddeddf). Mae Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn disgrifio’r swydd fel un o “statws ‘gweinidog'” ond ni all y deiliad fod yn un o ‘Weinidogion Cymru’. Yn y Pedwerydd Cynulliad, Theodore Huckle QC oedd y Cwnsler Cyffredinol cyntaf, a’r unig un hyd yn hyn, nad oedd yn Aelod Cynulliad.

Caiff y Prif Weinidog, gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, argymell i’r Frenhines gael gwared ar y Cwnsler Cyffredinol ar unrhyw adeg; caiff y Cwnsler Cyffredinol gyflwyno ei ymddiswyddiad ar unrhyw adeg. Yn wahanol i Weinidogion Cymru a Dirprwy Weinidogion Cymru, nid oes yn rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol ymddiswyddo ar ôl pleidlais o ddiffyg hyder yng Ngweinidogion Cymru. Fodd bynnag, bydd yn peidio â dal y swydd pan enwebir Prif Weinidog newydd o dan adran 47 (ond gellid ei ail-benodi gan y Prif Weinidog sy’n dod i rym).

Cyfranogiad y Cwnsler Cyffredinol yn nhrafodion y Cynulliad

Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn glir y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cael ei drin yr un fath â Gweinidogion Cymru yn Nhrafodion y Cynulliad. Yr un eithriad yw na fydd Cwnsler Cyffredinol nad yw’n Aelod Cynulliad yn gallu pleidleisio. Mae Rheol Sefydlog 9.4 yn datgan:

Os nad yw’r Cwnsler Cyffredinol yn Aelod, mae’r Rheolau Sefydlog yn gymwys i’r Cwnsler Cyffredinol fel y maent yn gymwys i Aelodau a chaiff y Cwnsler Cyffredinol gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad ond ni chaiff bleidleisio.

Bydd disgwyl i’r Cwnsler Cyffredinol, boed yn Aelod Cynulliad neu beidio, ateb cwestiynau llafar ac ysgrifenedig a gwneud datganiadau llafar neu ysgrifenedig.

Mae adran 34 o Ddeddf 2006 yn ymdrin â chyfranogiad y Cwnsler Cyffredinol yn nhrafodion y Cynulliad ac mae’n cynnwys darpariaeth sy’n galluogi’r Cwnsler Cyffredinol i wrthod darparu dogfennau neu i ateb cwestiynau am achosion troseddol penodol os yw’n ystyried y gallai gwneud hynny niweidio’r achos hwnnw, neu y byddai fel arall yn groes i fudd y cyhoedd.

Achosion Cyfreithiol

O dan adran 67 o Ddeddf 2006, mae’r Cwnsler Cyffredinol, fel cynrychiolydd Gweinidogion Cymru yn y llysoedd, yn gallu cychwyn, amddiffyn neu ymddangos mewn unrhyw achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â materion ynghylch unrhyw swyddogaethau sy’n arferadwy gan Lywodraeth Cymru, ar yr amod bod y Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny er mwyn hyrwyddo neu warchod lles y cyhoedd.

Y Goruchaf Lys yn craffu ar Filiau’r Cynulliad

Mae adran 112 o Ddeddf 2006 yn darparu dull i’r Cwnsler Cyffredinol neu Dwrnai Cyffredinol y DU gael penderfyniad gan y Goruchaf Lys ynghylch a yw Biliau’r Cynulliad neu ddarpariaethau penodol ym Miliau’r Cynulliad o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Ni ellir ond gwneud hyn o fewn y cyfnod o bedair wythnos yn dechrau ar y dyddiad y pasiwyd y Bil gan y Cynulliad Cenedlaethol. Digwyddodd hyn ar dri achlysur yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Cyfeiriwyd dau Fil gan y Twrnai Cyffredinol (Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 a Bil y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 ac un gan y Cwnsler Cyffredinol  (Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)).

O dan welliannau a wnaed drwy Deddf Cymru 2017, gall Cwnsler Cyffredinol neu’r Twrnai Cyffredinol gyfeirio’r cwestiwn ynghylch a yw unrhyw ddarpariaeth mewn Bil yn ymwneud â phwnc a warchodir i’r Goruchaf Lys am benderfyniad. Caiff pwnc a warchodir ei ddiffinio fel:

  • enw’r Cynulliad,
  • y personau sydd â hawl i bleidleisio fel etholwyr mewn etholiad ar gyfer aelodaeth y Cynulliad,
  • y system ar gyfer ethol Aelodau’r Cynulliad,
  • manylion yr etholaethau, rhanbarthau neu unrhyw ardal etholiadol gyfatebol neu eu nifer,
  • nifer yr aelodau i’w hethol ar gyfer pob etholaeth, rhanbarth neu ardal etholiadol gyfatebol, a
  • nifer y personau a gaiff fod yn Weinidogion Cymru i’w penodi o dan adran 48 neu’n Ddirprwy Weinidogion Cymru.

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru