Brexit a’r amgylchedd: Golwg ar sut y mae Pwyllgorau deddfwrfeydd y DU yn paratoi Rhan 2- Senedd yr Alban

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r gyfres hon o bedair erthygl blog yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch pwyllgorau ar draws deddfwrfeydd y DU, yn ymwneud ag effeithiau posibl gadael yr Undeb Ewropeaidd ar bolisi amgylcheddol ac amaethyddol. Mae hefyd yn ymchwilio i feysydd a fydd yn effeithio ar y meysydd polisi hyn gan gynnwys masnach ryngwladol, mewnfudo ac unrhyw newidiadau posibl mewn setliadau datganoli.

Mae’r gyfres hon yn cyfeirio at ymchwiliadau pwyllgorau a gynhaliwyd yn ystod yr haf a’r hydref a bydd yn cynnwys 1) Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2) Senedd yr Alban, 3) Tŷ’r Cyffredin a 4) Tŷ’r Arglwyddi (gan gydnabod bod Pwyllgorau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn parhau i fod wedi’u diddymu).

Mae’r erthygl hon yn cynnwys Senedd yr Alban ac mae’n dilyn erthygl ddoe a oedd yn ymchwilio i  Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd yr erthygl nesaf yn ymchwilio i waith Tŷ’r Cyffredin.

Yr Alban

1. Y Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Materion Allanol

Dyma brif bwyllgor Senedd yr Alban ar gyfer cydlynu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ymchwiliad Erthygl 50

Mae’r ymchwiliad parhaus  yn edrych ar y trafodaethau ynghylch Erthygl 50 a’u goblygiadau i’r Alban. O ran goblygiadau amgylcheddol, mae tystiolaeth a gyflwynwyd gan Gyswllt Amgylchedd yr Alban yn nodi’r blaenoriaethau canlynol:

  • ymgorffori safonau a chyfreithiau diogelu’r amgylchedd presennol yr UE mewn cyfraith ddomestig, gan bwysleisio na ddylai hyn fod yn gyfle i ddadreoleiddio;
  • sicrhau bod pob polisi yn cyfrannu at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig;
  • sicrhau bod dulliau ar waith fel y gall y DU fodloni ei hymrwymiadau rhyngwladol ar newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth, diogelu morol a llywodraethu amgylcheddol; a
  • diogelu cyllid pellach ar gyfer ymchwil amgylcheddol a phrosiectau gwarchod natur yn absenoldeb cyllid yr UE.

Ymchwiliad Mewnfudo

Mae’r ymchwiliad  yn ymchwilio i sut y gall polisi mewnfudo’r DU ymateb orau i anghenion demograffig a sgiliau’r Alban. O ran goblygiadau i’r sector amaethyddol, mae tystiolaeth a gyflwynwyd gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr yr Alban (NFUS) yn datgan:

  • mae’n rhaid i drefniadau masnach gydag Ewrop a gweddill y byd alluogi diwydiannau ffermio a phrosesu bwyd i gael mynediad at weithwyr, yn enwedig y sector ffrwythau a llysiau sy’n dibynnu ar lafur cynaeafu o’r tu allan i’r DU;
  • byddai system ar gyfer y DU gyfan yn fuddiol gan fod gweithwyr mudol yn tueddu i symud o dde Lloegr i’r Alban dros dymor y cynhaeaf; a
  • cred yr NFUS mai Cynllun Llafur Amaethyddol penodol fyddai’r ateb gorau.

Gwaith arall y pwyllgor

Cyfarfu’r Pwyllgor â Michael Barnier, Prif Negodwr y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Brexit, ar 11 Medi. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys; y cynnydd o ran y trafodaethau ar Erthygl 50; sefyllfa’r UE a’r DU o safbwynt y Comisiwn Ewropeaidd; a phryderon yr Alban. Dywedodd Joan McAlpine, Cynullydd y Pwyllgor fod ‘mwyafrif y Pwyllgor yn ffafrio aros yn y farchnad sengl’.

Ynghyd â dau bwyllgor arall Senedd yr Alban, mae’r Pwyllgor wedi sefydlu Panel Arbenigwyr Allanol i’w gynorthwyo gyda’i waith. Mae’r Panel yn fenter ar y cyd â’r Ganolfan ar Newid Cyfansoddiadol, a leolir ym Mhrifysgol Caeredin.

Llun: Yr Ynys Hir (yn yr Alban)

2. Pwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Ar 19 Medi, ysgrifennodd Michael Russell, Gweinidog Llywodraeth yr Alban dros Drafodaethau’r DU ar le’r Alban yn Ewrop, at y Pwyllgor. Roedd yn amlinellu 111 o feysydd cyfrifoldeb datganoledig yr Alban a fyddai’n cael eu heffeithio gan ddrafftio cyfredol cymal 11 o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (‘Bil Ymadael’) sy’n darparu ar gyfer ‘rhewi’ cymhwysedd Senedd yr Alban mewn perthynas â chyfraith yr UE.

Ar 20 Medi, cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth  gan Michael Russell, ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) (PDF 478KB)  Llywodraeth yr Alban ar y Bil Ymadael sy’n rhestru’r cymalau y mae’n credu eu bod yn ddarostyngedig i Gydsyniad Deddfwriaethol. Ar 4 Hydref cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a Hugh Rawlings, Cyfarwyddwr, Materion Cyfansoddiadol, Llywodraeth Cymru.

Effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gyllideb yr Alban

Cwestiwn allweddol y mae’r Pwyllgor yn ei ofyn yw p’un a fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith wahanol yn yr Alban i weddill y DU. O ran cymorth amaethyddol, cyflwynwyd tystiolaeth gan yr NFUS, a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar ymrwymiadau gwario a ffurfio cyllidebau hyd at 2022:

  • bydd yr NFUS yn cyflwyno sylwadau cryf i sicrhau bod Datganiad yr Hydref Trysorlys Ei Mawrhydi wedi dyrannu a neilltuo cyllid i gyfateb i gyllid y PAC hyd at ddiwedd y Senedd nesaf yn 2022 fel yr ymrwymwyd iddo ym maniffesto’r Blaid Geidwadol yn 2017;
  • byddai’r NFUS yn cefnogi Llywodraeth yr Alban o ran unrhyw gais am eglurder gan Drysorlys EM ar sut y bydd y cyllid yn cael ei gyflwyno i’r llywodraeth ddatganoledig; ac
  • ar ôl 2022, safbwynt yr NFUS yw y dylai Trysorlys EM ariannu’r polisi amaethyddol newydd ar fframwaith cyllid ar gyfer y DU gyfan, ond gyda’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael yr offer a’r ysgogiadau polisi i sicrhau bod y polisi amaethyddol yn gweithio i bob un o bedair rhan y DU. Ni fyddai unrhyw ymagwedd sy’n mabwysiadu polisi ‘Defra-ganolog’, sy’n un sy’n addas i bawb ar gyfer y cenhedloedd datganoledig yn dderbyniol.

Gwaith arall y pwyllgor

Ymddangosodd Michael Russell gerbron y Pwyllgor ym mis Mehefin i drafod Datblygiadau Brexit (PDF 452KB) . Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y JMC (EN) sydd i fod i gyfarfod yn fisol, wedi cyfarfod ddiwethaf ym mis Chwefror. Awgrymodd Michael Russell y dylid trefnu cyfarfodydd JMC (EN) i gyd-fynd â’r patrwm y cytunwyd arno ar gyfer cyfarfodydd i drafod Erthygl 50.

3. Pwyllgor yr Economi Wledig a Chysylltedd

Goblygiadau canlyniad Refferendwm yr UE i’r Alban

Mae’r Pwyllgor wedi edrych ar y sectorau amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgodfeydd gan glywed tystiolaeth gan Confor; NFUS; Cyswllt Amgylchedd yr Alban, Tir ac Ystadau yr Alban. Yn ogystal, mae’n disgwyl ymchwilio i faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth, digidol a bwyd a diod yn ddiweddarach. Mae’r Pwyllgor wedi penodi Mike Rumbles MSP fel gohebydd yr UE i fonitro ac asesu’r effaith ar faterion o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.

4. Y Pwyllgor Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir

Mae gan y Pwyllgor ystod eang o ymchwiliadau parhaus mewn meysydd fel diwygio tir, ansawdd aer a newid yn yr hinsawdd. Nid oes unrhyw un ohonynt yn canolbwyntio’n benodol ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn lle hynny, mae’r Pwyllgor wedi gofyn i’r Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Chysylltiadau Allanol ystyried yr effeithiau ar yr amgylchedd ac ymdrechion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd o fewn cwmpas ei waith ar adael yr Undeb Ewropeaidd.

5. Canolfan Wybodaeth Senedd yr Alban (SPICe) – Gwasanaeth Ymchwil Seneddol

Mae SPICe yn cyhoeddi’r  Wybodaeth ddiweddaraf am Adael yr Undeb Ewropeaidd yn wythnosol.

Cyhoeddodd SPICe bapur briffio ym mis Awst ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Goblygiadau i’r Alban.


Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru