Brexit a'r amgylchedd: Cipolwg ar y modd y mae Pwyllgorau deddfwrfeydd y DU yn paratoi. Rhan 3- Senedd y DU: Tŷ’r Cyffredin

Cyhoeddwyd 16/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r gyfres hon o bedwar blog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith pwyllgorau deddfwrfeydd y DU yn ymwneud ag effeithiau posibl Brexit ar bolisi amgylcheddol ac amaethyddol. Mae hefyd yn ystyried materion a fydd yn effeithio ar y meysydd polisi hyn gan gynnwys masnach ryngwladol, mewnfudo ac unrhyw newidiadau posibl mewn setliadau datganoli.

Mae'r gyfres hon yn cyfeirio at ymchwiliadau'r pwyllgorau dros gyfnod yr haf a’r hydref gan gynnwys 1) Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2) Senedd yr Alban, 3) Tŷ'r Cyffredin a 4) Tŷ'r Arglwyddi (gan gydnabod fod Pwyllgorau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn parhau i fod wedi'u diddymu).

Mae'r blog hwn yn ymdrin â Thŷ’r Cyffredin ac mae’n dilyn yr erthygl a gyhoeddwyd ddoe, sef Senedd yr Alban.

Bydd y blog nesaf yn archwilio gwaith y Tŷ'r Arglwyddi.

Senedd y DU: Tŷ’r Cyffredin

1. Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Ymchwiliad i’r fasnach fwyd

Ym mis Medi, lansiodd y Pwyllgor ymwchiliad i effaith Brexit ar y fasnach fwyd. Bydd y Pwyllgor yn archwilio sut y gallai cytundeb masnach posibl effeithio ar ffermwyr, proseswyr bwyd a defnyddwyr. Bwriedir cynnal archwiliad cychwynnol o'r sector cynhyrchu a phrosesu cig defaid yn yr hydref. Mae'r Pwyllgor yn ystyried materion sy’n ymwneud â’r DU gyfan.

Ymchwiliad i waith Defra

Ar 13 Medi, cynhaliodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig sesiwn tystiolaeth lafar unigol ar waith Defra gyda Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a chafodd ei holi am drefniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mewn perthynas â diwydiant amaethyddol Cymru, tynnodd sylw at ddibyniaeth y sector cig defaid ar farchnad allforio'r UE gan ddweud:

...we have a trade deficit in agri-food products with the EU. They sell more to us than we sell to them. However…there are differences sector by sector, and the sheep meat sector is particularly dependent at the moment on EU exports. Of course, that is a particular concern of mine because whether it is upland Wales, Scotland or the north-west, sheep farming is integral to a way of life that has gone on for generations and which is part and parcel of what it is to be British.

Mewn perthynas â datganoli dywedodd:

... when it comes to the allocation of agricultural support we want to give the maximum amount of autonomy to the devolved administrations, but it is also the case that we have to say that if exercised in a particular way a decision by one administration may have a material impact on another. We need to find the right method of reconciling the need to respect the devolution settlement with the need to ensure that we do not undermine the agri‑food industry, farmers or fishermen UK‑wide.

Ymchwiliad i bysgodfeydd

Nod y sesiwn untro hon yw ystyried yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu Diwydiant Pysgota’r DU ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a Chonfensiwn Pysgodfeydd Llundain. Mae’r sesiwn yn trafod yr effaith ar bysgotwyr, proseswyr bwyd môr a defnyddwyr yn y DU cyn y Bil Pysgodfeydd arfaethedig.

2. Y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol

Ymchwiliad i bolisi amgylcheddol Llywodraeth y DU

Ar 1 Tachwedd, cafodd Michael Gove ei holi gan y Pwyllgor ynghylch polisi amgylcheddol Llywodraeth y DU. Roedd hon yn sesiwn eang a chafodd ei holi am effaith Brexit ar ei bortffolio ac am y materion allweddol canlynol:

  • Sefydlu corff amgylcheddol tebyg i'r Comisiwn Ewropeaidd i ymdrin â materion cydymffurfio a diogelu mewn perthynas â’r amgylchedd. Ni allai gadarnhau a fyddai corff o'r fath wedi’i sefydlu erbyn y diwrnod y byddwn yn gadael yr UE nac ychwaith a fyddai’n gallu gorfodi dirwyon ar unrhyw lywodraeth. Dywedodd y byddai'n ymgynghori ynghylch natur y corff cyn cyflwyno cynlluniau pendant. Trafodwyd a fyddai cyrff diogelu ar wahân yn cael eu sefydlu ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig;
  • Statws egwyddorion yr UE (fel yr egwyddor ragofalus ac egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’). Dywedodd na chaiff y rhain eu hymgorffori yng nghyfraith y DU drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ('Y Bil Ymadael'). Yn hytrach, byddant yn cael eu hymgorffori mewn canllawiau polisi a bydd cyfraith achos yn sail ar gyfer cydymffurfio ag egwyddorion o'r fath;
  • Yr amserlen ar gyfer y Cynllun Amgylcheddol 25 mlynedd. Dywedodd y disgwylir i hwn gael ei gyhoeddi cyn y Nadolig, neu ym mis Ionawr 2018 o bosibl. Mae’r cynllun wedi’i anfon at y gweinyddiaethau datganoledig. Mae'r cynllun 25 mlynedd ar gyfer Bwyd, Amaethyddiaeth a Physgodfeydd wedi’i ollwng erbyn hyn a chaiff Bil Amaethyddiaeth a Bil Pysgodfeydd eu cyflwyno yn ei le ; a
  • Bil Amaethyddiaeth arfaethedig y DU . Dywedodd y bydd yn cyflwyno papur gorchymyn i ddechrau. Bydd hyn yn amlinellu'r egwyddorion ar gyfer cymorth i’r sector amaethyddol yn y dyfodol a defnyddir ymatebion i'r papur i ddatblygu bil amaethyddol newydd erbyn y gwanwyn neu’r haf 2018. Roedd Gove yn hyrwyddo’r egwyddor o ddefnyddio 'arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus' a dywedodd y bydd y papur gorchymyn yn esbonio beth yw nwyddau cyhoeddus a sut y gellid rhoi’r egwyddor ar waith. Pwysleisiodd y byddai rhyddid i'r gweinyddiaethau datganoledig gynllunio’u systemau amaethyddol eu hunain (o fewn fframweithiau'r DU) ac y byddai'r rhain yn cael eu hariannu.

Ers y sesiwn, mae Michael Gove wedi cyhoeddi cynlluniau i gyhoeddi ymgynghoriad ar y corff amddiffyn yr amgylchedd yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Dywedodd:

One of the key questions, which we will explore with the devolved administrations (DAs), is whether Scotland, Wales and Northern Ireland wish to take a different or similar approach.

Ymchwiliad i ddyfodol rheoleiddio cemegolion yn dilyn refferendwm yr UE

Yn dilyn ymchwiliad blaenorol y Pwyllgor i ddyfodol rheoleiddio cemegolion ar ôl refferendwm yr UE ac Ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad yr ymchwiliad, mae’r Pwyllgor wedi galw am gyflwyniadau ysgrifenedig ychwanegol ar ymateb Llywodraeth y DU. llun o gae gwair yn Lloegr

3. Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Hynt trafodaethau'r DU ar adael yr Undeb Ewropeaidd

Mae’r ymchwiliad yn ystyried safbwynt Llywodraeth y DU a'i phartneriaid yn y trafodaethau. Mae’n asesu trefn y trafodaethau, gan gynnwys y darpariaethau sy'n ymwneud â’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, gan gynnwys trefniadau trosiannol.

Bydd yn archwilio sut y mae Llywodraeth y DU yn rheoli’r trafodaethau yng nghyd-destun y Papur Gwyn a'i chysylltiadau â'r gweinyddiaethau datganoledig. Bydd hefyd yn ystyried a oes gan yr Adran Ymadael yr UE, a’r strwythurau sydd ar waith drwy’r llywodraeth, y capasiti a'r gallu i reoli'r trafodaethau’n effeithiol.

Ymchwiliad i’r Bil Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

Mae’r ymchwiliad hwn yn ystyried a yw’r Bil Ymadael yn ymdrin yn ddigonol â’r heriau sydd ynghlwm wrth droi’r acquis yn gyfraith yn y DU ac a fydd yn rhoi sicrwydd cyfreithiol ar y diwrnod y byddwn yn gadael yr UE. Mae'n ystyried a fydd darpariaethau ar gyfer yr elfennau hynny o’r acquis nad ydynt yn ddeddfwriaethol, fel cyfraith achos Llys Cyfiawnder Ewrop a dyfarniadau rheoleiddio asiantaethau’r UE.

Bydd yn asesu pa bwerau sydd i'w dirprwyo i Weinidogion y DU i sicrhau bod y broses o ymgorffori cyfraith yr UE yn cyd-fynd â'r trafodaethau ar adael yr UE a pherthynas y DU â’r UE yn y dyfodol. Mae'n archwilio goblygiadau’r Bil Ymadael i’r setliadau datganoli. Mae'r ymchwiliad hefyd yn ystyried goblygiadau'r Bil Ymadael ar berthynas y DU ag asiantaethau'r UE yn y dyfodol a’i chyfraniad at gytundebau a fydd yn ymwneud ag Ewrop gyfan.

4. Y Pwyllgor Materion Cymreig

Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Amaethyddiaeth a dychwelyd pwerau

Mae’r ymchwiliad yn archwilio goblygiadau’r Bil Ymadael i setliad datganoli Cymru. Mae'n ystyried sut y gellid strwythuro fframweithiau cyffredin ar gyfer y DU gyfan, a pha fecanweithiau rhyng-seneddol y byddai eu hangen ar gyfer gwaith craffu.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn archwilio sut y dylid dyrannu cyllid amaethyddol yng Nghymru ar ôl gadael yr UE ac a ddylai Cymru ddatblygu ei pholisi ei hun neu fod yn rhan o bolisi ehangach y DU. Mae'n archwilio’r trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd i’r gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU gydweithio ar faterion masnachu. Mae hefyd yn nodi’r problemau sy’n wynebu’r sector masnach amaethyddol yng Nghymru a sut y dylid diogelu lefelau masnach ac allforio bwyd a diod Cymru.

5. Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin

Mae Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn cyhoeddi blog am Brexit yn rheolaidd, sef Second Reading.

Mae lllawer o wybodaeth i’w chael yn Hub Brexit y Llyfrgell. Bob dydd Llun, bydd y Llyfrgell yn cyhoeddi Brexit: devolved legislature business, sy'n gofnod o fusnes cysylltiedig â Brexit yn y deddfwrfeydd datganoledig.

Mae'r Llyfrgell yn cynhyrchu sesiynau briffio ar gyfer pob cylch o drafodaethau Erthygl 50 .

Dyma rai papurau briffio eraill yn ymwneud â Brexit:

Mae’r Llyfrgell hefyd yn cyhoeddi rhestr ddarllen ar Brexit: Brexit: a reading list of post-EU Referendum publications by Parliament and the Devolved Assemblies.


Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru